Cyfres newydd S4C 'Cartrefi Cymru' yn archwilio hanes ac esblygiad tai yng Nghymru
Mae Ymchwilydd Doethurol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru Bethan Scorey yn s么n am ei rhan yn 鈥楥artrefi Cymru鈥�, cyfres deledu Gymraeg newydd sbon am hanes ac esblygiad tai yng Nghymru o gyfnod y Tuduriaid hyd heddiw. Mae'r rhaglen yn cael ei darlledu ar S4C ar hyn o bryd, ac mae penodau ar gael i'w gwylio ar a .
Dywedwch wrthym am y gyfres 鈥楥artrefi Cymru鈥�?
Mae Cartrefi Cymru yn gyfres newydd sbon a wnaed gan y cwmni cynhyrchu BOOM Cymru. Mae鈥檔 archwilio hanes ac esblygiad tai yng Nghymru dros ddeg pennod, gan ddechrau yn y cyfnod Tuduraidd yn y bennod gyntaf a symud yr holl ffordd i fyny at dai cyfoes yn y bennod olaf, gan edrych ar ddatblygiadau pensaern茂ol a chymdeithasol a effeithiodd ar dai ar bob lefel cymdeithasol. Cyflwynir y gyfres gan Aled Samuel, sydd wedi cyflwyno sawl cyfres am dai a threftadaeth yng Nghymru, gan gynnwys 鈥�04 Wal鈥�, 鈥楥artrefi Cefn Gwlad Cymru鈥�, 鈥�100 Lle鈥�, 鈥楪erddi Cymru鈥�, a 鈥楧an Do鈥�. Mae pob pennod hanner awr yn cynnwys tri th欧, gan gynnwys sgwrs gyda pherchnogion neu feddianwyr t欧 o鈥檙 cyfnod dan sylw i glywed am eu profiadau o fyw mewn t欧 hanesyddol.
Beth yw eich r么l ar y sioe, Bethan?
Fi yw鈥檙 hanesydd adeiladau ym mhob rhaglen: rwy鈥檔 ymddangos ochr yn ochr ag Aled yn hanner cyntaf pob pennod i roi trosolwg o brif ddatblygiadau pensaern茂ol y cyfnod dan sylw ac i archwilio鈥檙 prif d欧, cyn i Aled fynd yn ei blaen i weld dau t欧 arall yn yr ail hanner. Rwyf hefyd wedi bod yn gweithio y tu 么l i鈥檙 llenni i helpu i ddod o hyd i鈥檙 tai i鈥檞 cynnwys yn y sioe ac i ymchwilio i鈥檙 prif d欧 cyn ffilmio.
Ydych chi wedi gwneud unrhyw waith teledu o'r blaen neu a yw hon yn fenter newydd i chi?
Mae teledu yn diriogaeth hollol newydd i mi, ac er ei fod braidd yn frawychus, yn fy r么l fel hanesydd rydw i bob amser yn sgwrsio ag Aled yn hytrach na chyflwyno i gamera. Mae dehongli adeiladau hanesyddol yn rhywbeth yr wyf wedi hen arfer 芒 wedi gweithio fel Gofalydd yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan am tua ddeng mlynedd. Yn y r么l hon roeddwn wedi fy lleoli mewn un o'r adeiladau hanesyddol a ail-godwyd er mwyn dehongli'r adeilad hwnnw i ymwelwyr, sy'n rhywbeth a fwynheais yn fawr iawn, yn enwedig helpu pobl i gysylltu ag adeiladau. Mae鈥檙 blynyddoedd yn Sain Ffagan yn bendant wedi fy mharatoi ar gyfer y r么l deledu newydd hon, yn enwedig oherwydd mae'r adeiladau a ailgodwyd yn Sain Ffagan mor eang o ran dyddiadau, o dai crwn o'r Oes Haearn i 'prefab' o鈥檙 1940au.
Beth ydych chi wedi'i fwynhau fwyaf am y broses?
