¾«¶«´«Ã½

Fy ngwlad:

Rhaglen dosbarth cyfan OxEd - gwybodaeth i rieni a gofalwyr

Beth yw pwrpas yr astudiaeth?

Mae’r astudiaeth hon yn rhan o waith CAL:ON (Canolfan Addysgu Llythrennedd: Offer tuag at Newid), sef canolfan genedlaethol ar gyfer llythrennedd ym Mhrifysgol ¾«¶«´«Ã½, wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae llawer o blant yng Nghymru, fel mewn gwledydd eraill, yn cael trafferth a sgiliau iaith lafar, an all arwain at anawsterau darllen ac ysgrifennu. Er mwyn ymateb i’r her hon, datblygwyd addasiad o’r ‘Nuffield Early Language Intervention’ (NELI) gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol ¾«¶«´«Ã½. Mae’r addasiad newydd o NELI yn cynnig cyfres o weithgareddau dosbarth cyfan Cymraeg a Saesneg i'w trosglwyddo dros ugain wythnos, a lunwyd i gefnogi sgiliau iaith lafar dysgwyr 4-6 mlwydd oed.