Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae Ffisioleg a Phathoffisioleg yn fodiwl 20 credyd ar Lefel 7 a gynigir fel micro-gymhwyster annibynnol. Caiff ei gyflwyno鈥檔 rhan-amser drwy ddysgu cyfunol. Mae'r modiwl yn datblygu gwybodaeth am anatomeg, ffisioleg a phathoffisioleg i gefnogi ymarfer clinigol uwch, gwneud penderfyniadau sy鈥檔 seiliedig ar dystiolaeth a rhagnodi.
Ar Gyfer pwy mae'r Micro-gymhwyster hwn?
Mae鈥檙 micro-gymhwyster hwn wedi鈥檌 anelu at weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, gan gynnwys nyrsys, bydwragedd, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, parafeddygon a fferyllwyr, sy鈥檔 gweithio mewn r么l ymarfer uwch neu鈥檔 datblygu tuag at r么l o鈥檙 fath.
Pam Astudio'r Micro-gymhwyster hwn?
Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o swyddogaeth arferol systemau organau, sut mae鈥檙 corff yn addasu ac yn cydadfer, a鈥檙 prosesau patholegol sy鈥檔 cyfrannu at glefydau. Gall y wybodaeth yma eich helpu i wneud penderfyniadau clinigol uwch ac i ddatblygu eich ymarfer rhagnodi.
Sut Caiff y Micro-gymhwyster hwn ei Gyflwyno?
Caiff y modiwl ei gyflwyno鈥檔 rhan-amser drwy ddysgu cyfunol dros 14 sesiwn ar ddydd Mercher. Fel arfer, cynhelir y sesiynau rhwng 13:30 a 16:00 ar gampws 精东传媒, gyda chymorth adnoddau dysgu ar-lein ac astudiaeth annibynnol dan arweiniad.
Mae sesiynau wedi鈥檜 trefnu ar gyfer y dyddiadau canlynol:
- Dydd Mercher 23 Medi 2026
- Dydd Mercher 30 Medi 2026
- Dydd Mercher 7 Hydref 2026
- Dydd Mercher 14 Hydref 2026
- Dydd Mercher 21 Hydref 2026
- Dydd Mercher 28 Hydref 2026
- Dydd Mercher 4 Tachwedd 2026
- Dydd Mercher 11 Tachwedd 2026
- Dydd Mercher 18 Tachwedd 2026
- Dydd Mercher 25 Tachwedd 2026
- Dydd Mercher 2 Rhagfyr 2026
- Dydd Mercher 9 Rhagfyr 2026
- Dydd Mercher 13 Ionawr 2027
- Dydd Mercher 20 Ionawr 2027 鈥� asesiad
Neilltuir un o鈥檙 sesiynau a drefnwyd rhwng 23 Medi a 9 Rhagfyr 2026 ar gyfer dysgu hunangyfeiriedig.
Ni fydd angen i chi ddod i鈥檙 campws ar y dyddiad hwnnw.
Tiwtor
Sangeeta Chandrashekar
Mae Sangeeta Chandrashekar yn ffisiotherapydd cofrestredig a chwblhaodd ei PhD mewn Ffisioleg Feddygol yn 2022. Mae鈥檔 addysgu anatomeg, ffisioleg a phathoffisioleg ar draws rhaglenni gofal iechyd 么l-raddedig ac mae鈥檔 aelod gweithgar o The Physiological Society. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar gymhlethdodau diabetes, ymwrthedd i inswlin a straen ocsidiol.
Cynnwys y Cwrs
- Anatomeg arwynebol, bioleg celloedd, homeostasis ac adrannau hylif y corff.
- Swyddogaeth arferol y systemau cardiofasgwlaidd, resbiradol, arennol, gastroberfeddol, nerfol ac endocrinaidd, a鈥檜 r么l mewn homeostasis.
- Addasiad, ymatebion meinweoedd a鈥檙 prif brosesau patholegol.
- Pathoffisioleg clefydau pwysig sy鈥檔 effeithio ar y systemau cardiofasgwlaidd, resbiradol, arennol, gastroberfeddol, nerfol ac endocrinaidd.
Ar 么l cwblhau鈥檙 modiwl yn llwyddiannus, byddwch yn gallu:
- gwerthuso鈥檔 feirniadol wybodaeth a dealltwriaeth o anatomeg a ffisioleg, ac egwyddorion sylfaenol clefydau a all effeithio ar y corff dynol drwy gydol oes;
- dangos eich bod yn gallu cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o swyddogaeth systemau organau a rhagweld newidiadau cydadferol; a
- dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o anatomeg, ffisioleg a phathoffisioleg drwy gydol oes i lywio gwaith gwneud penderfyniadau uwch ym maes gofal clinigol.
Cynhelir yr asesiad ddydd Mercher 20 Ionawr 2027. Caiff y modiwl ei asesu drwy arholiad sy鈥檔 cynnwys cwestiynau amlddewis a chwestiynau ateb byr. Mae鈥檙 arholiad yn werth 100% o farc y modiwl.
Gofynion Mynediad
Rhaid i ymgeiswyr fod yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy鈥檔 darparu gofal uniongyrchol i gleifion ac sydd wedi鈥檜 cofrestru 芒 chorff rheoleiddio proffesiynol yn y DU. Mae鈥檙 modiwl yn arbennig o addas i weithwyr proffesiynol cofrestredig sy鈥檔 gweithio mewn r么l ymarfer uwch neu鈥檔 datblygu tuag at r么l o鈥檙 fath.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn si诺r eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar 么l creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio ol-raddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Ffisioleg a Phathoffisioleg : y cod yw NHS 4213. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster 么l-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch 鈥榠e鈥� * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o鈥檙 cyllid. Os hoffech gadarnhau 鈥榠e鈥� i鈥檙 cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i鈥檞 uwchlwytho, gallwch uwchlwytho鈥檆h ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol