Cofio G诺yl Canol yr Hydref: Taith Ddiwylliannol!
Daeth G诺yl hyfryd Canol Hydref i ben. Rhoes i鈥檙 cynulleidfaoedd werthfawrogiad dwfn o draddodiadau a threftadaeth Tsieina. Cynhaliwyd yr 诺yl fel dathliad diwylliannol yn Neuadd Powis, Prifysgol 精东传媒, ar 29 Medi. Bu鈥檔 llwyddiant ysgubol ac yn gyfuniad cyfareddol o gelf, diwylliant a hanes. Roeddem wrth ein bodd i gael ein cydweithwyr o Gymdeithas Tsieina yng Nghymru i ymuno 芒 ni i gyflwyno gweithdy swynol ar grefftio llusernau Tsieineaidd.
Roedd uchafbwyntiau鈥檙 诺yl yn dyst i fywiogrwydd diwylliant Tsieina:
Perfformiad Dawns: Unodd gosgeiddrwydd ac dweud straeon yn llyfn wrth i ddawnsiwr gludo鈥檙 gynulleidfa drwy hen chwedlau Tsieina. Roedd ei pherfformiadau yn dyst i rym symudiad fel iaith gyffredin.
Perfformiad Tai Chi: O dan arweiniad tawel ein meistr Tai Chi, canfu pawb gydbwysedd a llonyddwch, a ddangosai ap锚l bythol yr ymarfer sy鈥檔 fodd i hyrwyddo lles corfforol a chytgord mewnol.
Gweithdai Caligraffeg a Chlymau Tsieineaidd: Cafodd y darpar artistiaid a鈥檙 selogion gyfle i ymchwilio i galigraffeg Tsieineaidd, a harddwch y ffurf gelfyddydol gywrain hon. Yn y cyfamser, daeth symbolaeth gyfoethog y clymau Tsieineaidd yn fyw yn nwylo'r cyfranogwyr wrth iddynt greu eu darnau unigryw eu hunain.
Gweithdy Torri Papur: Datblygodd crefft gain torri papur o flaen llygaid y cyfranogwyr, gan roi cyfle iddynt feistroli'r dechneg oesol hon a ddaeth i lawr trwy鈥檙 cenedlaethau. Roedd y dyluniadau cywrain a luniwyd yn ystod y gweithdy yn dyst i greadigrwydd a thraddodiad.
Roedd Gwyl Canol Hydref yn siwrne hyfryd mewn i ddiwylliant Tseina, a wnaeth argraff drawiadol ar fynychwyr o bob oedran. Fel ddywedodd Mike Pattison, a fynychodd y digwyddiad, 鈥楬ollol arbennig i weld cymaint o gelf a chrefft gwirioneddol Tseiniaidd a dawnswyr ysblennydd yma ym Mangor!鈥� Mae鈥檙 dyfyniad yma yn mynegi yn fywiog y rhyfeddod a鈥檙 gwerthfawrogiad a deimlwyd gan y rai gafodd y cyfle i brofi鈥檙 digwyddiad.
I Ellie, roedd yr 诺yl yn gyfle i archwilio a dysgu mewn dyfnder am draddodiadau Tseiniaidd. Rhanodd yn frwdfrydig 鈥楨s i o stondin i stondin, a roedd hi鈥檔 hynod o ddiddorol, addysgiadol, a newydd! Ro鈥檔 i 鈥榙i clywed am 糯yl Canol Hydref o鈥檙 blaen, ond roedd hi鈥檔 gr锚t i glywed mwy am y dathliad 鈥� yn enwedig chwedl y lleuad, y gwningen, a鈥檙 rheswm dros y gacen lleuad.鈥�
Gwnaeth Chiara, sy鈥檔 astudio ym Mangor, ffeindio鈥檙 诺yl yn enwedig o drawiadol. Dywedodd, 鈥楴es i wir fwynhau, yn enwedig y dawnsio. Rwy鈥檔 dawnsio yn yr Eidal, a roedd hi mor dd ai weld math wahanol o symudiad ag i ddysgu am ochr ysbrydol y ddawns.鈥�
Y perfformiadau bywiog wnaeth yr argraff fwyaf ar fwynh芒d Caitlin o鈥檙 digwyddiad, wrth iddi ddatgan, 鈥楻oedd e鈥檔 wych iawn, nes i fwynhau鈥檙 dawnsio a鈥檙 creu llusernau yn enwedig!鈥�
Y cyfle am brofiadau newydd ac i ehangu gorwelion oedd at ddant Danah, ar y llaw arall. Dywedodd, 鈥楻o鈥檔 i erioed wedi profi Tai Chi o鈥檙 blaen, felly roedd hynny鈥檔 rili dda, a ro鈥檔 i wir yn hoffi dysgu am y farddoniaeth a鈥檙 lleuad. Doedden id dim di gweld dawnsio Tseiniaidd o鈥檙 blaen, felly roedd hwna鈥檔 wir ddiddorol, ag oedd hi鈥檔 gr锚t i gael tro arni, er yn heriol i gofio鈥檙 symudiadau i gyd!鈥�
Nid yn unig bod G诺yl Canol Hydref wedi dod a blas o ddiwylliant Tseina i Fangor 鈥� ymhellach creodd ofod i rhannu diwylliannol a gwerthfawrogiad, lle i fynychwyr fel Ellie, Chiara, Caitlin, a Danah gysylltu 芒 thraddodiadau, mwynhau perfformiadau hudolus, a gwerthfawrogi dynfder treftadaeth Tseiniaidd.
Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y digwyddiad, y perfformwyr ac arweinwyr y gweithdai, y gwirfoddolwyr ymroddedig a鈥檙 cyfranogwyr brwdfrydig. Gyda'n gilydd, buom yn dathlu amrywiaeth ac yn creu cysylltiadau trawsddiwylliannol, gan ymgorffori ymdeimlad o undod a gwerthfawrogiad.
I gael cipolwg ar uchafbwyntiau'r 诺yl, ewch i鈥檔 tudalen .