Llofnododd Prifysgol 精东传媒 Ymrwymiad y Technegwyr ym mis Medi 2024. Drwy'r ymrwymiad hwn, rydym yn gweithredu i gefnogi, cydnabod a datblygu ein gweithlu technegol, gan sicrhau bod technegwyr yn chwarae rhan weladwy a gwerthfawr ledled y Brifysgol.
Beth yw Ymrwymiad y Technegwyr?
Mae Ymrwymiad y Technegwyr yn fenter ledled y DU ar gyfer prifysgolion a sefydliadau ymchwil. Fe'i cefnogir gan y Science Council ac fe'i cynhelir gan UK Institute for Technical Skills & Strategy.
Drwy ddod yn sefydliad sydd wedi llofnodi'r ymrwymiad, mae Prifysgol 精东传媒 wedi ymrwymo i adolygu a gwella'r gefnogaeth sydd ar gael i dechnegwyr ledled y sefydliad.
Ein hymrwymiad
Mae Ymrwymiad y Technegwyr yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol.
Gwelededd
Sicrhau bod pob technegydd o fewn y sefydliad yn adnabyddadwy a bod cyfraniad technegwyr yn weladwy o fewn y sefydliad a thu hwnt iddo.
Cydnabyddiaeth
Cefnogi technegwyr i ennill cydnabyddiaeth drwy gofrestru proffesiynol a chynlluniau gwobrau allanol.
Datblygu Gyrfa
Galluogi cyfleoedd ar gyfer cynnydd gyrfa i dechnegwyr drwy ddarparu llwybrau gyrfa clir sydd wedi鈥檜 dogfennu.
Cynaliadwyedd
Sicrhau cynaliadwyedd sgiliau technegol yn y dyfodol ar draws y sefydliad a sicrhau bod arbenigedd technegol yn cael ei ddefnyddio鈥檔 llawn.
Sut rydym yn cyflawni'r ymrwymiad
Mae ein Gr诺p Llywio Ymrwymiad Technegwyr, dan arweiniad Dr Charlotte Baxter, yn dod 芒 staff technegol ymroddedig ynghyd o bob rhan o鈥檙 sefydliad i sicrhau bod technegwyr yn cael eu cydnabod, eu cefnogi a鈥檜 grymuso yn eu rolau. Mae鈥檙 gr诺p yn gyfrifol am oruchwylio gweithrediad ein cynllun gweithredu ar gyfer yr Ymrwymiad Technegwyr.
Ein cynllun gweithredu
Ym mis Medi 2026, cyflwynodd Prifysgol 精东传媒 ei hunanasesiad a'i chynllun gweithredu dwy flynedd. Mae'r cynllun yn nodi sut y byddwn yn cyflawni gwelliannau ar draws pedwar maes blaenoriaeth Ymrwymiad y Technegwyr rhwng 2026 a 2028.
Lawrlwytho
Cynllun Gweithredu Ymrwymiad y Technegwyr Prifysgol 精东传媒 2026鈥�2028