精东传媒

Fy ngwlad:

Myfyrwyr gyda theuluoedd

Rhagarweiniad

Yma ym Mangor, rydym yn sylweddoli bod myfyrwyr yn dod yma i astudio o bob cefndir ac nad yw pob myfyriwr yn cyrraedd yma鈥檔 syth o鈥檙 ysgol ar 么l cwblhau astudiaethau lefel A.

Rydym yn deall y byddwch o bosibl ag ymrwymiadau a chyfrifoldebau eraill ac yn sylweddoli y gallai fod gennych fwy o brofiad o fywyd ac i鈥檆h llwybr chi at addysg uwch fod yn un gwahanol iawn.

Rydym yn gobeithio bydd y wefan hon yn gymorth i chi o ran gwybodaeth am lety, gwybodaeth am ofal plant ac ysgolion lleol a gwybodaeth am gefnogaeth ariannol bellach i'r carfannau hyn o fyfyrwyr:

Darpariaeth Ysgol

Yma ym Mangor, rydym yn sylweddoli bod myfyrwyr yn dod yma i astudio o bob cefndir ac nad yw pob myfyriwr yn cyrraedd yma鈥檔 syth o鈥檙 ysgol ar 么l cwblhau astudiaethau lefel A.

  • Gwynedd: 106 Ysgol Gynradd, 14 Ysgol Uwchradd a 2 Ysgol Arbennig yng Ngwynedd.
  • Ynys Mon: Mae 40 o ysgolion cynradd, 5 ysgol uwchradd ac un ysgol arbennig yn Ynys M么n. am wybodaeth am ysgolion cynradd ac uwchradd ar Ynys M么n.
  • Conwy: I gael gwybodaeth am dderbyniadau ysgol yn ardal Conwy
  • Wrecsam: I gael gwybodaeth am dderbyniadau ysgol yn ardal Wrecsam .

Rydym yn deall y byddwch o bosibl ag ymrwymiadau a chyfrifoldebau eraill ac yn sylweddoli y gallai fod gennych fwy o brofiad o fywyd ac i鈥檆h llwybr chi at addysg uwch fod yn un gwahanol iawn.
Rydym yn gobeithio bydd y wefan hon yn gymorth i chi o ran gwybodaeth am lety, gwybodaeth am ofal plant ac ysgolion lleol a gwybodaeth am gefnogaeth ariannol bellach i'r carfannau hyn o fyfyrwyr:

  • Pethau i'w gwneud yn eich ardal - clybiau, digwyddiadau
  • Byw yn iach
  • Gyrfaoedd a gwirfoddoli
  • Gofal plant yn eich ardal. Beth yw eich opsiynau?
  • Sefydliadau plant a llinellau cymorth

Yn 么l i鈥檙 dechrau

Darparieth Gofal Plant

Cynnig Gofal Plant Cymru

Mae yn darparu hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal, a ariennir gan y Llywodraeth, i blant tair a phedair oed am 48 wythnos y flwyddyn. Mae鈥檙 Cynnig yn adeiladu ar yr ymrwymiad cyffredinol i addysg gynnar, sef darpariaeth am o leiaf 10 awr yr wythnos i blant tair a phedair oed 鈥� gan ddechrau, fel rheol, o鈥檙 tymor ar 么l eu pen-blwydd yn 3 oed.

Mae Gwynedd-Ni yn wasanaeth gwybodaeth. Gallwch gysylltu 芒 nhw yngl欧n 芒'r canlynol: 

  • rhestr gofal plant e.e. Gofalwyr Plant, Meithrinfeydd, Clybiau ar 么l Ysgol, Cylchoedd Meithrin
  • gwybodaeth am wasanaethau lleol e.e. GISDA, CAB, Barnardos, Iechyd
  • cefnogaeth i sefydlu darpariaeth gofal plant newydd e.e. cofrestru i fod yn ofalwr plant
  • gweithgareddau i blant ac i'r teulu e.e. beth sydd ymlaen yn ystod gwyliau ysgol a dyddiau
  • gweithgareddau difyr i'r teulu clybiau e.e. p锚l-droed, nofio, cerddoriaeth, celf, hoci, dawns llinellau
  • cymorth gwasanaethau i blant gydag anghenion ychwanegol

Am fwy o wybodaeth gallwch gysylltu 芒 Gwynedd-Ni:

Cyfleusterau Gofal Plant ym M么n

Gwasanaeth ar faterion teuluol a gofal plant ar Ynys M么n.

Am fwy o wybodaeth, ewch i neu gallwch gysylltu dros y ff么n neu e-bost.

Teulu M么n
Cyngor Sir Ynys M么n
Llangefni

Ff么n: 01248 725888
E-bost: teulumon@anglesey.gov.uk

Cyfleusterau Gofal Plant yng Nghonwy

Gwasanaeth ar faterion teuluol a gofal plant yng Nghonwy.

Am wybodaeth, ewch , neu gallwch gysylltu dros y ff么n neu e-bost.

Ff么n: 01492 577850
E-bost: plant.children@conwy.gov.uk

Yn 么l i鈥檙 dechrau

CYMORTH ARIANNOL

Cyllid Myfyrwyr

Cymorth Ariannol Pellach I Fyfyrwyr Gyda Phlant Dibynnol 

Bydd faint o gymorth a dderbyniwch yn dibynnu ar eich incwm eich partner (os yn berthnasol) a鈥檆h cwmni benthyciad.

Grant Gofal Plant 

Gall myfyrwyr llawn-amser o'r DU gyda phlant dibynnol sydd mewn gwasanaeth gofal plant cofrestredig a chydnabyddedig wneud cais am Grant Gofal Plant.

  • Yr uchafswm grant gofal plant sy'n daladwy yw 85% o'r gwir gost gofal plant.
  • Ni allwch dderbyn y grant hon os ydych chi neu'ch partner yn derbyn elfen gofal plant y Credyd Treth Gweithio gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
  • Chi sydd i benderfynu pa un y dymunwch ei dderbyn os ydych yn gymwys i'r ddau.
  • Gallwch wneud cais am y cymorth hwn cyn dechrau neu yn ystod eich cwrs.
  • Gallwch dderbyn Grant Gofal Plant yn ystod adeg tymor ac yn ystod eich gwyliau.
  • Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith nac adrannau Budd-dal Tai yn ystyried swm y Grant Gofal Plant a ddyfernir pan fyddant yn cyfrifo eich hawliad i fudd-dal.
  • Telir y Grant Gofal Plant fel arfer mewn tri rhandaliad gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, un ar ddechrau bob tymor ar yr un pryd 芒'ch benthyciad cynhaliaeth a grantiau eraill.
  • Bydd eich sefydliad Cyllid Myfyrwyr yn gofyn i chi am gadarnhad o'ch gwir gostau gofal plant BOB tymor.

OS NAD YDYCH YN CYFLWYNO'R CADARNHAD HWN, EFALLAI NA FYDDWCH YN DERBYN EICH RHANDALIAD NESAF.

Lwfans Dysgu i Rieni 

Mae鈥檙 cymorth yma tuag at gostau鈥檙 cwrs ar gyfer myfyrwyr llawn amser sydd 芒 phlant dibynnol.

  • Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith nac adrannau Budd-dal Tai yn cyfrif y grant hon wrth gyfrifo eich hawl i gael budd-daliadau.
  • Mae'r swm a gewch chi yn dibynnu ar eich incwm chi ac incwm eich dibynyddion (gan gynnwys eich g诺r, gwraig neu bartner).
  • Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr fel arfer yn ei dalu mewn tri rhandaliad gyda鈥檆h benthyciad. Ni fydd raid i chi ad-dalu鈥檙 cymorth hwn.

Myfyrwyr Gyda Phlant Neu Oedolion Dibynnol

Os ydych yn fyfyriwr israddedig amser llawn a bod gennych bartner neu oedolyn arall, fel arfer aelod o'ch teulu, sy'n dibynnu arnoch yn ariannol, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am y Grant Oedolion Dibynnol. Mae faint a gewch yn dibynnu ar eich incwm ac incwm eich oedolion dibynnol.

Sut Mae'n Cael Ei Dalu?

Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr fel arfer yn ei dalu mewn tri rhandaliad

Myfyrwyr o Gymru 鈥� 2026/27

Grant Cymorth Arbennig

Mae Grant Cymorth Arbennig wedi ei gyflwyno ar gyfer myfyrwyr a all fod yn gymwys i dderbyn budd-daliadau phrawf modd megis Cymhorthdal Incwm / Credyd Cyffredinola a Budd-dal Tai. Yn fras, bydd hyn yn cynnwys:

  • Rhieni sengl
  • Cyplau gyda phlant ble mae鈥檙 ddau yn fyfyrwyr llawn amser
  • a rhai myfyrwyr anabl.
  • Mae uchafswm y cymorth yr un faint 芒鈥檙 Grant Dysgu Llywodraeth Cymru. Mae鈥檙 grant yma yn cael ei dalu yn lle Grant Dysgu Llywodraeth Cymru nid yn ychwanegol iddo.  

