Gellir datrys heriau'r Anthroposen o safbwynt technegol, felly pam nad ydym yn llwyddo i鈥檞 datrys a beth fydd rhaid i ni ei wneud?
Bydd Mike Berners-Lee yn cloddio trwy haenau'r argyfwng lluosog i drafod yr elfennau hollbwysig i'r rhai sy'n ceisio sicrhau dyfodol cynaliadwy. Bydd darlith Mike yn canolbwyntio ar y newidiadau systemig sydd eu hangen arnom i oroesi a ffynnu dros y degawdau nesaf, gan archwilio'r gwerthoedd allweddol y mae'n rhaid eu hyrwyddo i'w cyflawni. Mae Mike yn dadlau bod yr atebion technegol eisoes o fewn cyrraedd, felly beth sy'n atal cynnydd? Y rhwystrau gwirioneddol yw uniondeb a gwerthoedd ein sectorau gwleidyddiaeth, cyfryngau a busnes, a鈥檙 r么l y gall pob un ohonom ei chwarae fel unigolion i ysgogi newid.
(Defnyddir yr Anthroposen weithiau i egluro'n syml y cyfnod pan fo bodau dynol wedi cael effaith sylweddol ar ein planed. P鈥檜n a ydym mewn oes ddaearegol newydd ai peidio, rydym yn rhan o system gymhleth, fyd-eang ac mae鈥檙 dystiolaeth o鈥檔 heffaith arni鈥檔 amlwg erbyn hyn.)
Mike yw sylfaenydd a chyfarwyddwr Small World Consulting Ltd. Mae'n ymgynghori, yn meddwl, yn ysgrifennu ac yn ymchwilio ym maes cynaliadwyedd ac ymatebion i broblemau'r unfed ganrif ar hugain. Ef yw awdur llyfrau clodwiw, gan gynnwys 鈥楾here is No Planet B: A Handbook for the Make or Break Years鈥�, a 鈥楬ow Bad Are Bananas? The carbon footprint of everything.鈥� Mae hefyd yn athro ym Mhrifysgol Caerhirfryn, lle mae ei ymchwil yn cynnwys modelu carbon cadwyn gyflenwi, systemau bwyd cynaliadwy ac effaith amgylcheddol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu. Mae wedi ymddangos ar y teledu a鈥檙 radio nifer o weithiau yn siarad am hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion sy鈥檔 ymwneud 芒 chynaliadwyedd a newid hinsawdd.