Cryfhau Cysylltiadau Academaidd: Prifysgol 精东传媒 a CUPL yn Lansio鈥檙 Gyfnewidfa Ddysgu Gyntaf!
Rydym yn falch o rannu'r newyddion am gyfnewidfa ddysgu newydd sbon rhwng Prifysgol 精东传媒 a'r China University of Political Science and Law (CUPL), cam cyntaf cyffrous mewn partneriaeth academaidd yr ydym yn gobeithio a fydd yn un hirhoedlog a gwerthfawr.
Yn yr haf, Dr Eirini Sanoudaki oedd yr aelod cyntaf o staff 精东传媒 i gymryd rhan yn y gyfnewidfa, gan ddysgu cwrs ar gaffael iaith i fyfyrwyr CUPL yn Beijing. Roedd ei chyfnod yno yn llwyddiant ysgubol, gyda鈥檙 myfyrwyr yn ymateb yn frwdfrydig i'w darlithoedd ac yn cynnig canmoliaeth trwy gydol y cwrs.
Gwnaeth cyfnod Dr Sanoudaki ar lawr y dosbarth argraff barhaol. Daeth yn 么l i Fangor gyda detholiad o luniau a negeseuon meddylgar gan fyfyrwyr, yn adlewyrchu'r cysylltiad cryf a adeiladodd 芒'r myfyrwyr. Ysgrifennodd un myfyriwr: 鈥淢wynheais y darlithoedd yn fawr iawn. Dysgais lawer am iaith a sut mae'n gweithio. Roedd yn ddifyr iawn. Diolch am eich dysgu brwdfrydig a difyr!鈥�
Meddai un arall: 鈥�Mae'r gwersi'n ddiddorol ac yn ystyrlon鈥� Dw i'n hoffi cyflymder eich darlithoedd a'ch ffyrdd dysgu llawn hiwmor a diffuant. Rwy'n teimlo mor hapus a hamddenol y dyddiau hyn."
Dywedodd llawer o fyfyrwyr fod y cwrs wedi gwneud iddynt feddwl am iaith a chyfathrebu mewn ffordd newydd. Dyma oedd un sylw cofiadwy yn ei ddweud: 鈥�Roedd gennyf ddealltwriaeth sylfaenol o ieithyddiaeth. Mae gan iaith batrymau鈥� mae hynny'n wych!鈥�
Wrth feddwl am ei phrofiad, dywedodd Dr Sanoudaki: 鈥淢i wnes i fwynhau鈥檙 cwrs yn fawr iawn, ac rwy鈥檔 ddiolchgar i Sefydliad Confucius am drefnu a chefnogi鈥檙 gweithgaredd hwn. Ymatebodd y myfyrwyr yn CUPL yn frwdfrydig wrth ddysgu am ieithyddiaeth a 精东传媒; dysgais lawer am yr iaith Tsiein毛eg, lletygarwch a diwylliant gwych, a gwneud cysylltiadau a ffrindiau newydd. Mae鈥檙 fenter hon wedi helpu datblygu cysylltiadau a fydd yn rhai parhaol, yn fy marn i: Dw i'n edrych ymlaen at y camau nesaf a'm hymweliad nesaf yn barod!鈥�
Rydym yn falch dros ben bod profiad Dr Sanoudaki wedi bod yn werthfawr ac yn effeithiol, iddi hi ac i'r myfyrwyr hefyd. Wrth iddi ddychwelyd i Fangor i rannu ei phrofiadau gyda鈥檌 chydweithwyr, rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y dechrau cadarnhaol hwn.
Mae'r cynllun cyfnewid hwn eisoes wedi dangos potensial fel llwyfan i gydweithio academaidd a diwylliannol. Rydym yn falch o fod wedi gallu cynnig cefnogaeth i helpu hwyluso'r cynllun cyfnewid hwn, ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i gyfrannu at gryfhau cysylltiadau academaidd a diwylliannol rhwng ein prifysgolion partner.