Tabl hawl Grant Cymorth Arbennig a Benthyciadau Cynhaliaeth

Incwm Trethadwy
Eich Cartref
Grant Cymorth Arbennig
- byw oddi cartref
 
Benthyciad Cynhaliaeth
- byw oddi cartref

 
Cyfanswm  Grant & Benthyciad 鈥�  byw oddi cartrefGrant Cymorth Arbennig
- byw gyda鈥檜 rhieni

 
Benthyciad Cynhaliaeth
- byw gyda鈥檜 rhieni
Cyfanswm  Grant & Benthyciad - byw gyda鈥檜 rhieni
拢18,370 neu llai拢8,260拢5,785拢14,045拢7,020拢4,830拢11,850
拢25,000拢7,085拢5,785拢12,870拢6,048拢4,830拢10,876
拢35,000拢5,311拢7,279拢12,590拢4,577拢6,108拢10,685
拢45,000拢3,538拢9,052拢12,590拢3,107拢7,578拢10,685
拢59,200 neu yn uwch 拢1,020拢11,570拢12,590拢1,020拢9,662拢10,685

Bydd 拢5,161 o'r Grant Cymorth Arbennig yn cael ei ddiystyru at ddibenion budd-dal prawf modd.

Am fwy o wybodaeth pwy sy鈥檔 gymwys am y Grant Cymorth Arbennig cysylltwch gyda neu Cymorth Ariannol.

Myfyrwyr o Loegr 鈥� 2026/27

Myfyrwyr Sydd 脗 Phlant Neu Oedolion Dibynnol

Cefnogaeth Ariannol Ychwanegol 鈥� Elfen Benthyciad Cefnogaeth Arbennig: Mae鈥檙 Elfen Benthyciad Cymorth Arbennig ar gael i fyfyrwyr a allai fod yn gymwys i dderbyn budd-daliadau prawf modd megis Lwfans Ceisio Gwaith / Cymhorthdal Incwm / Credyd Cynhwysol a Budd-dal Tai. Mae'r myfyrwyr hyn yn cynnwys y rhai sydd:

  • rhieni unigol
  • 芒 phlant dibynnol ac mae eu partner hefyd yn fyfyriwr amser llawn
  • yn gymwys ar gyfer rhai budd-daliadau anabledd penodol
Incwm Trethadwy AelwydyddElfen Benthyciad Cymorth Arbennig - Mewn Man arallBenthyciad Cynhaliaeth - Mewn mannau eraillCyfanswm hawl Benthyciad -   Mewn mannau eraill
拢25,000 neu llai拢4,582拢7,763拢12,345
拢30,000拢3,386拢7,763拢11,149
拢35,000拢2,190拢7,763拢9,953
拢40,000拢993拢7,763拢8,756
拢44,828拢0.00拢7,763拢7,763
拢45,000拢0.00拢7,740拢7,740
拢50,000拢0.00拢6,967拢6,967
拢62,415 neu yn uwch拢0.00拢5,048拢5,048

Bydd swm penodol o'r Benthyciad Cymorth Arbennig yn cael ei ddiystyru at ddibenion budd-dal prawf modd.

I gael rhagor o wybodaeth am bwy sy鈥檔 gymwys ar gyfer y Benthyciad Cymorth Arbennig, gweler gwefan neu Cymorth Ariannol.

Am ragor o wybodaeth, cyngor ac arweiniad am gymorth ariannol cysylltwch 芒 Cymorth Ariannol.

Yn 么l i鈥檙 dechrau

Budd-daliadau

Yn gyffredinol, nid yw鈥檙 rhan fwyaf o fyfyrwyr israddedig amser llawn yn gallu hawlio budd-daliadau prawf modd fel Credyd Cynhwysol, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith a Budd-dal Tai ac ati drwy gydol eu cwrs, gan gynnwys gwyliau. Ond mae yna eithriadau. Mae eithriadau yn cynnwys:

  • Rhieni sengl: Os ydych yn rhiant sengl i blentyn dan 5 oed
  • Myfyrwyr ag anableddau (Os ydych yn gymwys am bremiwm anabledd neu anabledd difrifol, os ydych wedi bod yn analluog i weithio am 28 wythnos neu os ydych yn derbyn LMA oherwydd byddardod.
  • Cyplau sy'n fyfyrwyr amser llawn gyda phlant dibynnol
  • Myfyrwyr sydd derbyn pensiwn.

Os ydych yn gymwys o dan un o鈥檙 categor茂au cymwys uchod, efallai y byddwch yn gallu hawlio Credydau Treth Plant, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor neu Gredyd Cynhwysol, er y gallai hawl newid yn ystod y flwyddyn academaidd.

