Bydd yr Arholiad Mynediad yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol 精东传媒 gan ddefnyddio platfform Cynghrair Asesu Cyngor Ysgol Meddygaeth (MSCAA). Bydd ymgeiswyr yn ymgymryd 芒 Chyfweliadau Bach Lluosog (Multipl Mini Interviews) wyneb yn wyneb, ac yna鈥檙 arholiad. Hyd yr arholiad ydy 72 munud.
Bydd yr Arholiad Mynediad yn cael ei fapio yn erbyn canlyniadau dysgu Semester 1 Blwyddyn 1 a bydd yn cael ei osod yn safonol gyda darlithwyr y gyfadran, gan ychwanegu鈥檙 dull ystadegol mwyaf priodol i osod y marc llwyddo fel y penderfynir gan y Gr诺p Gosod Safonau a鈥檙 seicometregydd.
Ar gyfer pwy mae鈥檙 Arholiad Mynediad?
Bydd ymgeiswyr sy鈥檔 raddedigion rhaglenni gradd sy'n berthnasol i astudiaethau meddygol, gan gynnwys graddedigion Deintyddol, sy'n bodloni'r meini prawf derbyn penodedig ac sy'n cyrraedd y rhestr fer yn llwyddiannus yn cael eu gwahodd i sefyll yr Arholiad Mynediad a chyfweliad.
Noder nad yw'r Arholiad Mynediad yn berthnasol i ymgeiswyr sy'n dod o'n ffrydiau bwydo cydnabyddedig.
Meysydd y bydd yr arholiad Meddygaeth i Raddedigion Mynediad 2027 yn seiliedig arnynt:
- Amlinellu adeiledd/swyddogaeth y prif foleciwlau biolegol ac organynnau cellog. Y Gell Rhan 1 a Rhan 2. Disgrifio prosesau cellol y gell drwy amlinellu adeiledd a swyddogaeth ei horganynnau.
- Egluro鈥檙 prosesau cellol sy鈥檔 ymwneud ag anfon, derbyn a phrosesu negeseuon.
- Nodi鈥檙 celloedd a geir yn y pedwar math o feinwe yn y corff ac egluro beth yw eu swyddogaeth. Egwyddorion microanatomeg. Amlinellu egwyddorion sylfaenol histoleg; sut, pam a dehongliad.
- Disgrifio adeiledd a swyddogaeth cydrannau'r system gyhyrysgerbydol.
- Nodi a disgrifio gwahanol gydrannau'r system gyhyrysgerbydol.
- Disgrifio microadeiledd cyhyrau sgerbydol, cyhyrau cardiaidd a chyhyrau anrhesog a pherthnasu鈥檙 microadeiledd i fecanweithiau cyfangu pob un o鈥檙 mathau. Cyfangiad cyhyrol. Disgrifio鈥檙 mecanwaith cyfangu mewn cyhyrau sgerbydol ac amlinellu鈥檙 hyn sy鈥檔 debyg a'r hyn sy鈥檔 wahanol rhwng cyhyrau sgerbydol, cyhyrau cardiaidd a chyhyrau anrhesog.
- Cymharu resbiradaeth aerobig ac anaerobig, gan gynnwys newidiadau metabolaidd mewn ymateb i ymarfer corff. Rhyddhau egni o fwyd gydag ocsigen a heb ocsigen. Disgrifio cydrannau sylfaenol resbiradaeth aerobig ac anaerobig.
- Disgrifio trefniadaeth y brif system nerfol a鈥檙 system nerfol berifferol.
- Nodi a disgrifio gwahanol gydrannau'r system nerfol a'u swyddogaeth.
- Egluro鈥檙 ffactorau sy'n dylanwadu ar ddargludiad nerfau. Potensial gweithred ar hyd acson; Potensialau gorffwys a gweithred. Egluro鈥檙 ffactorau sy'n dylanwadu ar ddosbarthiad 茂onau ar draws y gellbilen a sut mae sianeli 茂onau a reolir gan foltedd yn rheoleiddio dargludiant y bilen.
- Disgrifio egwyddorion delweddu'r corff, gan enwi'r prif dechnegau. Egwyddorion delweddu. Disgrifio egwyddorion sylfaenol delweddu meddygol.
- Amlinellu鈥檙 camau yng nghylchred bywyd y gell.
- Disgrifio adeiledd a swyddogaeth system cylchrediad y gwaed / system resbiradol / y system dreulio. Microanatomi tiwbiau dynol. Disgrifio microanatomi gwahanol diwbiau鈥檙 corff dynol.
- Gwahaniaethu rhwng cydrannau cellog y gwaed yn seiliedig ar eu hadeiledd a'u swyddogaeth. Haemostasis. Disgrifio adeiledd pibellau gwaed a chyfansoddiad gwaed mewn perthynas 芒 haemostasis.
- Disgrifio adeiledd a swyddogaeth system cylchrediad y gwaed. Rhagarweiniad i'r Thoracs.
- Disgrifio adeiledd a swyddogaeth system cylchrediad y gwaed a'i threfniadaeth yn y thoracs, gan berthnasu hynny 芒鈥檙 anatomi arwynebol a delweddu radiolegol.
- Disgrifio鈥檙 gylchred gardiaidd a sut y caiff ei rheoli.
- Egluro pwysigrwydd rheolaeth sympathetig a pharasympathetig dros gyfradd curiad y galon.
- Disgrifio adeiledd a swyddogaeth y system resbiradol. Rhagarweiniad i'r Thoracs.
- Disgrifio adeiledd a swyddogaeth y system resbiradol.
- Egluro鈥檙 broses o gyfnewid nwyon yn yr ysgyfaint a'r meinweoedd perifferol ac effaith pH ar argaeledd ocsigen. Swyddogaeth yr ysgyfaint: cyfnewid nwyon (graddiannau, arwynebydd). Disgrifio trylediad ocsigen a charbon deuocsid ar draws y bilen gapilaraidd alfeolaidd (rhwystr nwy-gwaed) a thrafod y ffactorau sy'n dylanwadu ar symudiad nwyon rhwng yr amgylcheddau mewnol ac allanol.
- Egluro sut y ceir rheolaeth homeostatig dros gydbwysedd hylif a pH. Rhaniadau hylif a rheoleiddio pH.
- Disgrifio adeiledd a swyddogaeth y system gastroberfeddol a'i threfniadaeth yn yr abdomen, gan berthnasu hynny 芒鈥檙 anatomi arwynebol a delweddu radiolegol. Anatomi鈥檙 Abdomen.
- Nodi swyddogaeth amrywiaeth o fitaminau a mwynau. Fitaminau a mwynau. Disgrifio swyddogaeth fitaminau a mwynau.
- Egluro sut y caiff archwaeth ei reoleiddio. Rheoleiddio treuliad (mecanweithiau adborth) ac archwaeth. Egluro鈥檙 mecanweithiau adborth sy'n rheoleiddio treuliad ac archwaeth.
- Cymharu resbiradaeth aerobig ac anaerobig, gan gynnwys newidiadau metabolaidd mewn ymateb i ymarfer corff (parhad). Y defnydd o ynni wrth wneud ymarfer corff. Mesur yr ymateb i gynnydd yn y galw am ynni wrth ymarfer corff.
- Disgrifio cydrannau deiet cytbwys gan gynnwys y microfaetholion a'r macrofaetholion allweddol. Maeth. Disgrifio deiet cytbwys.
- Disgrifio sut y caiff metaboledd egni ei reoleiddio, gan gymhwyso hyn i'r ymateb i ymprydio. Rhoi cronfeydd ynni ar waith. Disgrifio sut y caiff carbohydradau, proteinau a lipidau eu rhoi ar waith wrth ymprydio.
- Egluro sut y ceir rheolaeth homeostatig dros gydbwysedd hylif a pH. Yr aren - hidlo, amsugno a secretu. Trafod ffurfiant wrin, gan gynnwys y grymoedd sy'n rheoli hidlo, a'r mecanweithiau sy'n rheoli amsugniad a/neu secretiad 茂onau, osmolytau a d诺r.
- Disgrifio trefniadaeth y pelfis ac ymysgaroedd y pelfis.
- Disgrifio a chymharu adeiledd a swyddogaeth sylfaenol systemau cenhedlol-droethol gwrywaidd a benywaidd. Cyflwyniad i'r Pelfis a'r System Cenhedlol-droethol.
- Nodi a disgrifio adeiledd a chydberthynas y bledren a'r wrethra yn y gwryw a'r fenyw. Hormonau atgenhedlu. Disgrifio swyddogaeth hormonau sy'n gysylltiedig ag atgenhedlu.
- Disgrifio adeiledd a swyddogaeth y llwybr wrinol. Anatomi鈥檙 Abdomen a Rhagarweiniad i'r Pelfis a'r Systemau Cenhedlol-droethol.
- Disgrifio adeiledd a swyddogaeth y fraich, gan berthnasu hynny 芒鈥檙 anatomi arwynebol a delweddu radiolegol. Y fraich.
- Disgrifio adeiledd a swyddogaeth y fraich, gan berthnasu hynny 芒鈥檙 anatomi arwynebol a delweddu radiolegol.
- Egluro gweithrediad ac ataliad ensymau. Ensymau a Chineteg Cyffuriau. Disgrifio gweithrediad ac ataliad ensymau.
- Disgrifio mecanweithiau cyffredinol gweithrediad cyffuriau, sy'n ymwneud ag egwyddorion ffarmacodynameg a ffarmacocineteg. Rhagarweiniad i ffarmacoleg. Mecanweithiau gweithrediad cyffuriau.
- Egluro鈥檙 berthynas rhwng y lletywr / micro-organeb. Egwyddorion Imiwnedd 1 鈥� pam fod arnom ei angen! Egluro egwyddorion y berthynas rhwng lletywr a micro-organeb.
- Cymharu鈥檙 ymateb imiwnedd cynhenid ac ymaddasol. Egwyddorion imiwnedd 2 - sut mae'n gweithio. Amlinellu nodweddion yr ymatebion imiwnedd cynhenid ac ymaddasol.
- Disgrifio trefniadaeth y brif system nerfol a鈥檙 system nerfol berifferol. Adeiledd a Swyddogaeth yr Ymennydd. Disgrifio adeiledd a swyddogaeth sylfaenol yr ymennydd.
- Cymharu鈥檙 system nerfol somatig a'r system nerfol awtonomig. Y system nerfol awtonomig: trawsyriad synaptig. Disgrifio adeiledd a swyddogaeth y synaps a chrynhoi dilyniant cyffredinol y digwyddiadau mewn trawsyriad synaptig.
- Cyferbynnu system nerfol sympathetig a system nerfol barasympathetig. System nerfol awtonomig: niwrodrosglwyddyddion a derbynyddion. Disgrifio trefniadaeth y system nerfol sympathetig a鈥檙 system nerfol barasympathetig; cymharu a chyferbynnu ymatebion awtonomig.
- Amlinellu鈥檙 llwybrau nerfol sy'n rheoli symudiad gwirfoddol. Y system nerfol: symudiadau. Amlinellu鈥檙 llwybrau nerfol sy'n caniat谩u rheolaeth wirfoddol dros symudiad.
- Amlinellu鈥檙 llwybrau nerfol sy'n rheoli synhwyriad cyffredinol. Y System Nerfol - Rheolaeth dros Symudiadau a Rheolaeth Synhwyraidd. Disgrifio鈥檙 llwybrau sy'n rheoli symudiad gwirfoddol a synhwyriad cyffredinol.
- Amlinellu鈥檙 llwybrau nerfol sy'n rheoli synhwyriad arbennig.
- Disgrifio effeithiau ffarmacolegol ar y llygad dynol.
- Egluro鈥檙 prosesau cellol sy鈥檔 ymwneud ag anfon, derbyn a phrosesu negeseuon.
- Trafod perthnasedd ffactorau ymddygiadol mewn ymarfer meddygol. Ffisioleg a Seicoleg Straen. Datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd ffactorau ymddygiadol mewn meddygaeth.