精东传媒

Fy ngwlad:

Croeso i'ch Hyb Ymgeiswyr

Archwiliwch beth sy'n gwneud Prifysgol 精东传媒 yn arbennig, o'n lleoliad godidog i'n cymuned gefnogol; mae dewis Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd ym Mangor yn ddechrau taith gyffrous. Mae astudio ym Mangor yn golygu dysgu gan arbenigwyr angerddol sy'n rhoi eich llwyddiant chi yn gyntaf. Yma, byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau i lunio'ch gyrfa gyda hyder.

Eich Hyb Ymgeiswyr yw eich lle i fynd ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer y cam nesaf. Archwiliwch beth sy'n aros amdanoch chi a dechreuwch gynllunio'ch dyfodol heddiw.

Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd

Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein t卯m ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym d卯m ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

Gwyliwch ein fideo

Llun o Dr Gareth Evans-Jones,  Darlithydd mewn Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd

Helo Gareth Evans-Jones ydw i, a dwi wrth fy modd yn clywed eich bod wedi gwneud cais i astudio Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd ym Mhrifysgol 精东传媒.

Mae 精东传媒 yn lle rhagorol i ymgysylltu a'r pynciau yma, pynciau mewn difri sydd yn llwyr berthnasol i'r oes da ni'n byw ynddi ar hyn o bryd. Mi fyddwch chi yn ymgysylltu ag athronwyr gwahanol, moesegwyr gwahanol a chrefyddau gwahanol, gan ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd eithriadol werthfawr.

Ar yr hwb ymgeiswyr hwn, fe gewch chi fwy o wybodaeth am astudio Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd ym Mangor. O fanylion y cwrs, ar fodiwlau syn cael eu cynnig.

Da ni'n gobeithio'n wir i'ch gweld chi ar y campws yn fuan.

Cwestiynau Cyffredin

Mewn wythnos arferol, mae ein myfyrwyr Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd yn mynychu darlithoedd a seminarau sy'n mynd i'r afael 芒 materion y byd go iawn ym mhob disgyblaeth. Mae sesiynau Athroniaeth yn mynd i'r afael 芒 chwestiynau sy鈥檔 ymwneud 芒 rhyddid, hunaniaeth bersonol a chyfiawnder; mae dosbarthiadau moeseg yn archwilio pynciau megis cyfrifoldeb amgylcheddol, hawliau dynol a moeseg feddygol, gan gynnwys gofal diwedd oes; ac mae darlithoedd crefydd yn archwilio sut mae gwahanol grefyddau鈥檔 ymdrin 芒 chyfiawnder cymdeithasol, datrys gwrthdaro a lles cymunedol. O foeseg deallusrwydd artiffisial i safbwyntiau crefyddol ar ddatblygu heddwch, bydd myfyrwyr yn meithrin y sgiliau i ymgysylltu'n feddylgar 芒 heriau byd-eang cymhleth ac yn dysgu am y r么l y mae'r disgyblaethau hyn yn ei chwarae wrth siapio鈥檙 byd.

Rhennir pob blwyddyn academaidd yn ddau semester, gyda myfyrwyr fel arfer yn cymryd tri modiwl y semester. Byddwch yn mynychu dwy ddarlith ac un seminar fesul modiwl bob wythnos sydd yn golygu tua 8-12 awr cyswllt. Mae darlithoedd yn ymdrin 芒 phynciau allweddol megis cyfyng-gyngor moesegol, damcaniaethau athronyddol a safbwyntiau crefyddol. Mae seminarau yn cynnig cyfle i drafod syniadau, dadansoddi materion y byd go iawn, a chymryd rhan mewn trafodaethau gr诺p. Yn ogystal, gallwch drefnu tiwtorialau ychwanegol a chyfarfodydd goruchwylio er mwyn cael cefnogaeth bersonol neu i archwilio pynciau yn fanylach, gan eich helpu i gymhwyso damcaniaethau i ddigwyddiadau cyfredol a mireinio eich sgiliau meddwl beirniadol.

