Testun cyflwyniad ar gyfer y daith
Mae Tre鈥檙 Ceiri ar ben bryn dwyreiniol tri chopa Yr Eifl, a dyma鈥檙 fryngaer uchaf yng ngogledd orllewin Cymru o鈥檙 Oes Haearn. Gellid dadlau mai hon yw鈥檙 fryngaer sydd wedi鈥檌 chadw yn y cyflwr gorau ym Mhrydain. Safleoedd ymgasglu oedd bryngaerau: roedden nhw鈥檔 fannau setlo, yn rhywle i storio bwyd, i gwrdd, ac i gynnal seremon茂au; roedden nhw鈥檔 ganolbwynt i gymunedau a oedd yn byw ar y tir hwn ac yn ffermio鈥檙 tir isel ac roeddent yn lloches yn ystod cyfnodau o argyfwng. Mae'r anheddiad pen y bryn hwn lle bu llawer iawn o drigolion yn byw yn dyddio鈥檔 么l i鈥檙 Oes Haearn (600CC鈥�79OC) a鈥檙 cyfnod Brythonaidd-Rufeinig (79鈥�410OC). Mae鈥檔 bosib ei fod hefyd wedi cael ei ailfeddiannu yn y cyfnod canoloesol cynnar hefyd (410鈥�1050 OC). Bu鈥檙 safle鈥檔 ganolbwynt i lawer o waith cloddio, gan gynnwys gwaith ar ddechrau鈥檙 ugeinfed ganrif gan Hughes, Baring-Gould a Burnard, yn ogystal ag A.J. Hogg yn y 1950au. Archwiliodd y cloddfeydd hyn y safle a鈥檌 adeiladau鈥檔 fanwl ac maent wedi darparu llawer iawn o wybodaeth am gynllun y safle a鈥檙 gwahanol ddarganfyddiadau a adferwyd o鈥檙 adeiladau. Yn fwy diweddar, mae Hopewell a Boyle o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi gwneud gwaith atgyfnerthu i glirio ac ailadeiladu rhai o鈥檙 mynedfeydd, y rhagfuriau a鈥檙 tai crwn. Ymchwiliodd Smith y garnedd gladdu gynharach o鈥檙 Oes Efydd, sydd ar y copa.
Mae ein dealltwriaeth o union ddyddio鈥檙 fryngaer a鈥檌 gwahanol gyfnodau adeiladu a meddiannu yn dal yn gyfyngedig gan nad oes dyddiadau radiocarbon ar gael. Fodd bynnag, mae鈥檔 bosib gwneud dehongliadau ar ddyddio gwahanol gyfnodau meddiannaeth sy鈥檔 seiliedig ar adfer arteffactau y mae modd eu dyddio o tua 150 o adeiladau. O鈥檙 Oes Haearn y mae鈥檙 tai crwn syml, ond mae鈥檙 celloedd anarferol llai, y tai crwn wedi鈥檜 rhannu a鈥檙 adeiladau petryal diweddarach yn rhai Brythonaidd-Rufeinig, ac mae鈥檔 bosibl bod rhai o'r cytiau petryal, mwy, wedi cael eu hadeiladu yn y cyfnod canoloesol cynnar.
Mae safle uchel a phensaern茂aeth aruthrol Tre'r Ceiri yn datgelu mai safle o rym, cynulliad, anheddiad, lloches a defod ar gyfer y milenia oedd hwn. Gellir ei weld heddiw drwy ddringo'r mynydd a cherdded ar hyd llwybrau arfordirol hardd Penrhyn Ll欧n.
Rhagfuriau bryngaer
Mae bryngaer Tre鈥檙 Ceiri wedi鈥檌 hamgylchynu gan wal gerrig, wedi鈥檌 chadw hyd at 3m o led a 3.5m o uchder, gyda dwy brif fynediad ar yr ochrau gogledd-orllewinol a de-orllewinol. Mae mur y rhagfur wedi鈥檌 gadw鈥檔 arbennig o dda a gellir gweld bod y gwaith parapet gwreiddiol yn rhedeg ar hyd top y rhagfur mewn rhai rhannau. Byddai hyn wedi gwella effaith weledol ac amddiffynnol y ffin a byddai hefyd wedi galluogi trigolion y fryngaer i osod eu hunain ar ben y wal. Mae rhannau eraill o鈥檙 rhagfur yn cynnwys brigiadau enfawr o gerrig yn rhedeg ar hyd ymyl y llwyfandir ar ben y bryn, sydd i鈥檞 gweld ar yr ochrau deheuol a dwyreiniol.
