Mae targedu metabolaeth canser glycolytig yn strategaeth therapiwtig ddeniadol ar gyfer trin canser. Mae cludwyr monocarboxylate MCT1 ac MCT4, sy'n cynorthwyo 芒 chludo lactad, yn cael eu cynhyrchu mewn niferoedd uwch nag arfer mewn amrywiaeth o ganserau, lle maent yn rhagfynegi canlyniadau gwael i gleifion. Mae atalyddion dethol MCT1 sy'n rhwystro gwaredu lactad wedi'u datblygu sy'n dangos gweithgarwch addawol mewn nifer o fodelau canser cyn-glinigol ac maent wedi cael eu gwerthuso'n glinigol.
Mae projectau yn y labordy yn canolbwyntio ar ddau brif faes allweddol:
- Nodi in-silico a dilysu swyddogaethol atalyddion MCT newydd
- Swyddogaeth lactyleiddio proteinau wrth ysgogi sensitifrwydd atalyddion MCT mewn canser yr ofar茂au sydd ag ymwrthedd i cisplatin
Mae technegau a ddefnyddir yn gyffredin yn y labordy yn cynnwys:
- Meithrin celloedd mamolaidd a thriniaeth 芒 chyffuriau sy鈥檔 defnyddio trinwyr a dosbarthwyr hylif lled-awtomataidd
- Imiwnodyddodi a dadansoddiad blotio western o fynegiant protein a lactyleiddio
- RT-qPCR meintiol o fynegiant mRNA
- Microsgopeg imiwnofflworoleuedd cydffocal o farcwyr difrod DNA
- Profion bywioldeb celloedd a chludiant lactad yn seiliedig ar ymoleuedd
- Astudiaethau cyfuno cyffuriau ac astudiaethau marwoldeb synthetig gan ddefnyddio RNAi