Mae graddedigion Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd yn dilyn amrywiaeth o yrfaoedd cyffrous ac amrywiol. Mae llawer yn dod yn addysgwyr, yn addysgu mewn ysgolion neu brifysgolion, tra bod eraill yn gweithio ym meysydd y gyfraith, hawliau dynol neu'r sector cyhoeddus, gan eirioli dros newid cymdeithasol. Mae gyrfaoedd mewn gofal iechyd, lle maent yn darparu arweiniad moesegol, hefyd yn gyffredin, yn ogystal 芒 swyddi yn y cyfryngau, cyhoeddi a newyddiaduraeth, lle maent yn cyfleu syniadau cymhleth. Mae rhai graddedigion yn gweithio ym myd busnes, y llywodraeth neu gwnsela, gan ddefnyddio eu sgiliau meddwl beirniadol a moesegol i ddylanwadu ar bolisi, cefnogi unigolion, a mynd i'r afael 芒 heriau cymdeithasol.

Mae gradd Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd yn helpu i ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy. Bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau meddwl beirniadol, gan ddysgu sut i ddadansoddi dadleuon cymhleth ac asesu gwahanol safbwyntiau. Byddant yn gwella eu sgiliau cyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar, trwy draethodau, cyflwyniadau a thrafodaethau. Mae'r radd hefyd yn meithrin galluoedd datrys problemau, wrth i fyfyrwyr ystyried cyfyng-gyngor moesegol a chwestiynau athronyddol. Mae sgiliau ymchwil yn cael eu mireinio trwy astudio annibynnol ac ymholi academaidd. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau empathi, ymwybyddiaeth ddiwylliannol, a sgiliau gwneud penderfyniadau moesegol, sydd i gyd yn werthfawr mewn gyrfaoedd amrywiol ar draws sectorau.

Mae ein gradd Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd yn cynnig hyblygrwydd unigryw, gan ganiat谩u i fyfyrwyr arbenigo mewn Athroniaeth, Moeseg, neu Grefydd, neu gadw cymysgedd o'r tri pwnc. Mae'r rhaglen yn cynnwys sgyrsiau am Llofruddion Cyfresol, lle bydd myfyrwyr yn archwilio damcaniaethau moesegol ac athronyddol gan ddefnyddio achosion o fywyd go iawn. Byddwch yn sefydlu melinau trafod i fynd i'r afael 芒 materion cyfoes megis biofoeseg a chyfiawnder cymdeithasol. Byddwch yn ymchwilio i agweddau crefyddol, seicolegol a moesegol yr ymarfer. Mae asesu yn seiliedig ar aseiniadau amrywiol yn hytrach nag arholiadau, gan helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy mewn meddwl beirniadol a chyfathrebu.

Cwrdd 芒 rhai o'ch darlithwyr

Dr Joshua Andrews

Dr Joshua Andrews

Trawsnewidiol, amrywiol, goleuedig.

Un o'r astudiaethau mwyaf difyr i mi ddod ar ei draws yw un oedd yn ystyried moeseg o safbwynt cymeriadau llyfrau comig, yn enwedig Batman a鈥檙 Joker. Mae'r astudiaeth yn ddiddorol oherwydd ei bod yn datgelu pa mor gymhleth y gall fframweithiau moesegol fod, a hefyd sut maent yn dod i鈥檙 amlwg mewn diwylliant poblogaidd. Mae Batman a'r Joker yn cynrychioli dwy athroniaeth foesol wrthgyferbyniol, ac eto mae'r ddau yn mynd i'r afael 芒 chwestiynau dirfodol dwfn.

