Mae stori Mary Jones, neu Mari Jones ar lafar, yn un sydd wedi cydio yn nychymyg cenedlaethau o bobl, a pha ffordd well i ddathlu Dydd G诺yl Ddewi a dechrau Mis Hanes Merched na thrwy gael cyn-fyfyrwraig ac un sy鈥檔 arbenigo ar hanes a dylanwad Mary Jones i roi sgwrs amdani.
Graddiodd Nerys Siddall mewn Cymraeg a Diwinyddiaeth o Brifysgol 精东传媒 ac aeth ymlaen i ennill MA mewn Astudiaethau Beiblaidd o Brifysgol y Drindod Dewi Sant, ac erbyn hyn, mae鈥檔 rheoli canolfan Byd Mary Jones yn Llanycil, y Bala, felly roedd yn braf medru cael Nerys i draddodi sgwrs am bwysigrwydd Mary Jones heddiw. Yn 1800, cerddodd y ferch 15 oed ar y pryd 26 milltir er mwyn prynu ei chopi ei hun o鈥檙 Beibl, a phrofodd y daith honno鈥檔 gatalydd ar gyfer yr ymgyrch i ofalu bod 鈥楤eibl i bawb o bobl y byd鈥�, pe dymunid cael un, a hyrwyddo llythrennedd, a, maes o law, sefydlu Cymdeithas y Beibl.
Cyflwynodd Nerys gyd-destun teuluol Mary a鈥檙 heriau a wynebodd ar hyd ei hoes, gan fanylu ar ei s锚l grefyddol a鈥檌 harddeliad i gael copi personol o鈥檙 Beibl. Gyda hynny, daeth yn ffigwr nodedig, ac mae鈥檔 dal i fod felly heddiw. Yn wir, yn ei chyflwyniad, dywedodd Nerys fod erthygl wedi鈥檌 chyhoeddi ychydig flynyddoedd yn 么l a oedd yn rhestru 10 o Gymry mwyaf enwog ledled y byd, a鈥檙 un i gyrraedd brig y rhestr oedd Mary Jones. Mae ei henw a鈥檌 hanes yn adnabyddus ar draws y byd, mewn nifer o wledydd gwahanol, ac mae pobl o bob cwr o鈥檙 byd yn ymweld 芒 Chanolfan Byd Mary Jones yn flynyddol.
Wrth gloriannu鈥檙 digwyddiad a gynhaliwyd dros Zoom, dywedodd Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd Athroniaeth a Chrefydd, a chyd-gyfarwyddwr Canolfan Addysg Grefyddol Cymru, 鈥楻oedd hon yn sgwrs eithriadol ddiddorol. Mae hanes Mari Jones yn un sy鈥檔 dal i ganu hyd heddiw ac roedd hi鈥檔 wych gweld cynifer o bobl wedi mynychu鈥檙 digwyddiad o wahanol gefndiroedd, gyda thair ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd, academyddion, ymchwilwyr, gweision sifil, gweithwyr mudiadau ffydd a chymunedol, ac aelodau cefnogol o鈥檙 cyhoedd ymysg y gynulleidfa. Yn sicr, mae stori Mari yn werth ei chlywed a鈥檌 chofio, boed yn grefyddol neu beidio, oherwydd ei bod yn dangos, ac yn briodol i eiriau Dewi Sant, mai drwy鈥檙 pethau bychain y ceir yr effaith fwyaf. Ac wrth i Mari Jones cymryd y cam cyntaf hwnnw, cafodd dylanwad pellgyrhaeddol.鈥�
Bydd Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru鈥檔 rhyddhau adnoddau addysg yn ystod Mis Hanes Merched y gellir eu defnyddio mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd yn seiliedig ar hanes Mary Jones o鈥檙 Bala.