Croeso i'ch Hyb Ymgeiswyr
Archwiliwch beth sy'n gwneud Prifysgol 精东传媒 yn arbennig, o'n lleoliad godidog i'n cymuned gefnogol; mae dewis Cymraeg ym Mangor yn ddechrau taith gyffrous. Mae astudio ym Mangor yn golygu dysgu gan arbenigwyr angerddol sy'n rhoi eich llwyddiant chi yn gyntaf. Yma, byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau i lunio'ch gyrfa gyda hyder.
Eich Hyb Ymgeiswyr yw eich lle i fynd ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer y cam nesaf. Archwiliwch beth sy'n aros amdanoch chi a dechreuwch gynllunio'ch dyfodol heddiw.
Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Cymraeg
Mae ein cyrsiau yn cael eu harwain gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein t卯m ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerddol.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym d卯m ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
Gwyliwch ein fideo
Dr Elis Dafydd ydi fy enw i, dwi'n Ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.
Mi fysa dod yma i astudio'r Gymraeg efo ni yn ddewis ardderchog. O ran swyddi ac o ran cyflogadwyedd yn y lle cyntaf, mae'r sgiliau y byddwch chi yn eu magu a鈥檜 meithrin wrth astudio Cymraeg yn mynd i fod yn sylfaen ardderchog ar gyfer pa bynnag yrfa y byddech chi yn dewis ei dilyn ar 么l graddio. Dwi wastad yn deud: gyda gradd yn y Gymraeg o Fangor mi fedrwch chi neud unrhyw beth.
Yn ail, hefyd, dw i yn sicr y byddwch chi wrth eich bodd efo'r cwrs. Mae'r dewis o fodiwlau sydd gennym yn eang ofnadwy, yn rhai galwedigaethol, yn rhai llenyddol, a rhai creadigol. Mi gewch chi gyfle i ddilyn eich diddordebau, mi gewch chi gyfle i ddarganfod pethau, syniadau, llyfrau, llenyddiaeth newydd, pethau fydd yn eich cyffroi a'ch ysbrydoli chi.
Ac yn olaf, ac yn bwysig iawn hefyd, dan ni'n adran fach gartrefol, mae yna deimlad cryf o gymuned yma: mae pawb yn nabod ei gilydd ac yn edrych ar 么l ei gilydd. Os dewch chi yma i astudio Cymraeg ym Mangor mi gewch chi sylw arbenigol a sylw unigol.
Dan ni'n edrych ymlaen at eich gweld chi yn fuan.
Wedi Cael Cynnig Clirio? Dyma Eich Camau Nesaf
PROFIAD LILI JONES O ASTUDIO YN YR YSGOL GYMRAEG
Mae Lili Jones yn astudio yn yr Ysgol Gymraeg.
"Doeddwn i ddim yn siwr os oeddwn i eisiau gwneud Cymraeg fel gradd cyn dod i鈥檙 brifysgol ond nes i sylwi ar y cyfleoedd ges i trwy p锚l-droed yn gwneud cyfweliadau a chymryd rhan mewn rhaglenni dogfen ar S4C, nes i sylwi mae鈥檙 Gymraeg hefo gymaint o gyfleoedd. Dyna wnaeth dynnu fi i mewn i鈥檙 pwnc i gychwyn. Ond ers hynny dwi wedi dysgu gymaint. Dw i wedi dysgu am Gymraeg y canol oesoedd, dwi鈥檔 dysgu am llenyddiaeth dwi erioed wedi gweld o鈥檙 blaen ac mae hynny wedi cymryd fy niddordeb.
Dwi鈥檓 yn meddwl oeddwn i鈥檔 hollol siwr am Fangor cyn dod yma ond dwi wedi mwynhau bob munud yma, o鈥檙 darlithoedd, i fod allan hefo ffrindiau fi, i fyw yma. Yndi, mae o鈥檔 class o le!"
Lili dwi, ond ella bod chi鈥檔 fy adnabod i o...Lili Jones yn derbyn, yn ergydio...o 鈥榥a chi g么l! Lili Jones o bell. Lili Jones! Am daran o ergyd o bellter! Up the town!
Lili Mai Jones dwi o Wrecsam a dwi鈥檔 astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth. Doeddwn i ddim yn siwr os oeddwn i eisiau mynd i鈥檙 brifysgol ond gan fy mod yn chwarae p锚l-droed i Wrecsam, doeddwn i ddim yn gallu bod yn rhy bell o gartref. Felly 精东传媒 oedd lle roeddwn i eisiau bod. Digon pell o adref ond yn gallu mynd yn 么l hefyd i sesiynau ymarfer.
