Cyn-fyfyrwyr Prifysgol 精东传媒 yn llwyddo unwaith eto
Enillodd cyn-fyfyriwr Prifysgol 精东传媒 Matt Evans y wobr Newydd-ddyfodiad Gorau yn Nigwyddiad Dathlu Gogledd Creadigol yn Theatr Clwyd ar nos Iau 2il o Chwefror. Enwebwyd Matt a chyn-fyfyriwr arall o鈥檙 Brifysgol, Shafin Basheer, ar gyfer y wobr hon, yn dilyn blwyddyn lwyddiannus i鈥檙 ddau.
Roedd Matt a Shafin wedi cael llwyddiant mawr yng ngwobrau myfyrwyr RTS Cymru llynedd, gan gipio dwy wobr bob un, ac ers hynny maent wedi cynhyrchu ffilmiau eraill sydd hefyd wedi cael cydnabyddiaeth mewn gwyliau a chystadleuthau ffilm.
Yn 么l Dr Geraint Ellis o adran Ffilm, Cyfryngau a Newyddiaduraeth y Brifysgol: 鈥楳ae pawb yn falch iawn o lwyddiant Matt a Shafin. Mae鈥檙 ddau yn ffilmwyr talentog sydd wedi cynhyrchu gwaith safonol iawn dros y blynyddoedd diwethaf, er gwaethaf amgylchiadau anodd.鈥�
Ychwanegodd Geraint, 鈥楳ae鈥檔 braf gweld digwyddiadau fel hyn sydd yn rhoi llwyfan i鈥檙 gweithgareddau cyffrous yn y diwydiannau creadigol yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd a鈥檙 cynlluniau sydd ar y gweill. Roedd y noson yn Theatr Clwyd yn gyfle i ddathlu a hyrwyddo鈥檙 datblygiadau hyn, ac mae pobl ifanc fel Matt a Shafin yn haeddu pob canmoliaeth a chefnogaeth ym mha bynnag lwybrau byddant yn eu dilyn yn y dyfodol.鈥