Yn ddiweddarach, adeiladwyd wal allanol ar ochr orllewinol y bryn, gan ddarparu lle ychwanegol i鈥檙 trigolion. Mae gwaith cyfnerthu diweddar y rhagfuriau a鈥檙 mynedfeydd gan David Hopewell o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi bod yn bwysig o ran datblygu ein dealltwriaeth o鈥檙 safle: mae nifer o ardaloedd wedi cael eu clirio a鈥檜 sefydlogi mewn ymdrech gadwraeth ac mae hyn wedi gwneud yr archaeoleg drawiadol yn haws ei deall a鈥檌 gweld.
Mynedfeydd bryngaer
Mae gan y fryngaer ddwy brif fynedfa ym mhen de-orllewinol a gogledd-orllewinol y fryngaer, ac mae鈥檙 ddwy tua 2m o led. Mae tair mynedfa fach, gul ychwanegol yn y rhagfuriau ar yr ochrau dwyreiniol, gorllewinol a gogleddol - gallai rhai o鈥檙 rhain fod wedi darparu mynediad i ffynhonnau pen y bryn. Mae鈥檙 ddwy brif fynedfa yn y de-orllewin a鈥檙 gorllewin yn wynebu ceuffyrdd gydag waliau ystlys. Mae鈥檔 ymddangos mai鈥檙 fynedfa dde-orllewinol oedd un o ddwy brif ffordd at y fryngaer: roedd ceuffordd yn mynd at hon a oedd yn troelli drwy gyfres o dros ugain o gaeau bach 芒 waliau cerrig sydd y tu allan i鈥檙 fynedfa. Gallai鈥檙 rhain fod wedi cael eu hadeiladu ar 么l creu'r rhagfur allanol. Mae鈥檙 llwybr at y fynedfa hon yn serth iawn. Mae鈥檔 debyg mai鈥檙 fynedfa i鈥檙 gogledd-orllewin oedd y brif fynedfa: mae hon yn cynnwys llwybr hir a chul gyda waliau uchel sy鈥檔 drawiadol ac yn cael eu hamddiffyn yn dda.
Roedd yr holl fynedfeydd hyn wedi cael eu rhwystro gan rwbel. Cafodd rhai ohonyn nhw eu clirio a鈥檜 hailadeiladu鈥檔 rhannol yn ystod gwaith atgyfnerthu a chadwraeth David Hopewell a th卯m o unigolion yn codi waliau sychion yn y 1990au. Roedd y gwaith clirio a chloddio yn y fynedfa gogledd-orllewinol (tua 2.5m o led) yn dangos bod hyn wedi cael ei ail-fodelu a鈥檌 ailadeiladu yn y cyfnod Brythonaidd-Rufeinig, a chafwyd hyd i jar Rufeinig yma. Mae hyn yn dangos i ba raddau y cafodd rhagfuriau a mynedfeydd gwreiddiol yr Oes Haearn eu hailffurfio yn ystod cyfnod meddiannu鈥檙 anheddiad yn y mileniwm cyntaf OC.
Adeiladau Mewnol
Mae dadansoddiad diweddar David Hopewell o鈥檙 safle wedi datgelu bod y man amgaeedig yn cynnwys dros 11 o dai crwn cerrig, 11 adeilad petryal, a 123 o gytiau anarferol (rhai wedi鈥檜 cynhyrchu gan dai crwn wedi鈥檜 rhannu), llawer ohonynt mewn clystyrau ac yn uno. Mae mynedfeydd i鈥檙 tai crwn yn wynebu amrywiaeth o gyfeiriadau.
Y tai crwn cyntaf a adeiladwyd ar y safle oedd tai crwn mawr syml, ac mae'r rhain yn dyddio鈥檔 么l i gyfnod yr Oes Haearn. Mewn cyfnod diweddarach, rhannwyd llawer o鈥檙 tai crwn ac ychwanegwyd celloedd anarferol ac adeiladau petryal at adeiladau a oedd yn bodoli eisoes. Ailfodelwyd pymtheg o dai crwn yr Oes Haearn yn ddiweddarach yn barau o adeiladau lled-betryal drwy ychwanegu pared a gwaith maen arall. Roedd llawer o鈥檙 tai crwn a rannwyd (62%) wedi cynhyrchu crochenwaith Brythonaidd-Rufeinig, er mai ychydig iawn o grochenwaith o鈥檙 dyddiad hwn a gafodd ei adfer o dai crwn syml yr Oes Haearn (dim ond 11% a gynhyrchodd grochenwaith Rhufeinig). Mae hyn yn dangos bod llawer o鈥檙 gwaith adeiladu diweddarach wedi digwydd yn y cyfnod Brythonaidd-Rufeinig. Mae鈥檙 arferiad yma o adeiladu dros sawl canrif wedi arwain at y clystyrau o dai ac adeiladau sydd wedi鈥檜 cydgysylltu a welwn ar y safle heddiw.
