Partneriaeth Gyffrous: Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol 精东传媒 yn Cydweithio 芒 Phrifysgol Gwyddorau Cyfreithiol a鈥檙 Gyfraith Tsieina (CUPL) ar gyfer Ysgol Aeaf Saesneg Gyfreithiol Ar-lein!
Rydym wrth ein bodd yn rhannu鈥檙 newyddion am y drydedd Ysgol Aeaf Saesneg Gyfreithiol, a gynhaliwyd gan Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol 精东传媒 a CUPL!
Cynhaliwyd yr ysgol aeaf bwrpasol hon rhwng 15 ac 19 Ionawr 2024. Roedd yn ymdrech ar y cyd 芒 CUPL, ac fe鈥檌 dyluniwyd a鈥檌 chyflwyno鈥檔 fedrus gan Michael Pattison o Brifysgol 精东传媒. Dywedodd Michael, sy鈥檔 ieithydd, cyfreithiwr, darlithydd, ac ymgynghorydd addysgol, y canlynol wrth adfyfyrio am y profiad:
'Dros bum diwrnod cefais y pleser o gyflwyno cwrs Saesneg Gyfreithiol ar-lein i 30 o fyfyrwyr o CUPL. Am gr诺p trawiadol o ddarpar gyfreithwyr ifanc! Buan y daethant i gofleidio ein dulliau addysgu gweithredol a rhyngweithiol - llongyfarchiadau mawr i bob un ohonynt! Buom yn ymchwilio i bynciau amrywiol hollbwysig, gan archwilio pam fod Saesneg Gyfreithiol yn wahanol i Saesneg bob dydd, gyda鈥檌 chonfensiynau ysgrifennu unigryw a鈥檌 geirfa wedi eu gwreiddio yn Lladin a Hen Ffrangeg. Roeddem yn unfrydol yn gwerthfawrogi鈥檙 symudiad tuag at ddefnyddio Saesneg Clir mewn dogfennau cyfreithiol er mwyn gwella darllenadwyedd a dealltwriaeth. Roedd y cwrs yn ymdrin 芒 deddfwriaeth seneddol, cyfraith gyffredin a chyfraith sifil, cyfraith trosedd a chyfraith contractau, Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig a hierarchaeth y llysoedd, athrawiaeth 'cynsail' a chyfeirio, dadlau ac ysgrifennu cyfreithiol..鈥�
Trwy gydol y cwrs, cafodd y myfyrwyr y cyfle i ymgysylltu 芒 chyfraith achosion, gan ddadansoddi adroddiadau achos bywyd go iawn yn Saesneg a llywio鈥檙 system gymhleth o ddyfynnu achosion. Fe wnaethom archwilio rhesymu cyfreithiol, mireinio'r grefft o ysgrifennu briffiau achos, a mentro i wahanol endidau busnes.
'Mae trefnu Ysgolion Haf ac Ysgolion Gaeaf ar-lein i fyfyrwyr CUPL wedi datblygu i fod yn hoff draddodiad yn Sefydliad Confucius. Mae ein hymrwymiad yn parhau鈥檔 gadarn wrth i ni ymdrechu i ddarparu profiadau dysgu personol i fyfyrwyr CUPL, gan hwyluso鈥檙 broses o ehangu eu gwybodaeth a鈥檜 gwneud yn gyfarwydd 芒鈥檙 system gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr. Gan ragweld dyfodol disglair, rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar am y cyfle i estyn croeso cynnes yn y cnawd i fyfyrwyr CUPL i Brifysgol 精东传媒 yn ystod y flwyddyn i ddod, meddai Lina Davitt, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol 精东传媒.