09/23 Ffitrwydd Prifysgol 精东传媒 鈥� Enillydd Aelodaeth Campfa yn Parhau ar y Siwrnai
Gyda鈥檙 hydref yn dod i mewn, gallai ymuno 芒 champfa鈥檙 brifysgol fod yn ffordd wych o fywiogi a chadw鈥檔 heini yn ystod dyddiau oerach.
Mae yna hefyd lawer o sesiynau gweithredol eraill i staff am ddim neu gyfraddau gostyngol:
- Mae rhaglen Staff Gweithredol Prifysgol 精东传媒 yn parhau.
- Mae sesiynau Tai Chi staff yn rhedeg tan 14 Rhagfyr
- Mae Sesiynau Symud ac Ymestyn yn cael eu cynnal ar hyn o bryd bob dydd Mercher, 12;15-12:45, Canolfan Brailsford. Gallwch e-bostio brailsford@bangor.ac.uk i archebu eich lle.
Ysgrifennwyd y blog isod gan Iain Lettice, Uwch Swyddog Clerigol, Ysgol Gwyddorau Eigion.
Os oes gennych chi brofiad lles yr hoffech ei rannu, e-bostiwch iechydallesstaff@bangor.ac.uk i drafod.
BYW EICH BYWYD GORAU, AM WEDDILL EICH BYWYD
Blog gan Iain Lettice, Uwch Swyddog Clercyddol, Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion
Ychydig yn 么l fe enillais i fis o aelodaeth yng Nghanolfan Brailsford, sef campfa'r Brifysgol, ar 么l cymryd rhan yn arolwg iechyd a lles y brifysgol. Fe wnes i dreulio dipyn go lew o amser ar y cross trainer, y stepiwr a鈥檙 peiriant rhwyfo.
Ond bellach... mae gen i strategaeth wahanol ar gyfer ymweld 芒鈥檙 gampfa, dwi bellach yn aelod llawn.
A dyma pam...
Daw鈥檙 holl syniadaeth wreiddiol, y ffeithiau, y ffigurau a鈥檙 enghreifftiau canlynol gan '. Gallwch ei gefnogi trwy ei ddilyn ar gyfryngau cymdeithasol @PeterAttiaMD a phrynu ei lyfr.
Rhychwant iechyd, rhychwant oes a hirhoedledd i bobl 40+ oed

Os diffinnir 'rhychwant iechyd' fel eich ansawdd bywyd dros amser, a bod 'rhychwant oes' yn cael ei ddiffinio fel hyd eich oes, yna beth am anelu at newid eich ffordd o fyw fel y gallwch gael y rhychwant iechyd gorau posibl drwy gydol yr hyn sy鈥檔 weddill o鈥檆h oes?!
Gadewch i ni edrych ar rychwant iechyd yn gyntaf.
Os ydym yn defnyddio rhif i gynrychioli rhychwant iechyd, yna po uchaf yw鈥檙 rhif, y gorau yw safon eich bywyd.
Yn 么l Peter Attia MD, mae gan rychwant iechyd (ansawdd bywyd dros amser) ddau brif beth sy鈥檔 ei ysgogi. Y cyntaf yw 'Gwybyddiaeth' a'r ail yw 'Perfformiad Corfforol'.
Pam mai dyma鈥檙 prif ysgogwyr iddo? Wel鈥�
Wrth i'n meddwl ni ddirywio, mae ansawdd ein bywyd yn gwaethygu. Ac... wrth i'n gallu ni i wneud pethau corfforol ddirywio, mae ansawdd ein bywydau hefyd yn gwaethygu.
Mae'r ddau ysgogwr yn ddibynnol ar oedran. Mae'r ddau鈥檔 dirywio'n rhesymol ragweladwy gydag oedran, a dyna pam yn draddodiadol fod ansawdd ein bywyd yn gwaethygu wrth i bobl heneiddio.
Nawr, gadewch i ni edrych ar 'Rychwant Oes'.
Mae hyn yn llawer symlach. Os ydym yn defnyddio rhif i gynrychioli hyd oes, mae'n cyfateb i nifer y blynyddoedd yr ydym yn byw. Po uchaf yw'r rhif hwn, yr hiraf yr ydym wedi byw.
I ddod 芒'r ddau beth at ei gilydd...
