Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byr dysgu cyfunol, lefel 6 mewn Presgripsiynu Annibynnol, ac mae鈥檔 agored i nyrsys cofrestredig yn unig.
Os oes gennych ddiddordeb yn y cwrs Presgripsiynu Annibynnol Lefel 7, cliciwch yma: Presgripsiynu Annibynnol (NHS-4258).
Bydd y cwrs yn dechrau ar 18 Medi, 2025.
Bydd agweddau o鈥檙 addysgu yn cael eu cyflwyno ar y cyd 芒鈥檙 cwrs Presgripsiynu i Fferyllwyr. Mae natur aml-broffesiynol y cwrs byr hwn yn rhoi cyfle gwerthfawr i weithwyr proffesiynol profiadol rannu eu gwybodaeth a'u sgiliau a datblygu gwahanol safbwyntiau ar arfer presgripsiynu. Bydd dysgu rhyngbroffesiynol yn annog ymagwedd gydweithredol tuag at ddysgu a gweithio sy'n canolbwyntio ar d卯m. Yn seiliedig ar hyn, bydd disgwyl i chi chwarae rhan weithredol mewn dysgu rhyngbroffesiynol yn ystod y rhaglen trwy rannu eich arbenigedd a'ch safbwynt proffesiynol.
Bydd y cwrs yn sicrhau eich bod yn gyfarwydd ag egwyddorion cyffredinol arfer presgripsiynu y mae'n rhaid i chi eu defnyddio yn eich maes arbenigedd clinigol eich hun, a鈥檆h bod yn gallu eu defnyddio yn eich gwaith. Bydd testunau'n cael eu cyflwyno mewn arddull generig a bydd y siaradwyr yn cyfeirio at eu profiad clinigol eu hunain i ddarparu enghreifftiau clinigol, fodd bynnag gellir cymhwyso'r egwyddorion a drafodir i bob maes ymarfer. Bydd y cwrs yn eich galluogi i ehangu ar eich gwybodaeth bresennol a chymhwyso'r rhain i egwyddorion presgripsiynu. Bydd hyn yn darparu sylfaen gref ar gyfer eich datblygiad fel presgripsiynydd annibynnol/atodol newydd gymhwyso.
I bwy mae鈥檙 cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs byr Presgripsiynu lefel 6 hwn wedi'i anelu at nyrsys cofrestredig sy'n dymuno dod yn bresgripsiynwyr annibynnol ond sydd heb unrhyw dystiolaeth ddiweddar neu syth a thystiolaeth gyfyngedig o astudiaeth academaidd.
Bydd y lefel academaidd addas yn cael ei drafod gyda chi yn y cyfweliad.
Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at nyrsys cofrestredig sy鈥檔 cydnabod y byddai cymhwyso fel presgripsiynydd annibynnol o fudd i ofal cleifion.
Pam astudio鈥檙 cwrs? Beth ydi prif n么d y cwrs?
Bydd y cwrs byr, heriol ond gwerth chweil hwn yn galluogi dealltwriaeth o gyfrifoldebau clinigol, cyfreithiol a moesegol presgripsiynwyr annibynnol. Bydd y wybodaeth a鈥檙 sgiliau a ddysgir ar y cwrs yn eich grymuso i fabwysiadu dull o bresgripsiynu sy鈥檔 canolbwyntio ar yr unigolyn o fewn eich cwmpas ymarfer a nodwyd.
Trwy ddysgu gyda, a chan, weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill megis nyrsys, bydwragedd, ffisiotherapyddion, parafeddygon a fferyllwyr, byddwch yn cael eich grymuso i hwyluso ymagwedd aml-broffesiynol at arfer presgripsiynu er mwyn gwella gofal cleifion.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Mae'r cwrs rhan-amser hwn yn ymestyn dros 7 mis.
Bydd y dysgu yn cael ei gyflwyno bob dydd Iau ar ein campws ym Mangor rhwng Medi 2026 a Mawrth 2027.
- Medi 17, 24 2026
- Hydref 1, 8, 15 2026
- Tachwedd 5, 19, 26 2026
- Rhagfyr 17 2026
- Ionawr 14 2027
- Chwefror 4 2027
- Mawrth 4 2027
Bydd 11 wythnos pellach o astudio hunan-gyfeiriedig er mwyn paratoi ar gyfer aseiniadau.
Bydd yr aseiniad terfynol yn cael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2027.
Mae hefyd yn ofynnol i fyfyrwyr gwblhau o leiaf 90 awr mewn ymarfer clinigol dan oruchwyliaeth Ymarferydd Presgripsiynu Dynodedig (DPP).
Noder y gallai鈥檙 uchod newid o ganlyniad i鈥檙 broses ail ddilysu.
Tiwtor
Ffion Simcox
Ffion yw arweinydd y cyrsiau presgripsiynu ym Mhrifysgol 精东传媒, yn ogystal ag arweinydd yr MSc mewn Ymarfer Clinigol Uwch.