Cefais fy nenu at athroniaeth, moeseg a chrefydd oherwydd eu gallu i fynd i'r afael 芒 chwestiynau mawr bywyd tra'n parhau i fod 芒 chysylltiad dwfn 芒 phroblemau鈥檙 byd go iawn. Roedd y "pam" y tu 么l i gredoau, gwerthoedd a gweithredoedd dynol o ddiddordeb mawr imi ers yn ifanc. Roeddwn eisiau deall yr hyn y mae pobl yn ei wneud, a hefyd y rhesymeg a'r cymhellion sy'n sail i'w penderfyniadau. Roedd athroniaeth yn cynnig fframwaith i hyn, gan ganiat谩u i mi fynd i鈥檙 afael 芒 syniadau cymhleth am foesoldeb, bodolaeth ac ystyr. Roedd moeseg, yn arbennig, yn sefyll allan i mi fel pwnc sy鈥檔 ddeallusol ysgogol ac yn hynod ymarferol. Mae'n ddisgyblaeth sy'n gofyn inni fynd i'r afael 芒 chwestiynau anodd - beth yw'r peth iawn i'w wneud? Sut dylem fyw? Ac mae鈥檔 mynnu ein bod yn cymhwyso'r atebion hynny i heriau bywyd modern. Mae crefydd yn ychwanegu haen arall o ddyfnder, ac yn datgelu sut mae traddodiadau amrywiol a safbwyntiau byd-eang yn llywio'r ffordd y mae pobl yn ymdrin 芒 chyfyng-gyngor moesegol ac athronyddol. Yr hyn a gadarnhaodd fy niddordeb oedd sylweddoli nad yw'r pynciau hyn yn ymwneud 芒 meddwl haniaethol yn unig; maent yn ffordd o ddeall dynoliaeth a mynd i'r afael 芒 phroblemau byd-eang dybryd. Roedd astudio athroniaeth, moeseg鈥� a chrefydd yn teimlo fel gwahoddiad i drafod syniadau a allai gael effaith wirioneddol ar y byd, ac mae鈥檙 ymdeimlad hwnnw o bwrpas yn parhau i yrru fy niddordeb heddiw.

Yr hyn rwy'n ei hoffi fwyaf am ddysgu athroniaeth, moeseg a chrefydd yw trafod sut mae damcaniaethau moesegol haniaethol yn dylanwadu ar benderfyniadau a gweithredoedd yn y byd go iawn. Mae athroniaeth yn aml yn dioddef o'r camargraff ei bod yn hollol ddamcaniaethol neu ar wah芒n i bryderon bob dydd, ond mae moeseg gymhwysol yn herio鈥檙 farn honno鈥檔 gyfan gwbl. Agwedd arall rwy'n ei hoffi yw natur newidiol moeseg gymhwysol. Wrth i鈥檙 gymdeithas newid, mae cwestiynau moesegol newydd yn dod i'r amlwg, gan sicrhau bod y deunydd yn parhau i fod yn ddeinamig a pherthnasol. Mae ymgorffori digwyddiadau cyfredol yn ein trafodaethau yn cadw鈥檙 ystafell ddosbarth yn fywiog ac yn helpu myfyrwyr i gysylltu syniadau athronyddol 芒鈥檙 byd o鈥檜 cwmpas.

Dr Gareth Evans-Jones

Dr Gareth Evans-Jones

Mae Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd yn annatod i brofiadau dynol, mewn gwahanol ffyrdd, ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn sut mae syniadau athronyddol, daliadau moesegol, ac arddeliad crefyddol yn gallu effeithio ar ymddygiad pobl a natur cymdeithas.

Mae'n anodd dweud yn union beth ydir 'peth mwyaf diddorol' oherwydd mae yna gymaint o bethau diddorol ac amrywiol. Dwi wir yn ei gyfri'n fraint enfawr gallu darlithio am feysydd mor amrywiol, o Baganiaeth i Athroniaeth yr Oesoedd Canol, o foeseg ymddygiad i grefydd, gwrthdaro a heddwch, i amgylcheddaeth, Iesu mewn diwylliant poblogaidd, a Dyneiddiaeth.

Mae yna wastad bethau newydd i'w dysgu. Boed yn darlithio am Plato neu'r Beibl neu foeseg amgylcheddol, mae yna syniadau newydd yn codi drwy'r amser, a gwahanol ffyrdd o ddehongli, deall, a gweithredu. Does yna ddim 'sell-by-date' ar Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd! 