Wrth i rychwant oes gynyddu, mae鈥檙 rhychwant iechyd yn gwaethygu nes ei fod yn cyrraedd sero pan fyddwn farw. Gallwch weld hyn yn y llun uchod.
Daw meddygaeth draddodiadol yn rhan o hyn oll fel arfer ychydig cyn i ni gyrraedd sero. Gall gynyddu ein rhychwant oes erbyn cyrraedd y pwynt hwn gan ychydig flynyddoedd, ond anaml iawn y gall gynyddu ein rhychwant iechyd rhyw lawer dros y blynyddoedd olaf hynny.
Rydym yn tueddu i gael ansawdd bywyd gwael ar ddiwedd ein hoes. Mae hyn yn ein gadael gyda chwpl o gwestiynau:
Ambell gwestiwn da...
Beth yw'r pwynt cynyddu ein rhychwant oes os ydym yn dioddef rhychwant iechyd isel dros y cyfnod ychwanegol hwnnw?
Ac ochr arall y geiniog鈥�
Pam nad ydym yn cynyddu ein hystod iechyd NAWR fel y gallwn oedi鈥檙 dirywiad anochel. Trwy weithredu'n gyson o hyn ymlaen, gallwn ohirio ac arafu ei dirywiad anochel dros amser? O wneud hynny byddem yn treulio cyfran lawer mwy o'n bywydau yn mwynhau iechyd da.
Nid yw dirywio wrth heneiddio yn rhywbeth sy鈥檔 gorfod digwydd. Gall gwaith caled a strategaeth droi pethau'n 么l o'n plaid.
Dyma lle mae Peter Attia (MD) a'i lyfr, 'Outlive 鈥� the science and art of longevity' yn dod i mewn iddi. Mae'n rhoi fframwaith i ni ar gyfer sut i heneiddio鈥檔 warthus o dda.
Nodau ar gyfer ein henoed

Mae 'Outlive 鈥� the science and art of longevity' yn eich helpu i ddiffinio beth hoffech chi allu ei wneud yn dda nawr AC am weddill eich bywyd er gwaethaf y dirywiad rhagweladwy sy'n dod gydag oedran.
Unwaith y byddwch wedi diffinio eich nodau, gallwch benderfynu yn union sut a pha hyfforddiant y mae angen i chi ei wneud fel unigolyn i gyflawni eich nodau unigryw wrth heneiddio.
Gall y nodau hyn ar gyfer eich henoed fod yn seiliedig ar dasgau corfforol rydych chi am allu eu gwneud fel rhan o fywyd bob dydd, neu ddyheadau athletaidd, neu bethau sydd eu hangen arnoch i'ch helpu chi i gael hwyl yn dilyn eich diddordebau personol.
Gallai nodau ar gyfer eich henoed fod yn bethau megis:
- Cerddwch ychydig filltiroedd yn y mynyddoedd gyda sach ar eich cefn.
- Codi oddi ar y llawr yn ddidrafferth
- Codi 诺yr neu wyres oddi ar y llawr.
- Cario bagiau siopa trwm am 1/2 filltir.
- Codi c锚s bychan i鈥檞 roi yn y locer bagiau mewn awyren
- Cario eich c锚s o amgylch maes awyr, i mewn ac allan o fws, ac i fyny'r grisiau i'ch ystafell westy
- Dringo 4+ set o risiau yn hawdd
- Agor jar newydd
- Cerdded i fyny allt serth.
- Rhedeg marathon 5K, 10K, neu hyd yn oed Marathon Llundain yn 100 mlwydd oed (ac oes mae yna bobl 100 oed sy'n gallu gwneud hynny!)
- Gwisgo eich esgidiau a'ch sanau a thorri ewinedd eich traed.
- Eistedd mewn car isel a dringo allan ohono.
Gall y pethau hyn eich helpu i ddelweddu'r lefel o ffitrwydd a hyblygrwydd y bydd angen i chi ei ddatblygu a'i gynnal i fyw bywyd da pan fyddwch chi yn negawdau olaf eich bywyd.
Maen nhw鈥檔 rhoi templed hyfforddi i chi.. r诺an hyn.
Maen nhw'n rhoi rheswm i chi gyrraedd y gampfa yn y lle cyntaf, neu i hyfforddi yn llawn bwriad pan fyddwch chi yno. Nid yw treulio awr ar y cross-trainer yn rheolaidd yn beth drwg, ond ni fydd yn eich helpu i fyw bywyd da yn eich 80au neu'ch 90au.
