Croeso i'ch Hyb Ymgeiswyr
Dy Hyb Ymgeiswyr yw'r lle i fynd ar gyfer popeth sydd dy angen arnat ti i baratoi ar gyfer y cam nesaf. Archwilia beth sy'n gwneud Prifysgol 精东传媒 yn arbennig, o'n lleoliad godidog i'n cymuned gefnogol; mae dewis Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mangor yn ddechrau taith gyffrou
Helo, croeso cynnes iawn i chi. Rydym yn falch iawn eich bod wedi penderfynu gwneud cais i Brifysgol 精东传媒.
Mae astudio Troseddeg ym Mangor yn brofiad cyffrous iawn. Mae'r ddisgyblaeth yn cyflwyno damcaniaethau cymdeithasol gyda dealltwriaeth o system cyfiawnder troseddol, gan roi sgiliau i chi archwilio pam mae trosedd yn digwydd.
Mae ein darlithwyr sydd yn rhedeg y ffordd o fewn y maes, a'r dosbarthiad bach yn golygu y cewch gefnogaeth bersonol.
Mae lleoliad 精东传媒 hefyd yn rhoi cynnig i chi ymchwilio a chyfleodd lleol, a phrosiectau ymchwil sydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
Ar yr hafan hon, fe gewch lawer o wybodaeth am y cwrs ei hun, am bethau sydd yn mynd ymlaen ym Mhrifysgol 精东传媒, profiadau myfyrwyr, a chyfleoedd gwaith a lleoliadau.
Gobeithio nawn weld chi ar y campws yn y fuan.
Pam dewis Troseddeg ym Mhrifysgol 精东传媒?
- Amgylchedd astudio cefnogol 鈥� Ymuna 芒 chymuned gyfeillgar a chroesawgar lle bydd gen ti diwtor personol o'r diwrnod cyntaf ac mae ein diwylliant drws agored yn golygu bod cefnogaeth bob amser gerllaw.
- Cyd-destun y byd go iawn - Archwilia faterion trosedd a chyfiawnder byd go iawn, ac adeilada dy ddealltwriaeth o sut mae cymdeithas yn mynd i'r afael 芒 throseddu.
- Gwellwch dy gyflogadwyedd 鈥� Cyfle i dyfu dy hyder a datblyga sgiliau ymarferol trwy gyfleoedd lleoliadau gwaith.
- Gwneud gwahaniaeth go iawn 鈥� Cei ddatblygu dy ddealltwriaeth o sut mae trosedd yn effeithio ar gymdeithas gyda chyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau ystyrlon sy'n cefnogi pobl a chymunedau.
- Paratoi ar gyfer dy yrfa 鈥� Graddio yn barod ar gyfer gyrfaoedd ystyrlon mewn gwasanaethau prawf, cyfiawnder ieuenctid, elusennau, gwasanaethau cyhoeddus, a mwy.
Wedi Cael Cynnig Clirio? Dyma Eich Camau Nesaf
Cwestiynau Cyffredin
Yn ogystal 芒 darlithoedd ac amser dysgu personol gallwch ddatblygu eich sgiliau ymhellach trwy sesiynau sgiliau astudio a gweithgareddau allgyrsiol.
Efallai hoffwch ymuno 芒 chlybiau a chymdeithasau amrywiol ar gael trwy undeb y myfyrwyr, mae prynhawniau dydd Mercher wedi ei chadw'n benodol i chi gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau clwb. Trwy gydol y flwyddyn rydym yn trefnu digwyddiadau yn yr ysgol megis nosweithiau cwis sy'n rhoi'r cyfle i chi gwrdd 芒 chymysgu 芒 myfyrwyr eraill a'r gymuned academaidd ehangach.
Yn gyffredinol, bydd gennych 9 i 12 awr o amser cyswllt yr wythnos, all hyn gynnwys darlithoedd, seminarau neu weithdai. Yn ogystal, fe'ch anogir i ennill profiad ychwanegol trwy gyfleoedd fel ymweliadau carchar, diwrnodau hyfforddi gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant, a digwyddiadau eraill sy'n gysylltiedig 芒'r ddisgyblaeth. Byddai disgwyl i chi hefyd wneud hunan-astudio.
Oes, allwch ddewis modiwl profiad gwaith neu ddewis gwneud blwyddyn o brofiad gwaith rhwng blwyddyn 2 a 3.
