Dysgu M芒n Siarad?
Ddydd Iau, 7 Rhagfyr, bu ein Huwch-ddarlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, Dr Cynog Prys, yn sgwrsio ar raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru am ddatblygiad diweddar lle mae prifysgolion yn America wedi dechrau rhoi gwersi i fyfyrwyr yngl欧n 芒 sut mae gwneud siarad m芒n (small talk).
Mae prifysgolion America wedi mynegi gofid fod pobl ifanc wedi colli鈥檙 ddawn i wneud m芒n siarad, a hynny am resymau amrywiol, o bandemig Covid-18 i鈥檙 defnydd dibynnol o ffonau clyfar. Maent o鈥檙 farn ei bod yn bwysig i bobl fedru cael rhyngweithiadau rhwydd ag eraill. Mewn geiriau eraill, iro olwynion rhyngweithiad cymdeithasol.
Beth, felly, ydy siarad m芒n?
鈥楳ath o gyfnewid llafar rhwng unigolion, y gallu i fod efo pobl nad ydym ni鈥檔 eu hadnabod, neu pobl rydym efo perthynas 芒 nhw. Fel arfer, mae siarad m芒n efo鈥檙 bwriad i ymddangos yn gyfeillgar a chroesawgar. Ddim yn siarad am unrhyw beth o bwys 鈥� llenwi amser. Fel arfer rydym ni鈥檔 trio portreadu ein hunain mewn ffordd bositif (e.e. dwi鈥檔 berson neis!)鈥� meddai Dr Cynog Prys.
Mae m芒n siarad hefyd yn ddefod gymdeithasol, lle rydym yn cael ein dysgu ei bod yn bwysig inni ei gwneud. Y gofid ydy bod hyn yn digwydd yn llawer llai aml.
鈥楢m hynny, mae鈥檔 bwysig iawn. Mae鈥檔 dangos parch at bobl, yn ffordd o fod yn groesawgar, ac o bortreadu ein hunain mewn golau ffafriol,鈥� ychwanega Dr Cynog Prys. 鈥楬efyd, mae cymryd rhan mewn defodau cymdeithasol fel hyn yn atgyfnerthu bod trefn o fewn cymdeithas. Helpu iro olwynion cymdeithas a gofalu bod cymdeithas yn rhedeg yn llyfn.鈥�
Mae siarad m芒n yn ffenomen gymdeithasol o bwys enfawr a gellir clywed mwy am hyn drwy wrando ar gyfweliad Dr Cynog Prys: (55:38 i mewn i鈥檙 rhaglen).