精东传媒

Fy ngwlad:

We Care: W辞尘别苍鈥檚 Empowerment: Cervical screening Access, Recovery and Empathy

Mesur effaith gwella gofal sgrinio ceg y groth ar gyfer menywod sydd wedi profi trais a cham-drin rhywiol (T&ChRh). 

Croeso i dudalen prosiect ymchwil yr astudiaeth: We Care: W辞尘别苍鈥檚 Empowerment: Cervical screening Access, Recovery and Empathy. 

Croeso i dudalen prosiect ymchwil WE CARE: Grymuso Merched鈥� Mynediad at Sgrinio Serfigol, Adferiad ac Empathi.


Mae WE CARE yn astudiaeth ryngwladol pum mlynedd wedi鈥檌 hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a鈥檙 Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR).


Mae鈥檙 prosiect yn archwilio sut y gellir gwella gwasanaethau sgrinio serfigol i ferched sydd wedi profi trais neu gam-drin rhywiol (T&ChRh), gyda鈥檙 nod o ddatblygu modelau gofal mwy hygyrch, tosturiol ac ymwybodol o drawma.

Logo i'r prioect We Care - Women's Empowerment: Cervical Screening Access, Recover and Empathy

Trosolwg

Mae canser ceg y groth yn un o鈥檙 canserau mwyaf ataliadwy, ond mae llawer o ferched yn parhau i wynebu rhwystrau i gael sgrinio. Gall y rhwystrau hyn fod yn fwy sylweddol i ferched sydd wedi profi T&ChRh, lle gall gweithdrefnau meddygol agos at y corff fod yn boenus, yn anhygyrch, neu鈥檔 aildrawmateiddio.


Er gwaethaf maint yr her, prin yw鈥檙 ymchwil sy鈥檔 archwilio profiadau goroeswyr o sgrinio serfigol. Mae WE CARE yn ceisio llenwi鈥檙 bwlch hwn drwy archwilio safbwyntiau menywod yng Nghymru, Lloegr, Sweden ac Awstralia, ac yn cyd-gynhyrchu atebion sy鈥檔 cefnogi gofal teg ac ymwybodol o drawma.

Cefndir

Mae trais a cham-drin rhywiol yn effeithio ar lawer o ferched a genethod, a gall y profiadau hyn gael effaith barhaol ar ymgysylltiad 芒 gwasanaethau iechyd. Mae deall profiadau goroeswyr o sgrinio serfigol ac ystyried sut y gall gwasanaethau ymateb yn well yn hanfodol i leihau anghydraddoldebau iechyd.


Drwy fabwysiadu dull rhyngwladol, mae鈥檙 prosiect yn archwilio sut mae gwahanol systemau iechyd yn ymateb i anghenion goroeswyr. Mae cymharu gwasanaethau ar draws Cymru, Lloegr, Sweden ac Awstralia yn ein galluogi i ddysgu o arferion amrywiol ac i nodi modelau sy鈥檔 effeithiol ac y gellir eu haddasu i wahanol gyd-destunau.

Nod y Prosiect

Mesur effaith gwella gofal sgrinio serfigol ar ferched sydd wedi profi trais a cham-drin rhywiol, a llywio datblygiad gwasanaethau sgrinio hygyrch, tosturiol ac ymwybodol o drawma.

Prif Amcanion

1. Cyd-gynhyrchu gyda goroeswyr ac ymarferwyr
Byddwn yn gweithio鈥檔 agos gyda:

  • Merched 芒 phrofiad bywyd o T&ChRh, drwy Gr诺p Cynghori鈥檙 Prosiect
  • Gweithwyr iechyd ac ymarferwyr, drwy鈥檙 Gr诺p Llywio鈥檙 Prosiect

Mae hyn yn sicrhau bod yr ymchwil yn cael ei harwain gan brofiadau go iawn ac yn seiliedig ar ymarfer.

2. Nodweddu heriau o fewn gwasanaethau presennol


Bydd y prosiect yn archwilio:

  • Rhwystrau i gyrchu sgrinio serfigol

  • Sut mae profiadau鈥檔 amrywio ar draws y pedair gwlad

  • nghenion, dewisiadau a disgwyliadau goroeswyr

     

3. Adolygiadau systematig

Byddwn yn cynnal adolygiadau cynhwysfawr o鈥檙 llenyddiaeth i gryfhau鈥檙 sail dystiolaeth ar gyfer pob ffrwd waith.

 

4. Archwilio darpariaeth sgrinio serfigol bresennol

Bydd yr astudiaeth yn gwerthuso sut mae gwasanaethau presennol yn cael eu darparu, eu cryfderau, a鈥檙 meysydd sydd angen gwella.

 

5. Datblygu model gwell o ofal

Bydd mewnwelediadau gan oroeswyr, ymarferwyr a thystiolaeth ymchwil yn llywio:
鈥�    Model damcaniaethol o ofal gwell
鈥�    Fframwaith ymarferol sy鈥檔 cefnogi sgrinio ymwybodol o drawma

6. Creu pecyn cymorth i ymarferwyr

Bydd pecyn cymorth seiliedig ar dystiolaeth yn cael ei ddatblygu i gefnogi:
鈥�    Gofal tosturiol ac ymwybodol o drawma
鈥�    Safonau ac arfer cyson ar draws gwasanaethau


7. Mesur effaith
Gan ddefnyddio Dychweliad Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) ac arfarniadau economaidd pellach, byddwn yn asesu:

  • Buddion y model gofal gwell
  • Effaith ar fenywod, gwasanaethau a chymdeithas ehangach


Pam Mae鈥檙 Ymchwil Hon yn Bwysig

Gall gwella gofal sgrinio serfigol ar gyfer goroeswyr:

  • Hybu ymgysylltiad 芒 gofal iechyd ataliol
  • Lleihau anghydraddoldebau a rhwystrau gwasanaeth
  • Cefnogi lles corfforol, emosiynol a seicolegol menywod
  • Hyrwyddo gofal tosturiol, canolig ar y person, ar draws systemau iechyd

Mae WE CARE yn unol ag ymrwymiad Prifysgol 精东传媒 i ymchwil effeithiol sy鈥檔 gwella iechyd a lles yng Nghymru a thu hwnt.

 

Ymunwch 芒 Ni

Rydym yn croesawu cyfranogiad gan:

  • Merched 芒 phrofiad bywyd o T&ChRh
  • Ymarferwyr o鈥檙 mesyseydd gofal ac iechyd
  • Sefydliadau partner a grwpiau cymunedol

Os hoffech gyfrannu neu ddysgu mwy, gallwn greu adran cysylltwch 芒 ni Ceryl.davies@bangor.ac.uk

Cwrdd 芒 Th卯m yr Ymchwil

Dr Ceryl Teleri Davies, o鈥檙 Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME), yw arweinydd y prosiect. Ariennir y r么l hon fel rhan o Gymrodoriaeth Uwch bum mlynedd.

Mae gan Ceryl gefndir ymarfer mewn gwaith cymdeithasol, gan gynnwys profiad ymarfer ac ymchwil mewn cefnogi menywod ifanc a menywod sydd wedi profi cam-drin domestig. Gellir darllen mwy am ei diddordebau ymchwil a鈥檌 harfer ar y dudalen we hon: [dolen i鈥檙 wefan].

Darperir cefnogaeth prosiect gan Kalpa Pisavadia, Swyddog Cefnogaeth Prosiect Ymchwil, ynghyd 芒 phedwar mentor academaidd:

Partneriaid Allweddol y Prosiect

  • Maria Barnes, Research Fellow, University of Bristol
  • Susie Baidawi, Associate Professor, Monash University
  • Susan Saldanha,  General Practice, Monash University
  • , Lecturer, Monash University
  • Lisa Hogan, Cervical Screening Wales
  • Fay Maxted, CEO, Survivors Trust
  • Lucy Duckworth, Survivors Trust
  • Sara Kirkpatrick, CEO, Welsh W辞尘别苍鈥檚 Aid: Sara Kirkpatrick
  • Dr Jill Zelin, Consultant GU Physician, Barts Health NHS Trust and My Body Back鈩� Clinic, London
  • Shirley McCann, Fundraising and Volunteer Officer, Stepping Stones
  • Freya Groom, Volunteer and Stakeholder Engagement Officer, Stepping Stones
  • Wanjiku Mbugua, BAWSO, Head of Services North Wales
  • Linette Backeman, Registrar, NCK and Uppsala University
  • Esther Clements, Gynaecology Advanced Nurse Practitioner, Lead Nurse Colposcopist BCUHB, Nurse Hysteroscopist
  • Fflur Emlyn, Deputy CEO/Head of Operations, Rape and Sexual Abuse Support Centre (RASASC), North Wales
  • Samantha Taylor, Senior Clinical Lead, Rape and Sexual Abuse Support Centre (RASASC), North Wales