G诺yl y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mangor yn dathlu Lles
Ar draws Prifysgolion y DU, cynhaliwyd G诺yl y Gwyddorau Cymdeithasol yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd, ac ymunodd Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddor Gymdeithas eto eleni 芒 Phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe i gyflwyno tri digwyddiad cyhoeddus a oedd yn arddangos yr ystod gwaith a oedd yn digwydd ar y thema 鈥楧ewch i Archwilio Lles鈥�.
Digwyddodd y sesiynau鈥檔 gyntaf yng Nghaerdydd ac Abertawe ddiwedd mis Hydref ac yna yn Pontio, 精东传媒 fis diwethaf. Cynhaliwyd digwyddiad bywiog a chyfeillgar i deuluoedd ac aelodau o鈥檙 cyhoedd, cydweithwyr, myfyrwyr a chynrychiolwyr o sefydliadau cymunedol i ddysgu am y gwaith anhygoel sy鈥檔 cael ei wneud. Roedd ffocws arbennig ar arddangos pwysigrwydd gweithio rhyngddisgyblaethol, gan ddangos pa mor annatod yw'r gwyddorau cymdeithasol i'r rhan fwyaf o ddisgyblaethau a rhoddodd gyfle rhwydweithio gwych i academyddion a sefydliadau i gydweithio ar brosiectau yn y dyfodol.
Eglurodd arweinydd G诺yl 精东传媒, Dr Corinna Patterson, 鈥楳ae G诺yl y Gwyddorau Cymdeithasol yn ffordd wych o ddathlu ac arddangos pwysigrwydd disgyblaethau鈥檙 Gwyddorau Cymdeithasol a sut maent yn rhan annatod o ddeall a dod o hyd i atebion i faterion cymdeithasol, yn lleol ac yn fyd-eang.鈥�
Gyda 17 o stondinau yn edrych ar amrywiaeth o faterion, o gaethwasiaeth fodern, gofalwyr ifanc, deallusrwydd artiffisial, newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd ac iechyd, i addysg ac anghydraddoldebau cymdeithasol, i enwi dim ond rhai, roedd y mynychwyr yn gallu archwilio'r stondinau rhyngweithiol amrywiol i ddysgu am y pynciau a'r ymchwil. Roedd gan y digwyddiad hefyd osodiadau celf gan Sarah Holyfield ar them芒u meddygaeth a chymdeithas ac anghydraddoldebau cymdeithasol, gan helpu i ysgogi meddwl a sgwrs bellach. Daeth y digwyddiad bywiog i ben gyda thrafodaeth banel dan gadeiryddiaeth Andy Mcstay, Athro mewn Technoleg a Chymdeithas, a roddodd y cyfle i bobl glywed yn fanylach enghreifftiau o ymchwil ryngddisgyblaethol ym maes y gwyddorau cymdeithasol sy'n digwydd ar hyn o bryd ar thema lles a chymdeithas.
Aelodau鈥檙 panel oedd:
- Dr Hefin Gwilym - Incwm a Lles sylfaenol Cyffredinol (Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol 精东传媒).
- Dr Myfanwy Davies - Hunaniaeth ac Anghenion Gofalwyr, Trafodaethau ynghylch Budd-daliadau (Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol 精东传媒).
- Dr Patricia Masterson Algar - Gofalwyr ifanc dementia (yn cynnwys pobl ifanc 芒'r profiad byw mewn ymchwil ac yn y dylunio a'r offer cymorth) (Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, Prifysgol 精东传媒).
- Dr Nathan Bray - Trafod Iechyd a Lles a Gwaith yr Academi (Academi dros Iechyd, Tegwch, Atal a Lles, Prifysgol 精东传媒).
- Mr Simon Johns - Lles Plant a Chydweithio (Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd).
Gan adlewyrchu ar lwyddiant y diwrnod, ychwanegodd Corinna, 鈥楴id oeddem erioed wedi cynnal digwyddiad fel hwn o鈥檙 blaen, roedd yn gyd-ddigwyddiad yn debyg o ran fformat i Ddiwrnod Cymunedol y Brifysgol, ac fel hynny, roedd yn ddiwrnod hynod fywiog. Rydym wedi cael adborth anhygoel gan fynychwyr ac academyddion. Roedd yn ddigwyddiad enfawr i鈥檞 drefnu, yn enwedig rhwng tair Prifysgol, felly roedd yn wych ei weld yn rhagori ar ein disgwyliadau ac yn arddangos pwysigrwydd ymchwil gwyddorau cymdeithasol.鈥�
Mae鈥檙 糯yl Gwyddor Gymdeithasol yn ddathliad blynyddol o ymchwil a gwybodaeth am fodau dynol a chymdeithas ac roedd yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed yn 2022. Mae鈥檔 gyfle i unrhyw un archwilio pynciau sy鈥檔 ymwneud 芒 gwyddor gymdeithasol 鈥� o iechyd a lles i droseddu, cydraddoldeb, addysg a hunaniaeth. 鈥� drwy ddigwyddiadau a gynhelir gan ymchwilwyr o brifysgolion y DU.