Rwyf wedi mwynhau treulio cymaint o amser mewn tai hanesyddol ledled Cymru. Mae bob amser yn fraint cael treulio鈥檙 diwrnod mewn adeilad hanesyddol, a cael yr adeilad hwnnw i'ch hun yw鈥檙 eisin ar y gacen! Drwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi cael y pleser o dreulio llawer o amser mewn adeiladau hanesyddol, o weithio yn Amgueddfa Werin Cymru i fy nghwrs gradd feistr mewn Hanes Adeiladau pan oeddem bob amser allan ar dripiau. Ar 么l treulio cymaint o amser yn y llyfrgell yn ysgrifennu fy nhraethawd doethuriaeth yn ddiweddar, braf oedd bod yn 么l yn y lleoliadau hanesyddol hyn. Mae hefyd wedi bod yn wych dod i adnabod Aled a th卯m BOOM Cymru, sydd i gyd yn caru hen adeiladau gymaint 芒 minnau; gyda鈥檌 gilydd maen nhw wedi gwneud cymaint o sioeau gwych, fel y byddech chi鈥檔 cael trafferth dod o hyd i adeilad yng Nghymru nad yw'r un ohonyn nhw wedi bod iddo!
A yw eich ymchwil doethurol wedi cyfrannu at y r么l hon?
Roedd dwy bennod gyntaf y gyfres 鈥� sydd eisoes wedi鈥檜 darlledu 鈥� yn canolbwyntio ar y cyfnodau Tuduraidd a Stiwardaidd, a gan mai testun fy ymchwil doethurol yw maenordy Elisabethaidd Castell Sain Ffagan, roeddwn i鈥檔 teimlo鈥檔 gyfforddus iawn yn ffilmio鈥檙 rhain. Yn ogystal 芒 dathlu tai hanesyddol Cymru yn gyffredinol, mae鈥檙 gyfres yn cyfleu鈥檙 r么l bwysig y mae plastai a thai cysylltiedig wedi鈥檌 chwarae yn hanes Cymru, ac yn hyn o beth mae鈥檔 bendant yn cyd-fynd 芒 diddordebau Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru. Mae Cartrefi Cymru a'r Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru hefyd yn rhannu'r nod cyffredin o bwysleisio arwyddoc芒d pensaern茂ol a chymdeithasol y tai yma. Dechreuwyd y gyfres yn Llancaiach Fawr, sy'n hollol nodweddiadol o dai bonedd yng nghyfnod y Tuduriaid. Fodd bynnag, rhwng ffilmio a darlledu鈥檙 bennod, mae Cyngor Bwrdeistref Caerffili wedi cyhoeddi eu bwriad i gau鈥檙 t欧 i鈥檙 cyhoedd, rhywbeth y mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn ei wrthwynebu鈥檔 gryf.
P'un oedd eich hoff d欧 i ffilmio ynddo?
Rydw i wedi mwynhau鈥檙 holl ddyddiau ffilmio am wahanol resymau, ond mae yna rai sy鈥檔 sefyll allan. Bu鈥檙 drydedd bennod yn archwilio tai Sioraidd yng Nghymru, a鈥檙 prif d欧 oedd Llanerchaeron y tu allan i Aberaeron, a ddyluniwyd gan y pensaer John Nash a gafodd ei adeiladu yn 1790. Mae hwn yn d欧 hynod ddiddorol sy鈥檔 edrych yn dwyllodrus o syml ar y tu allan, pan mewn gwirionedd mae llawer o siapiau cyffrous y tu mewn, fel petai Nash wedi dechrau gyda chiwb a cherfio'r ystafelloedd allan. Ond y prif d欧 yn yr wythfed bennod ar y 1960au a鈥檙 1970au oedd fy ffefryn llwyr, oherwydd mae鈥檔 d欧 gyda chymaint o liw a phersonoliaeth 鈥� fel y byddech yn ei ddisgwyl o鈥檙 cyfnod hwn 鈥� ac mae diddordebau鈥檙 perchnogion wedi鈥檜 gwreiddio yn y dyluniad; rwy'n edrych ymlaen yn arw at weld yr un hwnnw'n cael ei ddarlledu yn y flwyddyn newydd.
Beth wyt ti fwyaf balch ohono am y gyfres?