Mae鈥檙 darganfyddiadau o鈥檙 gwaith cloddio鈥檔 cynnwys troellwyr, breuan gyfrwy ac offer cerrig o鈥檙 Oes Haearn, yn ogystal 芒 gleiniau glas cymhleth a gwaith metel, gan gynnwys breichdlws efydd 芒 gleiniau o鈥檙 Oes Haearn diweddarach neu dortsh o gwt 41. Mae amrywiaeth o wrthrychau Brythonaidd-Rufeinig y mae modd eu dyddio yn datgelu pwysigrwydd yr anheddiad hwn yn yr ychydig ganrifoedd cyntaf ers y mileniwm cyntaf OC 鈥� mae鈥檙 darganfyddiadau鈥檔 cynnwys crochenwaith Rhufeinig, offer cerrig ac addurniadau personol, gan gynnwys broetsh eurog efydd ysblennydd (o gwt 10: casgliad Amgueddfa Cymru). Bu adfer crib cyrn/asgwrn gydag addurniadau dotiog consentrig o gwt 23 yn ddiddorol 鈥� gallai鈥檙 arteffact hwn fod yn un Brythonaidd-Rufeinig ond, yn yr un modd, gallai ddyddio i鈥檙 cyfnod canoloesol cynnar.
Carnedd gladdu gynharach o鈥檙 Oes Efydd
Mae carnedd gladdu fawr mewn cyfnod cynharach o鈥檙 Oes Efydd ar gopa'r bryn ym mhen gogledd-ddwyreiniol y cae. Mae hyn yn cynnwys twmpath mawr o gerrig a oedd yn darparu man claddu ar gyfer y meirw. Cafodd y carnedd gladdu yn Nhre鈥檙 Ceiri ei harchwilio a鈥檌 hatgyfnerthu鈥檔 ddiweddar gan George Smith o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd. Daeth o hyd i sylfeini wal o gerrig allanol yr ymyl o amgylch gwaelod y twmpath a darn o asgwrn wedi鈥檌 amlosgi.
Mae crugiau neu garneddau crwn yn nodwedd gyffredin o dirweddau鈥檙 Oes Gynnar a鈥檙 Oes Efydd Ganol ym Mhrydain (c. 2500-1500/1200 CC) ac maen nhw fel arfer yn cynnwys sawl claddedigaeth amlosgi a gafodd eu claddu dros amser. Roedden nhw鈥檔 ganolbwynt i鈥檙 tirluniau lle byddai grwpiau鈥檔 ymgynnull ar gyfer angladdau a seremon茂au eraill, ac roedden nhw鈥檔 nodi mannau pwysig. Mae carnedd gladdu pen bryn fel y rhain i鈥檞 gweld ar draws penrhyn Ll欧n a Gogledd Cymru (os hoffech chi ymweld ag aliniad o garneddau claddu pen bryn cynharach o鈥檙 Oes Efydd, efallai y bydd gennych chi ddiddordeb yn Nhaith Gerdded Archaeolegol Mynydd Rhiw LIVE) ac maen nhw鈥檔 datgelu pwysigrwydd cysyniadol pen bryniau mewn cymdeithas o鈥檙 Oes Efydd gynharach. Mae nifer o garneddau ar ben y bryn i鈥檞 cael mewn bryngaerau o鈥檙 Oes Haearn, ac mae鈥檔 arwyddocaol bod y trigolion yn parchu鈥檙 henebion yn hytrach na dwyn y cerrig ar gyfer adeiladau, fel y gwelir yn Nhre鈥檙 Ceiri. Mae鈥檔 bosibl bod trigolion bryngaer yr Oes Haearn yn cyfiawnhau eu hawliau i鈥檙 tir hwnnw drwy honni bod eu hynafiaid wedi鈥檜 claddu yn yr heneb hynafol.