'Llyfr Hanes y Flwyddyn' Waterstones a gyhoeddwyd gan Hanesydd o Brifysgol 精东传媒
Yn ei lyfr newydd '', a gyhoeddwyd gan Penguin yn 2023, mae ein darlithydd Dr David Veevers wedi mynd ati i ailysgrifennu hanes y byd modern cynnar fel y鈥檌 diffinnir nid gan ehangiad a llwyddiant diarbed ymerodraeth Lloegr, ond gan ymdrechion y bobl frodorol ac an-Ewropeaidd a ddaeth i gysylltiad 芒 hi i wrthsefyll, a hyd yn oed trechu'r Saeson.
Wedi鈥檌 enwi鈥檔 ddiweddar yn 鈥楲lyfr Hanes y Flwyddyn鈥� Waterstones, mae 鈥楾he Great Defiance鈥� yn adrodd hanes yr ymerodraeth dros 300 mlynedd 鈥� o 1500 i 1800 鈥� ac yn igam-ogamu ar draws y byd, o F么r y Canoldir a鈥檙 Carib卯, bob cam i Orllewin Affrica a Dwyrain Asia. Gan ddefnyddio cyfoeth o ffynonellau archifol, mae'r llyfr yn adrodd yn fanwl penderfyniad cadarn Penaethiaid Powhatan i gadw gwladychwyr Jamestown o hyd braich yn Virginia. Mae'r llyfr yn dod 芒 hanes anghofiedig pobl Kalinago o'r Carib卯 yn fyw, a fu'n ymladd yn erbyn y Saeson am bron i ddwy ganrif, yn ysbeilio planhigfeydd siwgr ac yn rhyddhau caethweision Affricanaidd. Mae darllenwyr hyd yn oed yn ymweld 芒'r Tokugawa Shogun o Japan, a heliodd masnachwyr rhyfelgar o Loegr o'r wlad yn y pen draw. Yn hytrach na rheoli鈥檙 byd modern cynnar, roedd Prydain yn brwydro i wastrodi鈥檙 bobl a鈥檙 diwylliannau grymus a ffyniannus y daeth ar eu traws.
Mae Dr Veevers yn Ddarlithydd mewn Hanes Modern Cynnar yma ym Mhrifysgol 精东传媒. Mae llawer o鈥檙 modiwlau y gallwch ddewis eu hastudio yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas yn seiliedig ar yr ymchwil a wnaeth ar gyfer ei lyfr. Yn 鈥楾he Tudor Conquest of Ireland鈥�, gallwch archwilio hanes trefedigaeth gyntaf un Lloegr, a sut y daeth concwest Iwerddon i benllanw gyda鈥檙 rhyfel mwyaf a ymladdodd Lloegr erioed yn yr unfed ganrif ar bymtheg, buddugoliaeth gostus a wthiodd Loegr Elisabeth at erchwyn distryw ac arweiniodd at ddinistr Iwerddon. Yn yr un modd, yn 'Emperors, Shoguns, and Trading Companies', bydd myfyrwyr yn astudio hanes anghofiedig Asia yn yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, pan gyfarfu'r newydd-ddyfodiaid Ewropeaidd ag ymerodraethau mwyaf pwerus ac econom茂au cyfoethocaf y byd, gan orfodi'r Saeson i sylweddoli y daethant o wlad lom a thlawd braidd mewn cymhariaeth!
Gwrandewch ar Dr Veevers yn trafod ei lyfr yn y podlediad.