Renos K Papadopoulos, PhD., FBPSS
Trawma, Lloches a Ffoaduriaid
Heriau wrth weithio gyda sefyllfaoedd cymhleth o aml-erledigaeth
Darlith T卯m Caplaniaeth Prifysgol 精东传媒
Darlith Gyhoeddus Ar-lein (Teams)
3 o鈥檙 gloch y pnawn - Dydd Iau, 20 Chwefror 2025
Y dyddiau hyn, gwelwn gynnydd rhyfeddol yn amlder a dwyster gwahanol fathau o 'ffurfiau difrifol o adfyd cyfunol' yn ein byd, sy'n anochel yn effeithio arnom ni mewn sawl ffordd. Mae鈥檙 cyfryngau cyfathrebu torfol a鈥檙 cyfryngau cymdeithasol yn ein boddi ag esboniadau a naratifau cyferbyniol, yn amrywio o鈥檙 credadwy i鈥檙 rhyfedd, ond gan gyflwyno adroddiadau sydd gan fwyaf wedi鈥檜 gorsymleiddio ac yn unochrog. Y ffordd amlycaf o bell ffordd o ddeall ymateb pobl (yn unigol ac ar y cyd) i'r digwyddiadau trallodus hyn fu 'trawma'. Eto i gyd, bu鈥檙 'disgwrs trawma' yn ddiffygiol o ran amgyffred agweddau mwy cynnil y profiadau hyn.
Nod y cyflwyniad hwn yw darparu fframwaith sy'n mynd i'r afael 芒'r cymhlethdodau hyn, gan ddirnad agweddau newydd ac arwyddocaol ar y ffenomenau hyn, yn cynnwys y frwydr sylfaenol i ddeall dioddefaint dynol; natur ac effeithiau aml-erledigaeth; cymhlethdodau 'anafiadau moesol'; ac ailwerthuso鈥檙 agweddau o staff yn gorflino a鈥檜 hunanofal. Yn ganolog i'r fframwaith hwn mae'r 'Grid Adfyd', sy'n cysyniadoli'n ystyrlon yr ystod o ganlyniadau sy'n deillio o鈥檙 digwyddiadau trallodus hyn, gan bwysleisio pwysigrwydd osgoi trin dioddefaint dynol fel patholeg, adnabod cryfderau hen a newydd, a galluogi rheoli sefyllfaoedd cymhleth yn briodol.
Mae Renos K Papadopoulos, PhD., FBPSS, yn Athro a Chyfarwyddwr Y Ganolfan Trawma, Lloches a Ffoaduriaid a'r Rhaglenni MA/PhD mewn Gofal Ffoaduriaid ym Mhrifysgol Essex. Mae hefyd yn Seicolegydd er anrhydedd yng Nghlinig Tavistock. Mae'n Seicolegydd Clinigol, yn Seicdreiddiwr Jungian, ac yn Therapydd Teuluol Systemig sy鈥檔 gweithio fel ymarferydd clinigol, hyfforddwr a goruchwyliwr. Ar gorn ei waith yn ymgynghorydd i'r Cenhedloedd Unedig a sawl sefydliad arall, bu鈥檔 gweithio gyda ffoaduriaid, pobl wedi'u harteithio a鈥檜 masnachu a goroeswyr trais gwleidyddol a thrychinebau eraill mewn amryfal wledydd. Mae ei ysgrifau wedi ymddangos mewn 18 o ieithoedd. Derbyniodd wobrau gan sawl corff rhyngwladol am ei agwedd unigryw at waith dyngarol. Mae ei ddau lyfr diweddaraf yn trafod Anafiadau Moesol, a Dadleoliad Anwirfoddol; gyda鈥檙 olaf o鈥檙 rhain wedi'i glodfori am sefydlu patrwm newydd yn y maes.
Mae鈥檙 digwyddiad hwn am ddim ond rhaid . Anfonir dolen i'r ddarlith ar 么l cofrestru.
DARLITH I GAEL EI GYFLWYNO DRWY GYFRWNG Y SAESNEG.