Mae yna lawer o yrfaoedd y gallwch eu dilyn gyda gradd mewn troseddeg. Mae astudio troseddeg a chyfiawnder troseddol yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddeall troseddwyr a鈥檜 hymddygiad troseddol, a gall hyn arwain at yrfaoedd gwerth chweil a all wneud newid cadarnhaol mewn cymdeithas. Er enghraifft, gallech fynd ymlaen i weithio yn un o'r asiantaethau cyfiawnder troseddol fel yr heddlu, carchardai a gwasanaethau prawf. Mae graddedigion hefyd yn dilyn gyrfaoedd sy'n gweithio i fynd ar afael 芒 throseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau lleol, megis troseddau ieuenctid a gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr, gyda rolau mewn awdurdodau lleol fel y gwasanaethau brys, awdurdodau iechyd a sefydliadau cymdeithasau tai.
Neidiwch i mewn 芒'ch holl galon. Trawsnewidiodd y brifysgol hon fi o fam sengl oedd yn ei chael hi'n anodd i rywun a raddiodd gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Nid yw 精东传媒 yn unig yn eich addysgu, mae'n eich meithrin, yn eich herio ac yn eich helpu i ailddarganfod hyder nad oeddech chi'n gwybod ei fod gennych chi.
Cwrdd 芒 rhai o dy ddarlithwyr
Dr Tim Holmes
Rydw i wedi bod 芒 diddordeb mewn ymddygiad dynol erioed, a'r hyn sy'n digwydd pan fydd angen i grwpiau weithio gyda'i gilydd. Cynigiodd troseddeg lwybr uniongyrchol i astudio ymddygiad dynol gyda ffocws ar rai o鈥檙 materion a鈥檙 heriau diddorol mewn cymdeithas.
Dangos i bobl y gellir gweld llawer o ddamcaniaethau a syniadau cymhleth mewn ymddygiad a gweithgareddau pobl mewn cymdeithas bob dydd. Rydw i鈥檔 credu bod troseddeg yn un o'r meysydd mwyaf hygyrch yn y byd academaidd, rydym i gyd yn asesu bygythiadau ac yn cyfrifo risgiau a manteision yn ymwneud ag ymddygiad, ac mae gennym ni i gyd syniadau am yr hyn y dylai fod yn gywir ac yn anghywir. Rydw i'n hoffi trafod y pethau hynny gyda myfyrwyr.
Rydw i鈥檔 astudio twyllwyr ac mae byd dichell a thwyll yn ddiddorol iawn. Dangosodd y ffordd y mae pobl yn twyllo eraill, yn ffugio eu marwolaethau eu hunain, yn cymryd hunaniaeth rhywun arall lawer i mi am sut mae cymdeithas yn gweithio. Roedd dysgu am sgiliau manipiwleiddio a'r hyn y mae rhai o'r twyllwyr mwy drwg-enwog wedi llwyddo i'w gyflawni yn wirioneddol ddiddorol.
Defnyddiol, hygyrch, pwysig.
Lisa Suzanne Sparkes
Dwi wedi bod 芒 diddordeb mewn trosedd erioed, a dechreuodd y cyfan oherwydd mai heddwas oedd fy nhad cyn iddo ymddeol. Penderfynais pan oeddwn yn 34 fy mod eisiau dysgu mwy am y pwnc, a dyna sut y dechreuodd y cyfan, wel, yn academaidd.
Mae cymaint o wahanol feysydd y gallwch ganolbwyntio arnynt, boed hynny鈥檙 System Cyfiawnder Troseddol ei hun, yr asiantaethau amrywiol, y gwahanol fathau o droseddau a throseddwyr, y damcaniaethau y tu 么l i pam mae rhywun yn dod yn droseddwr. Mae鈥檙 rhestr yn ddiddiwedd鈥�
Y rhan orau i mi, yw graddio! Dwi bob amser yn mynd mor emosiynol yn gwylio ein myfyrwyr yn graddio, dwi鈥檔 llawn balchder ohonynt. Byddwn hefyd yn dweud bod y System Cyfiawnder Troseddol bob amser yn esblygu ac mae cymaint o achosion y gallwn eu cysylltu 芒鈥檔 dysgu.
Cyn dod yn ddarlithydd ym Mhrifysgol 精东传媒, roeddwn yn fyfyriwr yma. Y cyngor gorau i mi ei dderbyn oedd bod y staff yma i helpu, eu bod eisiau ichi lwyddo, ac mae ganddynt bolisi drws agored. Ymunwch 芒 chlybiau a chymdeithasau hefyd.