Un o鈥檙 pethau rwy鈥檔 credu sy鈥檔 gwneud i鈥檙 gyfres sefyll allan yw ein bod ni'n edrych ar esblygiad tai o gyfnod y Tuduriaid hyd heddiw dros ddeg pennod gronolegol. Nid dim ond cipluniau o adeiladau o gyfnodau penodol yw鈥檙 penodau hyn, ond gobeithio y byddant yn helpu gwylwyr i ddeall pam esblygodd adeiladau dros amser a pham y daeth rhai steiliau pensaern茂ol i mewn ac allan o ffasiwn dros y canrifoedd.
Beth fu'r prif heriau?
Yn gyffredinol, y brif her i mi fu siarad mor gryno 芒 phosibl. Roedd hyn yn go wahanol i ysgrifennu academaidd lle rwy鈥檔 gallu ymchwilio鈥檔 ddwfn i bob dadl ac ymhelaethu ar bob pwynt, er mae wedi bod yn hynod werthfawr datblygu鈥檙 ddwy set sgiliau. Yn fwy penodol, cyflwynodd y penodau olaf ar dai cyfoes dipyn o her, gan ei bod yn anodd crynhoi鈥檙 hyn sy鈥檔 nodweddiadol o dai yn y presennol cyn i amser basio. Fodd bynnag, mae'r prif d欧 cyfoes sy'n cael sylw yn y bennod yn wych ac mae fy ngradd israddedig mewn pensaern茂aeth wedi rhoi dealltwriaeth i mi o'r broses ddylunio y tu 么l i adeilad cyfoes.
Roeddech chi hefyd yn gyfrifol am y darluniau yn y teitlau agoriadol?
Oeddwn! Dwi hefyd yn darlunio adeiladau hanesyddol, felly braf oedd derbyn y gwahoddiad i gyfrannu at y teitlau agoriadol. Y briff oedd i 鈥榙dyfeisio鈥� adeilad i gynrychioli pob pennod, felly mae pob un yn gyfuniad o adeiladau gwahanol o鈥檙 cyfnod dan sylw. Ond dim ond y cam cyntaf oedd hwnnw, cyn i'r t卯m cynhyrchu cymryd y darluniau hyn a鈥檜 harddangos mewn lleoliad 'rustic' i greu鈥檙 teitlau agoriadol rhamantus, hyfryd iawn.
Hyd yn hyn rydym wedi gweld cyfnodau'r Tuduriaid, y Stiwartiaid a'r Sioriaid dan sylw, ond beth allwn ni ei ddisgwyl o'r bedwaredd bennod ddydd Mercher?
Yn y bedwaredd bennod byddwn yn edrych ar dai yn y cyfnod Fictoraidd. Y prif d欧 dan sylw fydd T欧 Treberfydd yn Llangasty ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Fel y byddech chi鈥檔 ei ddisgwyl mewn plasty Fictoraidd, mae鈥檔 eclectig ac yn llawn deunyddiau, patrymau a lliwiau gwahanol, felly mae鈥檔 gwneud cymhariaeth ddiddorol iawn gyda Llanerchaeron o'r bennod flaenorol, sy'n Glasurol ac yn fwy cynnil o ran addurniadau.
Bydd y gyfres yn cael ei darlledu mewn dau hanner - beth allwn ni ddisgwyl o ail hanner y gyfres?
Mae'r hanner cyntaf yn cynnwys sawl plasty, ond yn ail hanner y gyfres byddwn yn symudwn i mewn i'r ugeinfed ganrif, pan oedd llai o blastai yn cael eu codi; os unrhywbeth, roedd plastai yn cael eu dymchwel! O ganlyniad, mae鈥檙 gyfres yn esblygu i ganolbwyntio ar dai torfol a鈥檙 datblygiadau cymdeithasol y tu 么l i鈥檙 rhain, sy鈥檔 ychwanegu dimensiwn arall i鈥檙 sioe.
Mae Cartrefi Cymru yn cael ei ddarlledu ar S4C bob nos Fercher am 8.25y.h. Mae penodau ar gael i'w gwylio ar a . Bydd ail hanner y gyfres yn cael ei darlledu yn gynnar yn 2025.