Beth ywār ffordd orau iān hannog i ddefnyddioār Gymraeg wrth ddechrau sgwrs mewn siop neu swyddfa?
Sut allwn annog pobl i ddefnyddioār Gymraeg o ddydd i ddydd? Rhaid i bobl syān siarad Cymraeg a Saesneg ddewis pa iaith iāw siarad mewn amryw o sefyllfaoedd, a gall nifer o bethau effeithio ar y penderfyniad hwn. Er enghraifft, fe all siaradwyr Cymraeg ddatblygu tuedd i ddechrau sgyrsiau yn Saesneg am eu bod yn teimlo'n ddihyder wrth ddefnyddio'r iaith, neu am eu bod yn ofni nad yw eraill yn eu deall. Drwy ddatblygu dealltwriaeth o sut y gallwn ysgogi pobl i ddefnyddioār Gymraeg, gallwn gefnogi nod Llywodraeth Cymru i ddybluār defnydd dyddiol oār Gymraeg erbyn 2050.
Cynhaliodd darlithydd ym Mhrifysgol ¾«¶«“«Ć½ ymchwil i ddarganfod pa giwiau sydd fwyaf effeithiol o ran ysgogi pobl i ddechrau sgyrsiau yn Gymraeg mewn siopau, swyddfeydd, a mannau cyhoeddus eraill.
āGall ciwiau gweledol annog pobl ddwyieithog i ddewis un iaith dros iaith arall, ac roeddem am ddarganfod os ydiār logo āIaith Gwaithā yn ffordd effeithiol o annog pobl i ddefnyddioār Gymraeg,ā esboniodd Dr Awel Vaughan-Evans, syān ddarlithydd mewn Seicoleg.
Mae siaradwyr Cymraeg yn gyfarwydd Ć¢ār logo Iaith Gwaith, syān nodi eich bod yn gallu siarad Cymraeg wrth siarad Ć¢ rhywun mewn siop neu wasanaeth. Cyflwynwyd y logo (swigen oren syān nodi fod unigolyn yn siarad Cymraeg) gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn 2005, gydag oddeutu 50,000 o fathodynnau, cortynnau gwddf, a phosteri yn cael eu dosbarthuān flynyddol. Bellach Comisiynydd y Gymraeg sydd yn gyfrifol am y Cynllun hwn, ac am ddosbarthu nwyddau Iaith Gwaith.
Esboniodd Awel ymhellach: āRoeddem eisiau profi pa adnodd oedd fwyaf effeithiol fel ciw i annog pobl i ddechrau sgwrs yn Gymraeg. Cymerodd bedwar deg wyth o bobl ran yn yr astudiaeth, ac roedd y mwyafrif ohonynt yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf.
Y prif ganlyniad oedd bod pobl yn fwy tebygol o ddewis Cymraeg fel iaith iāw siarad pan oedd y logo Iaith Gwaith yn bresennol na phan nad oedd y logo yn bresennol. Roedd y logo yn effeithiol ar ffurf poster a chortyn gwddf, ond roedd y cortyn gwddf yn fwy effeithiol naār poster ar ben ei hun.ā
Yn ogystal Ć¢ darganfod y ffordd orau o annog siaradwyr Cymraeg i ddewis a defnyddioār Gymraeg yn gyntaf, maeār ymchwil hwn wedi ychwanegu at ddealltwriaeth seicolegwyr oār mathau o giwiau a all effeithio ar ddefnydd iaith unigolion dwyieithog.
Ychwanegodd Awel, āRoedd hiān ddiddorol darganfod fod y ciwiau gweledol hyn yn gallu dylanwadu ar ddewis iaith unigolion, ond rhaid ystyried y cyd-destun. Cafodd yr ymchwil ei gynnal yma ym Mhrifysgol ¾«¶«“«Ć½, prifysgol ddwyieithog yng Ngwynedd, lle mae 76% oār boblogaeth yn siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl. Byddaiān ddiddorol ailadrodd yr astudiaeth mewn ardal gyda chyfradd dipyn is o siaradwyr Cymraeg.ā
Meddai Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, āMae bathodyn Iaith Gwaith, wnaeth ddathlu ei ben blwydd yn 15 oed yn ddiweddar, wedi ennill ei blwyf yng Nghymru bellach. Maeān gynllun pwysig, syān galluogi gweithwyr syān medru cynnig gwasanaeth Cymraeg iār cyhoedd ddangos hynnyān glir drwy wisgo cortynnau gwddf neu fathodyn. Rydym wedi gweld nifer o ddysgwyr y Gymraeg hefyd yn defnyddioār bathodyn er mwyn mynd ati i ymarfer a siarad yr iaith.
āMaeān dda cael deall mwy, oār ymchwil annibynnol hwn, am y ffordd y maeār bathodyn oren yn medru annog pobl i ddefnyddioār iaith mewn amryw o sefyllfaoedd. Rwyān falch o weld hefyd, bod pobl yn fwy tebygol o ddewis Cymraeg fel iaith iāw siarad pan fod y bathodyn yn bresennol. Mewn ysbytai, siopau, archfarchnadoedd, busnesau a mudiadau o bob math, mae angen i bobl deimloān gyfforddus ac yn hyderus wrth ddefnyddioār iaith, er mwyn i ni fedru cynydduār nifer o bobl syān medru siarad, ac yn awyddus i ddefnyddioār iaith yn eu bywyd bob dydd.ā