Mae Ffion hefyd yn ddirprwy gadeirydd o Rhwydwaith Addysgwyr Ymarfer Uwch Cymru (WAPEN).
Cymhwysodd Ffion fel nyrs gofrestredig yn 1996 ac fel presgripsiynydd annibynnol yn 2011. Cwblhaodd ei MSc mewn Ymarfer Clinigol Uwch yn 2012 a gweithiodd fel ACP mewn meddygaeth ac铆wt am 6 mlynedd cyn ymuno 芒'r Brifysgol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd y cwrs byr heriol ond gwerth chweil hwn yn galluogi dealltwriaeth o gyfrifoldebau clinigol, cyfreithiol a moesegol presgripsiynwyr annibynnol.
Bydd y wybodaeth a鈥檙 sgiliau a ddysgir ar y cwrs yn eich grymuso i fabwysiadu dull o bresgripsiynu sy鈥檔 canolbwyntio ar yr unigolyn o fewn eich cwmpas ymarfer a nodwyd.
Trwy ddysgu gyda, a chan, weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill megis nyrsys, bydwragedd, ffisiotherapyddion, parafeddygon a fferyllwyr, byddwch yn cael eich grymuso i hwyluso ymagwedd aml-broffesiynol at arfer presgripsiynu er mwyn gwella gofal cleifion.
Beth fydd y dysgwr yn ei gael allan o鈥檙 cwrs?
Cewch eich addysgu gan bersgripsiynwyr annibynnol a meddygol profiadol o wahanol gefndiroedd proffesiynol. Cefnogir yr addysgu gan glinigwyr arbenigol i sicrhau bod y cynnwys yn berthnasol ac yn cyd-fynd a ymarfer clinigol.
Erbyn diwedd y cwrs, bydd dysgwyr yn gallu gwerthfawrogi, deall ac arddangos y wybodaeth a鈥檙 sgiliau sydd eu hangen i ddod yn bresgripsiynydd annibynnol, diogel ac effeithiol, gyda phwyslais ar ofal unigol, fel yr amlinellir yn gan y Royal Pharmaceutical Society.
Ar 么l cwblhau'r cwrs byr hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu cofrestru eu statws presgripsiynu annibynnol/atodol gyda'u corff rheoleiddio.
Cost y Cwrs
Mae'r cyllid ar gyfer y cwrs presgripsiynu i weithwyr GIG yn cael ei weinyddu ar ran Llywodraeth Cymru (HEIW) gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Rhaid i chi wneud cais am gyllid gan BIPBC os ydych chi:
- yn gweithio o fewn BIPBC
- yn gweithio mewn meddygfa dan reolaeth BIPBC
- yn gweithio mewn meddygfa annibynnol yng Ngogledd Cymru
I wneud cais, cysylltwch 芒: BCU.EducationACP@wales.nhs.uk
Rhaid i bob ymgeisydd arall drefnu cyllid amgen.
Gofynion Mynediad
Ymarferwyr sydd wedi cofrestru gyda鈥檙 Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC):
- Nyrs, bydwraig, neu nyrs iechyd cyhoeddus cymunedol arbenigol cofrestredig.
- Wedi cofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ers o leiaf blwyddyn cyn gwneud cais
- Bydd angen nodi enw Asesydd Ymarfer a Goruchwyliwr Ymarfer addas i gyflawni rolau'r Ymarferydd Presgripsiynu Dynodedig (DPP) wrth gyflwyno鈥檙 cais.
Noder hefyd:
- Bydd angen cyfrifiadur, cysylltiad rhyngrwyd a chyfrifiannell ar fyfyrwyr
- Gall cyflogwr y myfyriwr neu leoliad y dysgu ar sail ymarfer gynnal gwiriad cofnod troseddol yn unol 芒鈥檜 polis茂au a鈥檜 gweithdrefnau eu hunain, er mwyn sicrhau bod y darpar presgripsiynwyr yn bodloni eu meini prawf 鈥� gan gynnwys gwiriad DBS Uwch. Bydd unrhyw gostau鈥檔 gysylltiedig 芒 hyn yn gyfrifoldeb y cyflogwr neu鈥檙 darpar bresgripsiynwr.
Gwneud Cais
Cysylltwch 芒 Helen Charles (hsp23f@bangor.ac.uk) neu Ffion Simcox (f.simcox@bangor.ac.uk) i gael canllaw manwl ar sut i gwblhau'r cais llawn.
Gwnewch yn si诺r eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar 么l creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio Israddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGU/HS) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Presgripsiynu Annibynnol y cod yw NHS: 3212. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster 么l-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
Os ydych yn cael eich ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch 鈥榠e鈥� * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o鈥檙 cyllid. Os hoffech gadarnhau 鈥榠e鈥� i鈥檙 cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i鈥檞 uwchlwytho, gallwch uwchlwytho鈥檆h ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol