Cipiodd ffilmiau a gynhyrchwyd ym Mhrifysgol 精东传媒 record o saith tlws yng ngwobrau RTS Cymru a gynhaliwyd yn y Coleg Cerdd a Drama Brenhinol yng Nghaerdydd.
Y ffilmwyr llwyddiannus oedd Shafin Basheer a Kumara Gadda, y ddau yn hanu o India, Matt Evans o鈥檙 Fali, a Dion Jones o Gaernarfon.
Yn ogystal 芒 chipio gwobrau am y Ddrama 脭l-radd Orau (Between the Headphones gan Matt Evans) a鈥檙 Cynhyrchiad 脭l-radd Ffeithiol Gorau (Love of my Landscapes gan Shafin Basheer), enillwyd gwobrau Crefft Myfyrwyr ar ran y pedair ffilm o Fangor a lwyddodd i gyrraedd y rhestr o enwebiadau. Enillodd Dion Jones y wobr ysgrifennu ar gyfer Y Lein: Friction Dynamics, a chipiodd ffilm Kumara Gadda, Chitti: The Missing Girl, y gwobrau am waith camera a sain. Matt Evans oedd enillydd y wobr am ddylunio cynhyrchiad, ar gyfer Between the Headphones unwaith eto, ac enillodd Shafin Basheer y wobr am olygu gyda Love of my Landscapes.
Dyma鈥檙 nifer fwyaf o wobrau a enillwyd gan un brifysgol yn hanes y gwobrau hyn, a gynhelir i ddathlu holl weithgareddau鈥檙 diwydiant teledu yng Nghymru ac sydd 芒 chategor茂au arbennig ar gyfer cynyrchiadau gan fyfyrwyr.
Meddai Dr Geraint Ellis o鈥檙 Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau, 鈥�'Roedd hon yn noson arbennig, ac mae pawb mor falch o'r cyn-fyfyrwyr am beth maen nhw wedi ei gyflawni. Roedd y ffilmiau'n amrywio'n fawr o ran yr arddull a'r testunau ond roedd safon pob un o'r cynyrchiadau yn uchel iawn. Dwi'n sicr bydd y llwyddiant hwn yn rhoi hwb mawr i'r gwneuthurwyr ffilm talentog yma wrth i'w gyrfaoedd ddatblygu ac mi fydd o'n gyffrous gweld beth arall y gallan nhw gyflawni.鈥�
Dywedodd un o鈥檙 enillwyr, Dion Jones, 鈥淒wi wedi bod eisiau adrodd hanes streic Friction Dynamics ers dechrau鈥檙 cwrs ym Mangor. Y gobaith yw y bydd ennill y wobr yma gan RTS Cymru yn dangos y potensial sydd 鈥榥a i wneud hon yn ffilm hirach ar gyfer teledu neu i鈥檞 rhyddhau鈥檔 annibynnol. Mae wir yn rhan o鈥檔 hanes ni na ddylai fynd yn angof.鈥�
Ychwanegodd Shafin Basheer, gipiodd ddwy wobr am ei ffilm Love of my Landscapes 鈥淔el gwneuthurwyr ffilm ifanc, mae ennill y wobr yma鈥檔 gam mawr yn fy ngyrfa ac yn fy annog i wneud mwy o鈥檙 hyn rwy鈥檔 ei garu 鈥� sef gwneud ffilmiau am natur a phobl.鈥�
Bydd y ffilmiau yma鈥檔 mynd ymlaen i gael eu henwebu ar gyfer Gwobrau Teledu Myfyrwyr yr RTS a gynhelir yn Llundain ar ddiwedd Mehefin.