Dan gadeiryddiaeth fedrus Dr Mari Wiliam, darlithydd Hanes Modern a Hanes Cymru, cyflwynodd yr Athro Charlotte Williams gefndir a chyd-destun y gyfrol, Globalising Welsh Studies, a鈥檌 phwysigrwydd yn yr hinsawdd gyfoes. Ychwanegodd Dr Neil Evans air am broses llunio鈥檙 gyfrol a鈥檙 them芒u a amlygodd eu hunain wrth ddod 芒鈥檙 erthyglau niferus ynghyd.
Yn dilyn hynny, cafwyd dwy ddarlith fer gan ddau o gyfranwyr y gyfrol. Traddododd Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd Athroniaeth a Chrefydd, sgwrs am ei bennod sy鈥檔 ailddehongli鈥檙 bywgraffiad a luniwyd i John Ystumllyn gan Alltud Eifion. Yn 么l traddodiad, John Ystumllyn yw鈥檙 dyn du cynharaf y gwyddom amdano a oedd yn siarad Cymraeg yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae pennod Dr Evans-Jones yn dangos yr haenau amrywiol yng ngwaith Alltud Eifion and ydynt wedi eu trafod llawer hyd yn hyn, yn enwedig mewn perthynas ag iaith, hiliaeth, ac imperialaeth.
Clowyd y sesiwn gyda darlith gan Dr Marian Gwyn, Darlithydd Anrhydeddus, a dradodd sesiwn hynod ddiddorol yn olrhain cyd-berthynas archifdai a鈥檙 cof cymdeithasol a chenedlaethol, a phwysigrwydd gofalu am nawdd digonol i gynnal y mannau pwysfawr hyn. Adlewyrchwyd ar ddigwyddiadau nodi dau gan mlwyddiant diddymu caethwasiaeth ym Mhrydain a鈥檙 gwahanol ffyrdd yr ymatebwyd i hynny, ynghyd 芒 rhan arwyddocaol y casgliadau a鈥檙 arddangosfeydd a ddangosir mewn hyrwyddo a datblygu cymdeithas fwy cynhwysol a pharchus.
Mae鈥檙 gyfrol eisoes wedi derbyn canmoliaeth gan wahanol arbenigwyr, gan gynnwys yr Athro Uzo Iwobi CBE, Prif Weithredwr Cyngor Hil Cymru a ddywedodd fod Globalising Welsh Studies 鈥榶n ddarllen hanfodol i unrhyw un sy鈥檔 dymuno deall ein taith i gynhwysiant ac integreiddio yma yng Nghymru.鈥�
Roedd yn achlysur arbennig ac mae modd darllen y gyfrol yn ei chyfanrwydd drwy .
Gellir hefyd brynu copi caled o'r llyfr gan .