Cymrodoriaeth Addysgu i鈥檔 Dr Joshua Andrews
Mewn seremoni raddio yr haf hwn, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Addysgu gan Brifysgol 精东传媒 i Dr Joshua Andrews, Darlithydd Moeseg a Chrefydd, i gydnabod ei waith hynod ysbrydoledig fel addysgwr.
Llongyfarchiadau enfawr i Dr Joshua Andrews, darlithydd mewn Moeseg a Chrefydd yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, ar dderbyn Cymrodoriaeth Addysgu Prifysgol 精东传媒 mewn seremoni raddio鈥檙 haf.
Rhoddir y Gymrydoriaeth i gydnabod a dathlu gwaith clodwiw academydd sy鈥檔 ysbrydoli, yn ysgogi ac yn annog eu myfyrwyr i wneud y gorau o鈥檜 gallu鈥檔 wastadol. Mae Dr Joshua Andrews yn un o ffigyrau mwyaf deinamig ac ymgysylltiol ein Hysgol sy鈥檔 ymwneud yn effeithiol ag addysg a gofal bugeiliol ein myfyrwyr. Yn wir, mae ei waith fel Cyfarwyddwr Ymgysylltu Myfyrwyr yn eithriadol iawn ac mae鈥檙 gymuned addysgol a chymdeithasol ymysg ein myfyrwyr yn gyfoethocach o lawer o鈥檌 herwydd.
Dyma鈥檙 hyn ddywedodd yr Athro Peter Shapely, Pennaeth yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, yn ei araith am Dr Joshua Andrews yn y seremoni raddio: 鈥楳ae Joshua Andrews yn gaffaeliad gwych i鈥檙 Ysgol. Mae鈥檔 wastad yn mynd tu hwnt i ddulliau addysgu traddodiadol. Drwy ddulliau rhyngweithiol, megis trafodaethau panel ac aseiniadau melin drafod, mae wedi annog myfyrwyr i gymryd rhan weithredol yn eu haddysg eu hunain. Drwy ymgorffori鈥檙 mathau hyn o asesu arloesol, mae鈥檔 herio myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a rhoi eu gwybodaeth ar waith mewn cyd-destunau ymarferol.
鈥楳ae Joshua wedi meithrin amgylchedd cynhwysol a chydweithredol lle mae myfyrwyr yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i fynegi eu syniadau. Mae ei ymroddiad i feithrin awyrgylch ystafell ddosbarth deinamig i'w ganmol. Trwy ei ddulliau addysgu eithriadol, mae nid yn unig wedi cyflwyno gwybodaeth ond hefyd wedi ysbrydoli angerdd gwirioneddol dros ddysgu.'
Meddai Dr Joshua Andrews: 鈥楻ydw i鈥檔 hynod ddiolchgar ac yn teimlo鈥檔 freintiedig i fod wedi derbyn Cymrodoriaeth Addysgu AU Prifysgol 精东传媒. Mae'r gydnabyddiaeth hon o f鈥檡mroddiad i addysgu ac ymrwymiad i gyfoethogi'r profiad dysgu yn arwyddocaol iawn. Rydw i鈥檔 gyffrous i barhau i feithrin amgylchedd dysgu cynhwysol a chefnogol, gan rymuso myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial.鈥�
Yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol 精东传媒, wedi cwblhau ei raddau BA mewn Astudiaethau Crefyddol, MA mewn Crefydd ac Athroniaeth, a PhD gyda鈥檙 Ysgol Athroniaeth a Chrefydd, mae Dr Joshua Andrews bellach yn un o hoelion wyth y cwrs gradd Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd. Mae hefyd yn cyd-diwtora ar y cwrs TAR Addysg Grefyddol Uwchradd gyda鈥檙 Ysgol Addysg, ac yn gweithio鈥檔 agos ag amryw fudiadau addysgiadol ac estyn allan yn y brifysgol a鈥檙 tu hwnt. Ym mis Medi 2022, fe鈥檌 penodwyd yn Gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru sydd wedi鈥檌 lleoli ym Mangor ac yng Ngwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2023, fe enillodd Wobr Llais y Myfyriwr.
Llongyfarchiadau enfawr, Dr Joshua Andrews!