Doeddwn i ddim yn siwr os oeddwn i eisiau gwneud Cymraeg fel gradd cyn dod i鈥檙 brifysgol ond nes i sylwi ar y cyfleoedd ges i trwy p锚l-droed yn gwneud cyfweliadau a chymryd rhan mewn rhaglenni dogfen ar S4C, nes i sylwi mae鈥檙 Gymraeg hefo gymaint o gyfleoedd. Dyna wnaeth dynnu fi i mewn i鈥檙 pwnc i gychwyn. Ond ers hynny dwi wedi dysgu gymaint. Dw i wedi dysgu am Gymraeg y canol oesoedd, dwi鈥檔 dysgu am llenyddiaeth dwi erioed wedi gweld o鈥檙 blaen ac mae hynny wedi cymryd fy niddordeb.
Dwi鈥檔 siarad Cymraeg bob dydd rwan. Pryd oeddwn i adref yn Wrecsam, roeddwn i鈥檔 siarad lot o Saesneg. Doeddwn i ddim yn cael y cyfleoedd i ddefnyddio鈥檙 iaith bob dydd. Mae 精东传媒 wedi helpu fi hefo hynny. Dwi鈥檔 siarad Cymraeg normal hefo fy ffrindiau bob dydd ond dwi hefyd yn cael hwb gan ddarlithwyr ar sut i ysgrifennu traethodau a meddwl am sut dwi鈥檔 ysgrifennu yn y Gymraeg hefyd.
Dwi鈥檔 caru chwarae p锚l-droed a dwi hefyd yn caru鈥檙 Gymraeg. Mae Nain yn dweud bod fy nghyfweliadau p锚l-droed yn mynd yn well ac yn well. Mae dod i Fangor wedi dangos i fi fod yna gymaint mwy ti鈥檔 gallu gwneud hefo gradd yn y Gymraeg. Mae鈥檔 radd c诺l i astudio!
Dwi wedi gwneud ffrindiau oes yma. Mae nhw鈥檔 dod i wylio gemau p锚l-droed fi, a mae nhw efo fy nghefn i trwy bopeth. Mae byw bywyd ym Mangor yn class, mae pawb yn siarad Cymraeg yma! Mae o鈥檔 od i fi, mynd i鈥檙 siop cebab ar ddiwedd noson allan ac mae鈥檙 boi tu 么l i鈥檙 cownter yn siarad Cymraeg, mae o mor od i mi! Ond ia, dwi鈥檔 rili mwynhau fy hun yma!
Dwi鈥檓 yn meddwl oeddwn i鈥檔 hollol siwr am Fangor cyn dod yma ond dwi wedi mwynhau bob munud yma, o鈥檙 darlithoedd, i fod allan hefo ffrindiau fi, i fyw yma. Yndi, mae o鈥檔 class o le!
Dewch i gael blas ar ein cymuned glos
Cwrdd 芒 rhai o'ch darlithwyr
Yr Athro Angharad Price
Wrth fy modd yn darllen ac astudio llenyddiaeth, a hefyd ysgrifennu'n greadigol.
Mae ysgrifennu creadigol yn broses o ddarganfod a gweld pethau o'r newydd, felly dydi'r gwaith bydd yn ddiflas nac yn ailadroddus. Mae'n antur bob tro.
Cael bod yng nghwmni'r myfyrwyr yn dysgu a siarad a chreu.
Mae 'na gymuned wych o fyfyrwyr o bob math ym Mangor ac mae'r Gymraeg yn rhan ganolog o holl fywyd y Brifysgol a'r ardal o'i chwmpas.
Dwi'n credu bod gan bawb y gallu i sgwennu'n greadigol. Mater o fynd amdani ydi hi. Mae'n broses o ddarganfod.
Yr Athro Jerry Hunter
Fel Americanwr, bu darganfod llenyddiaeth Gymraeg America yn agoriad llygad i mi: roedd yn anhygoel dysgu bod cymaint o lenyddiaeth Gymraeg wedi'i chyhoeddi yn yr Unol Daleithiau yn ystod y 19ganrif.
Mae'n ddiddorol iawn gweld sut mae'r traddodiad llenyddol Cymraeg wedi ymaddasu yn wyneb sawl her yn ystod ei hanes hir.
Mae astudio llenyddiaeth a dadansoddi iaith yn eich darparu 芒 sgiliau gwych sy'n ddefnyddiol mewn nifer o gyd-destunau bob dydd - wrth ddatrys problemau neu wrth feddwl yn greadigol am unrhyw beth.
Manteisio'n llawn ar yr holl adnoddau - academaidd a chymdeithasol - sydd ar gael yn y Brifysgol. Yr un peth felly yw sicrhau'ch bod chi'n gwybod am yr holl bethau sydd ar gael i chi yma ym Mangor.
Cyffrous - Cyfoes - Cyfoethog.