Myfyrwraig Prifysgol ¾«¶«´«Ã½ yn ennil gwobr Prif Lenor Eisteddfod T
Mared Fflur JonesMared Fflur Jones o Ddolgellau yw enillydd Prif Lenor Eisteddfod T, gyda darn o waith “llawn cariad a gwewyr� yn ôl y beirniad, Manon Steffan Ros.
Yn ferch fferm Fronalchen ar gyrion Dolgellau mynychodd Ysgol Ieuan Gwynedd, Rhydymain ac Ysgol y Gader, Dolgellau cyn symud ymlaen i’r chweched dosbarth yn Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth. Mae Mared ar fin cwblhau ei hail flwyddyn yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol ¾«¶«´«Ã½.
Mae’n hen law ar ennill eisteddfodol – wedi ennill cadair Eisteddfod Ysgol y Gader ac wedi dod yn ail a thrydydd am gadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Meirionnydd. Mae’n chwarae rygbi, yn canu a pherfformio ac yn treulio’r cyfnod hwn yn helpu ar y fferm, yn darllen ac ymgymryd ag ambell brosiect ‘DIY’.
Datgelwyd mai Mared oedd yr enillydd mewn seremoni arbennig a ddarlledwyd yn fyw ar S4C a BBC Radio Cymru, gyda’r beirniad, Manon Steffan Ros, a'r tri chystadleuydd terfynol yn ymuno ar sgriniau o’u cartrefi.  Daeth Osian Owen o'r Felinheli a raddiodd gyda gradd BA Cymraeg dosbarth-cyntaf o Fangor yn drydydd yn y gystadeuaeth.
Wrth gyhoeddi mai Mared oedd Prif Lenor Eisteddfod T, ac yn derbyn tlws wedi ei greu yn arbennig gan y cerflunydd Ann Catrin, roedd Manon Steffan Ros yn uchel ei chanmoliaeth: “Mae’r awdur yn gyffrous ac yn grefftus, gan ddefnyddio arddull lafar, naturiol a chynildeb clyfar i ddal sylw’r darllenydd. Mae’n plethu stori syml ond dirdynnol, ac yn creu darlun yn y meddwl sy’n gwbl real, yn gwbl glir, yn gwbl deimladwy ac yn llawn cariad a gwewyr.�
Mae’r Eisteddfod T arloesol, lle mai ar-lein mae’r holl gystadlu, ar y pedwerydd diwrnod o ddarlledu llwyddiannus. Bu’r ymateb gan y cyhoedd yn wych, gyda llawer yn datgan eu gwerthfawrogiad o fenter yr Urdd ar y cyfryngau cymdeithasol.