Ein dirywiad anochel gydag oedran
Nawr, gadewch i ni roi'r pethau hyn mewn cyd-destun.
Mae cryfder eich cyhyrau yn gostwng rhwng 8 ac 17% fesul degawd wedi i chi basio 40 oed, ac mae hynny鈥檔 cyflymu gydag amser. Dyna gyfartaledd o tua 15% y degawd, sy'n ostyngiad o tua 60% rhwng 40 ac 80 oed.
Mae eich VO2 Max yn gostwng ar oddeutu 10% y degawd wedi i chi basio 30 mlwydd oed. O osod y waelodlin unwaith eto ar 40 oed, yna mae hynny'n ostyngiad o tua 40% rhwng 40 ac 80 oed.
Beth am ddweud eich bod chi'n 40 oed nawr.
Os ydych chi am godi wyres 2 st么n pan fyddwch chi鈥檔 80 oed, bydd angen i chi allu codi plentyn 3.2 st么n yn rhwydd nawr.
Os ydych chi am allu rhoi bag 10kg mewn locer bagiau mewn awyren pan fyddwch chi'n 80, bydd angen i chi allu codi 16kg dros eich pen yn 40.
Mae cerdded yn gyfforddus ar lwybr serth yn 40 oed yn cymryd VO2 Max o tua 30ml/kg/min. Os ydych chi am allu gwneud hynny yn 80 oed, byddai angen bod gennych VO2 Max o 42ml/kg/min nawr.
Os ydych chi eisiau gallu dringo 4 set o risiau yn 80 oed, byddai angen i chi allu sbrintio i fyny鈥檙 grisiau hynny yn 40 oed.
Nodau uchelgeisiol ar gyfer bod yn 90 oed
Fideo: ''.
Ym mhob achos, mae angen i ni fod yn gwneud llawer mwy nawr i arfogi ein hunain rhag y dirywiad y byddwn yn ei wynebu wrth heneiddio. Mae angen i ni ddechrau magu cryfder, ystwythder, a gallu aerobig nawr.
Mae hynny鈥檔 nod uchelgeisiol, ond mae'n rhywbeth y mae modd i ni ei gyflawni. Mae'n ein helpu i ailddiffinio'r hyn sy'n bosibl yn ein henoed a dileu'r stereoteip y byddwn yn wan ac yn methu 芒 gwneud pan gyrhaeddwn yr oed hwnnw.
Gallwn greu naratif newydd am bobl 90+ oed sy'n gallu cario eu bagiau o amgylch maes awyr, mynd ar awyren, tynnu eu bagiau o鈥檙 locer, a chario eu bagiau i fyny grisiau鈥檙 gwesty鈥� dan eu st锚m eu hunain.
Mae yna bobl 90 oed sy'n rhedeg marathon, yn codi pwysau, yn hedfan awyrennau, ac yn parasiwtio allan ohonyn nhw - heb s么n am ddim ond teithio ynddyn nhw. Maen nhw'n gwneud pob math o bethau anhygoel eraill... r诺an hyn.
Beth nesaf i mi...
Fel yr o鈥檔 i鈥檔 s么n ar ddechrau'r blog yma, ychydig yn 么l fe enillais i fis o aelodaeth yng Nghanolfan Brailsford, sef campfa'r Brifysgol. Fe wnes i dreulio dipyn go lew o amser ar y cross trainer, y stepiwr a鈥檙 peiriant rhwyfo.
Ond bellach.. mae gen i strategaeth wahanol ar gyfer ymweld 芒鈥檙 gampfa. Dwi bellach yn aelod llawn. Ar 么l darllen , rydw i'n mynd i feddwl am fy nodau fy hun, ac yna siarad 芒 staff y gampfa i'm helpu i lunio cynllun 'hirhoedledd'.
Dw i eisiau heneiddio鈥檔 warthus o dda! Mae croeso i chi gysylltu 芒 fi os hoffech chi wneud yr un peth. Mi fyddai鈥檔 dda bod 芒 phobl i鈥檓 cadw ar y llwybr cywir. Gallwch gysylltu 芒 mi ar i.lettice@bangor.ac.uk.