Academyddion y Gyfraith wedi鈥檜 Penodi鈥檔 Olygyddion Ymgynghorol i鈥檙 Halsbury鈥檚 Laws Anrhydeddus
Mae Dr Ama Eyo, Uwch Ddarlithydd mewn Cyfraith Caffael Cyhoeddus, a Mr Stephen Clear, Darlithydd mewn Cyfraith Gyfansoddiadol a Gweinyddol, ill dau wedi鈥檜 penodi鈥檔 Olygyddion Ymgynghorol yr Halsbury鈥檚 Laws of England, sy鈥檔 wyddoniadur uchel ei fri. Byddant yn cymryd cyfrifoldeb am Gyfrol 85A gyntaf ar y testun Caffael.
Ers dros 100 mlynedd, mae teitlau鈥檙 Halsbury鈥檚 wedi cael eu hystyried fel yr unig ddatganiad naratif cynhwysfawr o gyfraith Cymru a Lloegr, sy鈥檔 cynnwys cyfraith sy鈥檔 deillio o bob ffynhonnell. Ysgrifennir y casgliad gan neu mewn ymgynghoriad 芒 chyfreithwyr blaenllaw - ymarferwyr ac academyddion, gan gynnwys bargyfreithwyr ac aelodau o Gwnsler y Brenin - gan sicrhau ansawdd a dibynadwyedd uchaf.
Mae Golygyddion Ymgynghorol ar gyfer cyfrolau eraill wedi cynnwys: sidan cynllunio blaenllaw Saira Kabir Sheikh KC; Dirprwy Farnwr yr Uchel Lys yr Athro David Ormerod KC CBE ar gyfer Cyfraith Droseddol; Yr Athro Cyfraith Gyfansoddiadol Rodger Masterman o Brifysgol Durham; awdurdod blaenllaw鈥檙 DU ar y gyfraith sy鈥檔 ymwneud 芒 COVID-19, y bargyfreithiwr Adam Wagner o Doughty Street Chambers; yr Athro Christopher Hodges o Brifysgol Rhydychen ar y System Gyfiawnder; a'r arbenigwr blaenllaw ar Gyfraith yr Amgylchedd, yr Athro Richard Macrory o UCL.
Mae Ama a Stephen yn ymgymryd 芒 r么l golygydd ymgynghorol y gyfrol newydd ar adeg gyffrous yn natblygiad y Gyfraith Gaffael, gyda Senedd y DU bellach wedi pasio Deddf Caffael newydd 么l-Brexit 2023.
