Ymunwch 芒 ni am noson ysbrydoledig wrth inni archwilio a myfyrio ar Dirluniau Beiblaidd Gwynedd a Chymru mewn cynhadledd a gynhelir yn y Neuadd PJ gain ym Mhrifysgol 精东传媒. Mae鈥檙 digwyddiad unigryw hwn, a drefnir ar y cyd gan Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru a鈥檙 Sefydliad Astudio Ystadau Cymreig (ISWE), yn dod ag ysgolheigion, artistiaid, cerddorion a鈥檙 cyhoedd ynghyd i archwilio鈥檙 cysylltiadau dwfn rhwng y Beibl, y dirwedd, hunaniaeth a diwylliant Cymru.
Bydd y noson yn dechrau gydag arddangosfa gan Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol 精东传媒 yng Nghoridor Siambr y Cyngor o 17:30, ac yna croeso gan Dr Gareth Evans-Jones ac Alex Ioannou, ynghyd ag eitem cerddorol organ yn Neuadd PJ am 18:00.
Ceir wedyn drafodaethau hynod ddiddorol gan Dr Martin Crampin (CAWCS) a鈥檙 Athro Angharad Price.
Yn ystod y derbyniad, bydd arddangosfa yn cynnwys prosiect Enwau Lleoedd Awdurdod y Parc Cenedlaethol Eryri, yr Eglwys yng Nghymru, Palas Print, CAWCS, a rhagor. Bydd eitemau cerddorol dan arweiniad a chyflwyniad Joe Cooper (Prifysgol 精东传媒 a Chadeirlan Deiniol Sant), yn cynnwys perfformiadau corawl ysbrydoledig ar them芒u tirluniau Cristnogol Cymru. Bydd y noson yn dod i ben gyda pherfformiadau barddonol ysgogol gan y beirdd arobryn, Si么n Aled a Si芒n Northey, a ysbrydolwyd gan Lwybr Pererinion Cadfan.
Croeso cynnes i bawb 鈥� mynediad am ddim.
Trefnir gan Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru