Beth yw rhan CAFCASS mewn achosion plant.
Katie Crosland (Myfyriwr)
Beth yw CAFCASS a pham ei fod mor bwysig?
Mae鈥檙 Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd, neu CAFCASS, yn gorff cyhoeddus annibynnol, sydd arwah芒n i鈥檙 gwasanaethau cymdeithasol a鈥檙 llysoedd. Diben CAFCASS yw amddiffyn buddiannau plant sy'n ymwneud ag achosion plant a chynghori'r llysoedd ar fuddiannau a lles y plentyn. Yn aml bydd y llys yn gofyn am y gwasanaeth hwn pan fydd rhieni yn gwahanu ac ni allant ddod i drefniant ynghylch eu plant.
Beth mae CAFCASS yn ei wneud ar 么l ymgynghori 芒 nhw?
Mae CAFCASS yn cynnal gwiriadau cychwynnol er mwyn diogelu plant, sy'n cynnwys cysylltu 芒 phart茂on sydd yn ymwneud a鈥檙 oedolion perthnasol a gofyn iddynt am bryderon ynghylch diogelu. Gall CAFCASS siarad 芒'r plant hefyd. Bydd CAFCASS hefyd yn chwilio cofnodion yr Heddlu a Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n ymwneud 芒'r part茂on. Os nad yw'r gwiriadau hyn yn awgrymu unrhyw beth o bryder, efallai y bydd CAFCASS yn ceisio annog trefniant ynghylch y plant yn yr FHDRA (First Hearing Dispute Resolution Appointment). Fodd bynnag, os oes pryderon, efallai y gofynnir am adroddiad manylach ar ffurf Adroddiad Adran 7 (Section 7 report).
Adroddiad Adran 7 (Section 7 report)
Os nad yw鈥檙 materion wedi鈥檜 datrys yn y gwrandawiad cyntaf, neu os nad oedd y llythyr diogelu cychwynnol i鈥檙 llys yn foddhaol, bydd CAFCASS yn cynnal Adroddiad Adran 7. Yma, bydd swyddogion yn cyfarfod 芒'r plant a'r rhieni, ar wah芒n. Gallent hefyd estyn allan i ysgolion, aelodau eraill o'r teulu, ac yn y blaen, lle mae hun yn briodol. Mae dymuniadau鈥檙 plentyn neu鈥檙 plant yn bwysig, os ydynt yn ddigon hen, bydd CAFCASS yn cyfarfod 芒 nhw mewn lleoliad niwtral fel nad oes unrhyw farn gan ofalwyr. Pan fydd Swyddog CAFCASS yn ysgrifennu鈥檙 adroddiad hwn, bydd yn cyfeirio at y 鈥楻hestr Wirio Lles鈥� a geir yn Neddf Plant 1989. Mae鈥檙 Rhestr Wirio hon yn cynnwys yr ystyriaethau canlynol:
- Dymuniadau a theimladau'r plentyn dan sylw.
- Anghenion corfforol, emosiynol ac addysgol y plentyn.
- Yr effaith debygol ar y plentyn pe bai amgylchiadau'n newid o ganlyniad i benderfyniad y llys.
- Oedran, rhyw, cefndir y plentyn ac unrhyw nodweddion eraill a fydd yn berthnasol i benderfyniad y llys.
- Unrhyw niwed y mae'r plentyn wedi'i ddioddef neu a allai fod mewn perygl o'i ddioddef.
- Gallu rhieni鈥檙 plentyn (neu unrhyw berson arall y mae鈥檙 llysoedd yn ei ystyried yn berthnasol) i ddiwallu angen y plentyn.
- Y pwerau sydd ar gael i'r llys yn yr achos a roddwyd.
Bydd y Llys a CAFCASS yn defnyddio鈥檙 rhestr wirio hon ac adroddiad Adran 7 fel canllaw i ddod i gasgliad ynghylch lles y plant. Bydd CAFCASS yn cynhyrchu鈥檙 adroddiad hwn, ac yn rhoi argymhellion i鈥檙 llys ar gyfer trefniant plentyn, er nad yw鈥檙 llys bob amser yn glynu鈥檔 gaeth at hyn, a bydd y Barnwr yn defnyddio barn ei hun.
Polisi newydd CAFCASS
Mae CAFCASS hefyd wedi cyhoeddi ei Bolisi Arfer Cam-drin Domestig yn ddiweddar. Mae'r polisi hwn yn ei gwneud yn ofynnol i CAFCASS rannu gwybodaeth a roddir gan oedolion a phlant ynghylch Cam-drin Domestig, a'r risg o Gam-drin Domestig yn y dyfodol gyda鈥檙 llys. Mewn perthynas 芒 phlant, mae plentyn yn cael ei ystyried yn ddioddefwr cam-drin domestig o dan Ddeddf Cam-drin Ddomestig 2021 os yw鈥檔 gweld, yn clywed, neu鈥檔 profi effeithiau cam-drin domestig a鈥檌 fod yn perthyn i, neu鈥檔 derbyn gofal gan oedolyn sydd 芒 chyfrifoldeb rhiant amdanynt.
Mae clinig gyfraith Prifysgol 精东传媒 yn gallu cynghori ar faterion cyfreithiol teuluol, yn cynnwys gorchmynion plant ac ysgariad. Os rydych eisiau gwneud apwyntiad i drafod hyn ymhellach, gallwch ein ffonio 01248 388 411 neu ein e-bostio bulac@bangor.ac.uk.