Ydych chi'n cael trafferth gwneud amser i ddarllen?
Mae'r rhan fwyaf ohonom yn dweud hynny!
Wedi鈥檌 ysbrydoli gan y , mae CAL:ON Cymru yn cynnal Sesiynau Darllen yr Haf drwy gydol gwyliau鈥檙 haf. Mae鈥檙 syniad yn syml: ychydig oriau lle mae鈥檙 gweithgaredd yn syml yw darllen. Bob wythnos, rydym yn creu lle croesawgar lle gall teuluoedd ymlacio a mwynhau llyfrau gyda鈥檌 gilydd.
Rydym yn byw mewn byd o hysbysiadau, sgriniau ac amserlenni prysur, felly gall dod o hyd i amser di-dor i ddarllen fod yn anodd. Mae cael dyddiad a lleoliad ar gyfer darllen yn y dyddiadur yn boblogaidd gyda theuluoedd lleol a, gobeithio, bydd yn annog plant ac oedolion i feddwl am ddarllen fel arfer pleserus.
Mae ein Sesiynau Darllen Haf yn digwydd mewn caffis, hybiau cymunedol, siopau llyfrau a gerddi ledled yr ardal, i ddangos i blant y gall darllen ddigwydd yn unrhyw le, nid yn yr ysgol yn unig. Drwy gysylltu darllen 芒 phleser 鈥� rhywbeth y gallwch ei wneud mewn lle hardd, neu gornel glyd gyda diod braf 鈥� rydym yn hyrwyddo mwynhad wrth ddarllen. Yn fwy na hynny, mae'n seibiant o fyd sgriniau 鈥� dihangfa 鈥� encil 鈥� tr卯t.
Mae'r Athro Manon Jones, cyd-arweinydd CAL:ON Cymru, wedi tynnu sylw bob amser at ba mor bwysig yw pleser darllen o ran gwella canlyniadau llythrennedd:
鈥淓r bod CAL:ON Cymru yn gweithio gydag ysgolion i ddatblygu sgiliau darllen yn yr ystafell ddosbarth, rydym hefyd yn gwybod y gall darllen fod yn fwynhad mawr mewn bywyd. Gobeithiwn y bydd y sesiynau hyn yn annog pobl i wneud amser i ddarllen dros yr haf 鈥� rhywbeth y mae llawer ohonom yn ei chael hi鈥檔 anodd ei wneud, hyd yn oed gyda鈥檙 bwriadau gorau!鈥�
Mae Sesiynau Darllen yr Haf wedi鈥檜 cynllunio ar gyfer gwyliau鈥檙 haf, ond rydym yn bwriadu parhau 芒'r cysyniad drwy gydol y flwyddyn. Ac nid yn ystod y Flwyddyn Darllen Genedlaethol yn unig! Mae creu arferion yn cymryd amser a chysondeb. Gyda hynny mewn golwg, rydym yn edrych ar ffyrdd o gadw amser a lle ar gyfer darllen, ac o gyrraedd mwy o bobl a lleoedd.
Yn ogystal 芒 darparu pecyn cymorth i ysgolion i wella canlyniadau llythrennedd, mae eisiau hyrwyddo darllen er mwyn hwyl. Pa fath o ddigwyddiadau ydych chi'n meddwl sy'n meithrin mwynhad mewn darllen i blant ac oedolion?