Yn achos athroniaeth, un cwestiwn sy'n codi droeon ydi, 'beth ydi athroniaeth?' Ac mae hynny, mewn difri, yn gwestiwn athronyddol. Mae athroniaeth yn hanfodol i bob dim yn y byd - lle bynnag mae yna gwestiwn, neu syniad newydd, neu herio yn digwydd, mae athroniaeth ar waith - ac mae'n sail i bob un maes arall: mae meddygaeth yn gofyn am asesu, dadansoddi a phrofi damcaniaethau; mae busnes yn gofyn am bwyso a mesur, datblygu dulliau gweithredu; mae'r celfyddydau yn gofyn am effaith cyflwyno syniadau mewn ffyrdd penodol ar gynulleidfaoedd, i enwi tri maes yn unig.

Yn achos crefydd, mae astudio crefyddau'r byd mor bwysig - y crefyddau mwyaf a'r rhai sydd wedi para'n hir a'r crefyddau llai, ynghyd a'r rhai sy'n tyfu ar hyn o bryd. Mae gwneud hynny'n bwysig er mwyn deall amrywiaeth ddiwylliannol a safbwyntiol mewn cymdeithas, a datblygu ymagwedd fwy goddefgar. Wrth astudio crefydd, mae yna lwythi o swyddi ar gael, gan gynnwys mewn urddau crefyddol, y byd addysg, gwaith elusennol, adnoddau dynol, busnes, marchnata, economeg, y celfyddydau, gwleidyddiaeth, newyddiaduraeth, a nifer eraill.

Dau fyfyriwr mewn ystafell yn neuaddau'r Santes Fair. Mae un yn darllen ar y gwely ac un arall yn eistedd wrth ddesg yn teipio ar liniadur.

Sicrwydd o Lety i Ymgeiswyr Clirio

Os ydych ym ymgeisio drwy Clirio, rydym yn sicrhau y cewch chi ystafell yn ein neuaddau preswyl cyn belled a'ch bod chi'n gwneud cais ar gyfer cwrs llawn-amser sy'n dechrau ym Medi, yn gwneud cais ar gyfer cwrs sydd wedi ei leoli yn ein campws ym Mangor ac yn archebu ystafell mewn neuadd erbyn y dyddiad cau. Yn anffodus, oherwydd y nifer cyfyngedig o ystafelloedd, nid ydym yn gallu sicrhau lle yn ein llety ar y campws yn Wrecsam.

Myfyrwyr yn cerdded a sgwrrsio yn adeilad Pontio

Ymweld 脗 Phrifysgol 精东传媒 Cyn Cychwyn Yma

Wedi methu dod i'r Diwrnod Ymweld Clirio na'r Diwrnod Agored ar gyfer ymgeiswyr Clirio? Cysylltwch 芒 ni dros e-bost i drefnu ymweliad cyn cychwyn yma.

Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul yn edrych ar ei ff么n symudol, yn pwyso yn erbyn wal

Sut i wneud ffrindiau cyn cychwyn yn y Brifysgol?

Ymunwch ag ymgeiswyr eraill a dod yn rhan o gymuned 精东传媒 cyn cyrraedd hyd yn oed! Cofrestrwch i ymuno 芒'r ap - 'Campus Connect' a bydd modd gofyn cwestiynau, sgwrsio gyda myfyrwyr presennol a gwneud ffrindiau ag ymgeiswyr eraill ar eich cwrs ac yn y llety o'ch dewis. Cewch wahoddiad i ymuno 芒'r ap dros e-bost, a chewch hefyd rif adnabod Prifysgol 精东传媒, y byddwch ei angen i gofrestru.

Myfyrwaraig yn ateb y ffon

Wedi newid eich meddwl? Nid chi yw鈥檙 unig un

Os ydych wedi bodloni鈥檙 amodau ar gyfer eich dewisiadau UCAS presennol ond yn teimlo nad yw鈥檔 iawn i chi, gallwch ddewis mynd drwy'r system Glirio. Archwiliwch eich opsiynau ym Mangor a llenwch y ffurflen ar-lein i gofrestru eich diddordeb yn y broses Glirio neu i wneud cais drwy Clirio os oes gennych eich canlyniadau eisoes.

Eisoes yn bwriadu ymuno 芒 精东传媒 ond yn ystyried cwrs gwahanol? Rydym yma i helpu - llenwch y ffurflen ar-lein!

 

 

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i鈥檆h helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw鈥檙 dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd