Heddwch a Hunaniaeth
Dr Gareth Evans-Jones
Homoffobia. Cwiyrffobia. Trawsffobia. Dyma dri math o 鈥榓gweddau鈥� sydd wedi bod yn sail i drais yn erbyn pobl LHDTC+ ar hyd y blynyddoedd, ac sydd, yn anffodus, yn dal i fod. Yr hyn sy鈥檔 drawiadol ydi鈥檙 鈥榝fobia鈥� sydd i鈥檞 gweld yn ail ran y termau uchod. Mae rhai wedi dadlau mai oherwydd ofn y mae鈥檙 fath wrthdaro鈥檔 bod, a bod yr ofn hwnnw鈥檔 arwain at atgasedd a gweithredu. Mae eraill wedi dadlau nad ydi hynny鈥檔 wir 鈥� nad ofn sydd wrth wraidd y fath safbwyntiau ond casineb; diffyg cariad.
Does dim posib ochri鈥檔 gwbl gyda鈥檙 naill ddadl neu鈥檙 llall, oherwydd bod gwirionedd i鈥檙 ddwy. Mae atgasedd i鈥檞 weld mewn ymosodiadau corfforol ar bobl gwiyr sy鈥檔 gwneud dim byd mwy na cherdded law yn llaw efo鈥檜 cymar i lawr stryd. Mae atgasedd i鈥檞 weld mewn ymosodiadau geiriol ar bobl gwiyr sy鈥檔 gwisgo bathodyn pinc a glas a gwyn ar eu cotiau, er enghraifft. Ac mae atgasedd i鈥檞 weld mewn ymosodiadau angheuol, lle mae pobl gwiyr yn gwneud dim byd mwy na bodoli. Ond mae yna elfen o ofn ynghlwm wrth yr agweddau yma: ofn bod pobl LHDTC+ yn tanseilio 鈥榗onfensiynau traddodiadol鈥� (confensiynau ardal ddaearyddol benodol adegau penodol, wrth gwrs), a鈥檜 bod yn hyrwyddo newid strwythurol mewn ffordd radicalaidd. Cafodd yr ofn yma ei grisialu鈥檔 glir yn y geiriau a glywais mewn caffi yn ddiweddar: 鈥極s gawn nhw hynna, be fydd nesa 鈥檇e?!鈥� Ofn yr hyn na wyddom. Ac mae modd gweld hynny fel sail i鈥檙 fath wrthdaro sy鈥檔 bod mewn perthynas 芒 phobl LHDTC+; am nad ydi pobl gwiyr yn cydymffurfio 芒鈥檙 confensiynau heteronormaidd sydd wedi eu hen wreiddio yn ein cymdeithas.
Drwy ofni鈥檙 hyn na wyddom, mae pobl yn creu rhaniadau go glir rhwng y cyfarwydd a鈥檙 anghyfarwydd, y ni a鈥檙 nhw, yr hunan a鈥檙 arall. A dyna, ar un olwg, sy鈥檔 nodweddu agweddau treisgar ym mhob oes, ac mewn sawl cyd-destun: bod y naill yn gweld eu hunain fel y 鈥榥i鈥�, yr 鈥榟unan鈥�, a鈥檙 llall fel y 鈥榥hw鈥�, yr 鈥榓rall鈥�. Yr arallu hwnnw sy鈥檔 tanio鈥檙 trais. Pan feddyliwn am gymdeithas y Gorllewin ar hyd y canrifoedd, mae merched wedi cael eu harallu, mae mewnfudwyr wedi cael eu harallu, mae pobl ag anableddau wedi cael eu harallu; mae wastad 鈥榶r arall鈥� yn bod er mwyn grymuso鈥檙 hunan. Yn aml, mae鈥檙 arallu yna wedi arwain at broses o beidio ag ystyried yr 鈥榓rall鈥� fel bodau dynol o gig a gwaed a theimlad, ond fel 鈥榩ethau鈥�. Ac nid yn unig yng nghyd-destun caethwasiaeth y gwelir hynny.
Mae hyn yn dwyn i gof syniadaeth Martin Buber; yn benodol, yr Ich und Du, y fi a thi. Cyn belled ag rydym yn ymwneud ag eraill, yn fodau dynol, a鈥檙 byd o鈥檔 cwmpas yn ehangach, yn nhermau鈥檙 鈥榝i a thi鈥�, mae yna obaith. Gall parch fodoli, a goddefgarwch, a phosibilrwydd heddwch. Ond pe baem yn gweld eraill yn nhermau Ich und Es, y fi a鈥檙 鈥榩eth yna鈥� (it yn y Saesneg), bydd ansicrwydd, bydd ofn, bydd peryg dinistr. Dyna sydd wedi bod yn rhan o rethreg a gweithred pobl gwiyrffobig ers canrifoedd. Y 鈥榥i鈥� a鈥檙 鈥榩ethau yna鈥�: deuoliaethau dinistriol.
A dyna鈥檔 wir ydi鈥檙 hyn a welwn mewn hanesion niferus. Meddyliwn am yr Holocost, er enghraifft. Yn ystod y cyfnod uffernol hwnnw, cafodd miloedd ar filoedd o bobl gwiyr eu herlid a鈥檜 cam-drin, a鈥檜 lladd. Gwyddom hefyd i lawer gael eu labelu gyda rhywioldeb penodol nad oedd, mewn difri, yn adlewyrchu eu rhywioldeb go iawn. Roedd rhywun naill ai鈥檔 ddyn hoyw neu鈥檔 ddynes hoyw, a dyna ni; ac mewn difri, dim ond y dynion hoyw oedd yn destun gwir bryder oherwydd bod perthnasau hoyw ymysg merched yn llai 鈥榙ylanwadol鈥�, yn llai 鈥榞rymus鈥�, yn llai 鈥榗ryf鈥� o beth. Roedd yna bobl ddeurywiol. Roedd yna bobl draws. Roedd yna bobl anneuaidd. Ond eu hanwybyddu a wnaed drwy lunio鈥檙 pecynnau twt, deuol 鈥� 鈥榙yn hoyw鈥� a 鈥榙ynes hoyw鈥� 鈥� a鈥檜 gosod mewn cyd-destun 鈥榶r arall鈥�.
Gyda鈥檙 arallu hefyd, fel sy鈥檔 wir am hanes cwiyr yr Holocost, mae hanesion cwiyr yn gyffredinol wedi mynd yn angof. Mae pobl gwiyr wedi cael eu gwthio o ganol cyfrolau hanesyddol, o gofnodion diwylliannol, ac o nodiadau gwleidyddol, am nad oedden nhw鈥檔 鈥榳eddus鈥� neu鈥檔 鈥榠awn鈥�. Neu hyd yn oed wedi cael eu harliwio鈥檔 鈥榮dr锚t鈥� gan ambell hanesydd. Mae hyn hefyd yn fath o ddiffyg heddwch.
Yr hyn sy鈥檔 drawiadol ac yn ddiddorol ydi鈥檙 modd y mae pobl gwiyr wedi coleddu鈥檙 鈥榓rall鈥� yma ar hyd y blynyddoedd; wedi mabwysiadu鈥檙 label ac ymateb.
鈥楶am bod isio鈥檙 petha prides 鈥檓a?鈥� oedd sylw arall a glywais i gan rywun y llynedd. Pam? Oherwydd caethiwed y cywilydd mae cyfran helaeth o bobl gwiyr wedi ei brofi, ac yn dal i鈥檞 brofi oherwydd y ffordd y mae cymdeithas wedi cyflyru pobl i feddwl am eu hunaniaethau rhywiol. Mae gorymdeithiau Balchder yn brotestiadau, ond yn rhai heddychlon yn eu hanfod. Maen nhw hefyd yn ddatganiadau cyhoeddus ei bod hi鈥檔 berffaith iawn, yn berffaith naturiol bod yn LHDTC+.
Ond nid heddwch sydd wedi nodweddu gweithgareddau鈥檙 gymuned gwiyr erioed, wrth gwrs. Does ond rhaid meddwl am y Terfysgoedd Stonewall (Stonewall Riots) yn ninas Efrog Newydd yn 1969. Ond gwrthdaro wedi鈥檌 fwriadu roedd hynny, gan griw penodol o鈥檙 awdurdodau, er mwyn aflonyddu鈥檙 dyfroedd 鈥� er mwyn hyrwyddo鈥檙 syniad bod y gymuned LHDTC+ yn radicalaidd, yn broblemataidd, ac yn beryg i gymdeithas: yn 鈥榓rall鈥� sy鈥檔 gwrthod cyd-fynd 芒鈥檙 鈥榥i鈥�. Ac mi goleddwyd 鈥榶r arall鈥� hynny a鈥檙 ymosodiad hwnnw gan y gymuned LHDTC+ ei hun er mwyn cynorthwyo pobl gwiyr eraill. Sefydlwyd mudiad Stonewall yn 1989, ac erbyn hyn, mae sawl cangen o鈥檙 mudiad ym Mhrydain. Mae hefyd nifer o fudiadau eraill yn bod i gefnogi pobl LHDTC+ ledled Cymru, Prydain a thu hwnt. A dyna ddangos bod yn yr 鈥榓rall鈥� gymuned, un sy鈥檔 coleddu鈥檙 鈥榞wahanol鈥� a鈥檙 鈥榓nghonfensiynol鈥� sy鈥檔 gwbl naturiol.
Oes, mae yna wrthdaro. Oes, mae dal dirfawr angen ail-glywed lleisiau lliwgar y gorffennol, a dathlu unigolion sydd wedi cael eu cuddio gan hanes. Oes, mae angen hyrwyddo heddwch. Ac mae鈥檙 enfys yn greiddiol yn hyn o beth. O fewn Cristnogaeth, mae鈥檙 enfys yn arwydd o gymod rhwng Duw a dynoliaeth, fel y gwelir ar 么l stori鈥檙 Dilyw ac Arch Noa. Mi all yr enfys hefyd fod yn arwydd o gymod rhwng pob un yn ein cymdeithas. Bwa o liwiau a welir gan amlaf, pan mae鈥檙 haul yn deffro wedi cawod o law, ond cylch ydi si芒p enfys mewn difri. Dyna鈥檙 dystiolaeth wyddonol. Ac onid ydi hynny鈥檔 syniad gwerthfawr y gallem ni ei hyrwyddo? Mae enfys yn gylch sy鈥檔 clymu鈥檙 gymdeithas liwgar ynghyd. Mae鈥檙 enfys hefyd yn gylch sy鈥檔 gallu clymu cymdeithas gyfan ynghyd. Unrhyw 鈥榥i鈥� a 鈥榥hw鈥�. A gan nad oes dechrau na diwedd i gylch, felly hefyd, ni ddylem greu rhaniadau o鈥檙 fath 芒鈥檙 ni a鈥檙 nhw. Beth am gylch cymdeithas, yn enfys o gylch, tu hwnt i ddeuoliaethau鈥檙 gorffennol?
Mae'r rhifyn ar gael i'w brynu o wefan a bydd yr holl elw yn mynd tuag at elusen Oasis Caerdydd.