Cyfnewid gwybodaeth rhwng ymchwilwyr iaith a therapyddion iaith a lleferydd
Mae Jazmine Beauchamp yn ymchwilydd PhD ail flwyddyn, yn ymchwilio i argaeledd a digonolrwydd adnoddau Cymraeg ar gyfer therapyddion iaith a lleferydd.
Roedd yr ail gynhadledd flynyddol Cyfnewid Sgiliau Iaith a Lleferydd Gogledd Cymru ar 9fed Hydref ym Mhrifysgol Wrecsam, mewn partneriaeth 芒 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol 精东传媒. Roeddwn i wedi derbyn gwahoddiad i gyflwyno fy ymchwil ar brofiadau therapyddion iaith a lleferydd yng Nghymru. Roedd yn gyfle gwych i gyflwyno mewn cynhadledd leol a chysylltu 芒 chymuned iaith a lleferydd Gogledd Cymru.
Thema鈥檙 gynhadledd oedd 鈥榙echrau mewn ymchwil ac arloesi鈥�, gyda siaradwyr o sefydliadau fel Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd (RCSLT), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a鈥檙 Gymuned ar gyfer Ymchwil Proffesiynau Perthynol i Iechyd (CAHPR) Cymru. Roedd y sgyrsiau yn gyfle cyffrous i ddod ag ymchwilwyr sy鈥檔 astudio datblygiad iaith a鈥檙 clinigwr sy鈥檔 rhoi鈥檙 ymchwil hwnnw ar waith ynghyd.
Roedd y prif siaradwr, yr academydd clinigol Emma Louise Sinnot, yn amlygu pwysigrwydd therapyddion iaith a lleferydd yn cynnal ymchwil, gan mai nhw yw鈥檙 cyntaf i weld bylchau yn yr ymchwil. Fodd bynnag, barn gyffredinol y clinigwyr oedd bod eu llwyth gwaith yn rhy drwm iddynt gynnal ymchwil hefyd. Fe wnaethon ni drafod pwysigrwydd cydweithio rhwng clinigwyr ac academyddion i sicrhau bod ymchwilwyr yn deall lle mae angen mwy o ymchwil.
Roedd fy nghyflwyniad yn rhan o sesiwn 鈥榮gyrsiau sydyn鈥� yn y prynhawn. Roeddwn i s么n am fy ymchwil, cyn gofyn i鈥檙 therapyddion iaith a lleferydd ymateb i fy holiadur. Roedd fy nghyflwyniad a holiadur yn ysbrydoli sgyrsiau am y diffyg adnoddau Cymraeg sydd ar gael i therapyddion iaith a lleferydd eu defnyddio gyda chleientiaid. Cawsom trafodaeth ddefnyddiol yngl欧n 芒 pha adnoddau Cymraeg sydd eu hangen ar glinigwyr i ddarparu cefnogaeth effeithiol i鈥檞 cleientiaid dwyieithog.
Ar y cyfan, roedd Cyfnewid Sgiliau Iaith a Lleferydd Gogledd Cymru yn llwyddiannus yn dod 芒 chymuned iaith a lleferydd Gogledd Cymru ynghyd i drafod ymchwil presennol, a syniadau ar gyfer y dyfodol.