Yr anawsterau gyda gorchmynion trefniadau聽 plant yn ystod y Nadolig
Ruth Roberts
Nawr mae'r tymor gwyliau yn agosau, gall trefniadau Nadolig ar gyfer plant fod yn anodd ac yn straen, yn enwedig i deuluoedd sydd 芒 rhieni newydd ysgaru neu wahanu.
Pan mae eich plant yn byw rhwng dau gartref, gall fod dipyn o wrthdaro a ffraeo wrth drosglwyddo o un rhiant a鈥檙 llall, er bod trefniadau ymarferol wedi ei rhoi yn ei lle. Mae鈥檙 cyfnod y Nadolig yn gwneud hyn yn anoddach byth i'r rhieni a'r plentyn, a'u hangen i dreulio amser gyda'r ddau deulu.
Er bod trefniadau a sefyllfaoedd ddim yn gweithio i bawb, Mae yna bethau ymarferol gall teuluoedd gwneud ar gyfer y Nadolig sydd yn gweithio i bawb. Er enghraifft, gall rhannu tri diwrnod Nadolig yn ei hanner, treulio noswyl Nadolig gyda rhiant, bore Nadolig gyda鈥檙 rhiant arall, ac wedyn yn 么l at y rhiant cyntaf am brynhawn Nadolig. Neu gall treulio diwrnod cyfan gydag un rhiant diwrnod Nadolig, a threulio diwrnod San Steffan gyda鈥檙 ail riant er mwyn dathlu ei ail ddiwrnod Nadolig. Maen syniad clywed barn y plant am beth yw ei dymuniadau nhw, yn ddibynnol wrth gwrs ar ei oedran.
Fel rydym yn ymwybodol, rhan amlaf mae鈥檙 gwyliau ysgol Nadolig dros gyfnod o bythefnos. O ganlyniad efallai gall y rhieni cytuno bod y plant gydag un rhiant am un wythnos, a gyda鈥檙 ail riant am yr ail wythnos o鈥檙 gwyliau ysgol.Ac wedyn bod yn drefniant yma yn newid bob yn ail flwyddyn.
Mae deddf teulu 1996 yn nodi bod anghenion plant i weld y ddau riant yn bwysicach na theimladau negyddol bydd un rhiant yn teimlo am wario鈥檙 Nadolig gyda鈥檌 gilydd. Unwaith byddwch wedi cytuno ar y trefniadau, mae angen bod yn bositif er lles y plant.
Dylai鈥檙 ddau riant sicrhau bod llesiant y plant yn cael blaenoriaeth dros unrhyw anghytundebau personol neu elyniaeth. Mae angen canolbwyntio ar greu ymdeimlad o sefydlogrwydd a chysondeb iddynt, hyd yn oed os yw hyn yn golygu cyfaddawdu.
Os ydych yn dal i gael trafferth gyda'r trefniadau, yna gallwch roi cynnig ar gyfryngu teuluol (family mediation), neu gallech wneud cais i鈥檙 llys am orchymyn trefniant plant.
Mae gorchymyn trefniadau plant yn gytundeb cyfreithiol sy鈥檔 rheoleiddio ble mae plentyn yn byw, gyda phwy y mae鈥檔 treulio amser, a phryd y gallant ddod i gysylltiad ag eraill:
- Ble mae鈥檙 plentyn yn byw
- Pa bryd mae鈥檙 plentyn yn treulio amser gyda鈥檙 rhieni
- Pryd a pa fath o gyswllt sydd yn cymryd lle
Mae gorchymyn trefniadau plant yn cael ei wneud ar 么l i berthynas torri lawr, ac maent yn cymryd lle 鈥楪orchmynion Cyswllt鈥� (鈥楥ontact Orders鈥�) a 鈥楪orchmynion Preswylio鈥� (鈥榬esidence Orders鈥�). maent yn cael eu gwneud gan y llys teulu ac maent yn seiliedig ar amgylchiadau'r teulu unigol a'r hyn sydd er lles gorau'r plentyn.
Mae cymal 8 o Ddeddf Plant 1989 yn rhoi p诺er i鈥檙 llysoedd gyhoeddi gorchmynion i reoleiddio trefniadau ar sut mae plentyn yn byw a threfniadau cyswllt
Mae clinig gyfraith Prifysgol 精东传媒 yn gallu cynghori ar gorchmynion trefniadau plant. Os rydych eisiau gwneud apwyntiad i drafod hyn ymhellach, gallwch ein ffonio 01248 388 411 neu ein e-bostio bulac@bangor.ac.uk