Os ydych yn gymwys i gael budd-daliadau prawf modd o dan un o鈥檙 categor茂au cymwys uchod a鈥檆h bod yn fyfyriwr israddedig, gwnewch yn si诺r eich bod yn gwneud cais am y Grant Cymorth Arbennig ac nid Grant Dysgu Llywodraeth Cymru gan eich sefydliad cyllid myfyrwyr.

Cyllid Myfyrwyr a Budd-daliadau Lles

Sylwch, os ydych yn gymwys i gael budd-daliadau prawf modd, bydd yr Asiantaethau Budd-daliadau yn ystyried unrhyw gyllid i fyfyrwyr a gewch.

Os ydych yn gymwys i gael Benthyciad Cynhaliaeth neu Grant Dysgu Llywodraeth Cymru, bydd yr Asiantaethau Budd-daliadau yn ystyried yr arian sydd ar gael i chi p'un a fyddwch yn ei gymryd ai peidio.

Mae hyn hefyd yn berthnasol os yw'ch partner yn gymwys i gael budd-daliadau.

Fodd bynnag, bydd eich Benthyciad Ffioedd Dysgu, cyfran o unrhyw Grant Cymorth Arbennig, Grant Gofal Plant a'r Lwfans Dysgu i Rieni yn cael eu diystyru gan yr Asiantaethau Budd-daliadau pan fyddant yn gwneud cais.

Cyn i chi ddechrau eich astudiaethau

Os ydych yn hawlio budd-dal prawf modd cyn i chi ddechrau eich cwrs, rhaid i chi hysbysu'r swyddfa sy'n talu eich budd-dal eich bod yn fyfyriwr a datgan eich incwm myfyriwr.

Gallai methu 芒 gwneud hynny olygu y byddwch yn cael gordalu budd-daliadau, y byddant yn gofyn i chi ei ad-dalu tra bydwwch yn astudio. Mae byw ar incwm myfyriwr yn ddigon anodd heb orfod ad-dalu gordaliadau budd-dal.

I gael rhagor o wybodaeth am hawl i fudd-daliadau cysylltwch 芒'r swyddfa sy'n talu eich budd-dal.

Treth y Cyngor

Nid oes unrhyw rwymedigaeth Treth y Cyngor ar gyfer pob myfyriwr llawn amser ers mis Ebrill 2004.

Er mwyn cael eich eithrio rhag talu Treth y Cyngor bydd angen i chi anfon copi o'ch tystysgrif presenoldeb i'ch Cyngor lleol. Gallwch gael eich tystysgrif presenoldeb trwy eich cyfrif FyMangor nei drwy ebostio T卯m Gweinyddol

Yn 么l i鈥檙 dechrau

Llety Teulu

Nid oes gan y Brifysgol lety i deuluoedd ar hyn o bryd, felly bydd rhaid i chi edrych yn y sector preifat os ydych yn bwriadu symud i Fangor gyda'ch teulu. Mae gan y Swyddfa Tai Myfyrwyr dudalen we yn hysbysebu'r eiddo sydd ar gael, sy'n cael ei diweddaru'n ddyddiol, ewch i www.bangorstudentpad.co.uk i chwilio yn ein cronfa ddata Studentpad - gallwch ddewis 'Fi a鈥檓 teulu' o'r ddewislen 'Pwy sy鈥檔 edrych'. 

Gallwch hefyd gael mynediad at a , sy'n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol.

Mae hi yn anodd dod o hyd i lety i deulu ym Mangor, felly efallai y bydd rhaid i chi hefyd gysylltu 芒'r asiantaethau gosod lleol a/neu ystyried chwilio am lety y tu allan i Fangor. Rydym yn argymell eich bod yn dod i Fangor ar eich pen eich hun yn y lle cyntaf os yn bosib, a bod eich teulu yn ymuno 芒 chi pan fyddwch wedi dod o hyd i lety addas ar eu cyfer. 

Cysylltwch 芒 ni am restr o lety gwely a brecwast / gwestai a allai fod yn ddefnyddiol i chi. I weld map o'r ardal, ewch i www.bangor.ac.uk/tour/documents/map.pdf 

I gael cyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion sy鈥檔 ymwneud 芒 lles i fyfyrwyr rhyngwladol a鈥檜 teuluoedd, ewch i: www.bangor.ac.uk/international/support/ a www.bangor.ac.uk/international/support/families 

Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch yngl欧n 芒 llety i deuluoedd, anfonwch e-bost i studenthousing@bangor.ac.uk.

Yn 么l i鈥檙 dechrau