S锚r yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas!
Nos Iau, yr 2il o Fai 2024, cynhaliwyd noson Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr yn Neuadd PJ y brifysgol, ac roedd 7 o aelodau鈥檙 Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas wedi cyrraedd rhestr fer sawl categori. Erbyn diwedd y noson, enillodd yr Ysgol 4 gwobr!
Yn rhan gyntaf y noson, cafwyd y cyfle i ddathlu cyfraniadau cynrychiolwyr cwrs y gwahanol ysgolion, a鈥檜 holl waith caled a diwyd, a gwych oedd gweld cynifer o fyfyrwyr yr Ysgol ymhlith y rhain.
Yn ail hanner y noson, daeth y gwobrau yn eu heidiau i鈥檙 Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas!
Enillodd Daniel Awuku-Asare, sy鈥檔 fyfyriwr y Gyfraith, Wobr Effaith Rhwydwaith am ei waith deinamig o fewn ac oddi allan I鈥檙 brifysgol.
Daeth Rachel Healand-Sloan, sy鈥檔 ymchwilydd PhD mewn Athroniaeth a Chrefydd, yn fuddugol ar gyfer Gwobr Dewis Staff ar gyfer Cynrychiolydd Cwrs, a hynny am ei gwaith caled yn ymgysylltu myfyrwyr a staff. Meddai Rachel, 鈥楻ydw i鈥檔 cyfri hyn yn anrhydedd enfawr a dwi鈥檔 ddiolchgar iawn i Josh [Andrews] am fy enwebu.鈥�
Ac yn wir, daeth llwyddiant pellach i adran Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, wrth i Dr Joshua Andrews gipio nid yn unig Wobr Llais Myfyrwyr am ei waith egniol yn sicrhau chwarae teg i fyfyrwyr yr Ysgol gyfan, ond hefyd Wobr Athro鈥檙 Flwyddyn. Mae dulliau dysgu Joshua ymysg y gorau ac mae鈥檔 cyson ofalu am brofiadau addysgiadol effeithiol a deinamig. Dengys hyn gymaint o feddwl a gofal sydd gan ein staff o les a phrofiadau ein myfyrwyr, ac yn arbennig, gyfraniad enfawr Joshua yn hyn o beth.
Wrth ymateb i鈥檙 gwobrau ar ddiwedd y noson, roedd Joshua yn gegrwth, ond yn hynod ddiolchgar, a dywedodd, 鈥楩edra i wir ddim credu hyn. Mae鈥檔 gymaint o anrhydedd, ac yn gydnabyddiaeth eithriadol gan y bobl rydw i鈥檔 poeni fwyaf amdanyn nhw yn y brifysgol. Dwi鈥檔 lwcus o fod yn gweithio gyda chymaint o fyfyrwyr arbennig.鈥�
Heb os, roedd hi鈥檔 noson a hanner, a llwyddiant enfawr i鈥檔 Hysgol. Llongyfarchiadau!