COP26: Green Shoots or Storm Clouds? 鈥� recordiad o'r ddarlith gyhoeddus ar gael
Mae partneriaeth gyfoethog wedi datblygu ers canol y 1980au rhwng Prifysgol 精东传媒 a Changen Menai, Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig. Mae鈥檙 ddau gorff yn rhannu nifer o egwyddorion sylfaenol sy鈥檔 cael eu tanlinellu mewn darlithoedd cyhoeddus blynyddol a noddir ar y cyd gan y ddau. Dros y blynyddoedd cafwyd gwledd o ddarlithoedd ar faterion o bwys gan arbenigwyr o bell ac agos.
Y llynedd traddodwyd y ddarlith dros Zoom gan yr Athro Julia Jones o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Naturiol wrth iddi edrych ymlaen at gynhadledd COP26 yn Glasgow. Eleni tasg yr Athro Emeritws Gareth Wyn Jones oedd pwyso a mesur effaith y gynhadledd honno ar yr argyfwng newid hinsawdd. Cyflwyniad Gareth oedd darlith gyhoeddus gyntaf 精东传媒 ar ffurf hybrid. Denwyd cynulleidfa fyw yn Narlithfa Eric Sunderland gan, ar yr un pryd, gyrraedd cynulleidfa niferus dros Zoom.