Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a Hanes Menywod
Gan edrych ymlaen at Gynhadledd flynyddol Archif Menywod Cymru, a gynhelir ar 5ed a 6ed Hydref 2024 ym Mhrifysgol 精东传媒, eisteddodd Bethan Scorey, ein Swyddog Ymchwil ac Ymgysylltu, i lawr gyda鈥檌 chyd-ymchwilwyr doethurol Sara Fox a Lizzy Walker i drafod menywod ac ystadau Cymru, sef un o them芒u trawsbynciol yn ymchwil y Sefydliad a鈥檙 llinyn cyffredin rhwng eu prosiectau doethurol.
Chwaraeodd menywod ran hollbwysig ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol ystadau Cymru; o foneddigesion i ddeiliaid tir i weision domestig, roedd menywod yn ganolog i weithrediad ystadau a phlastai. Roedd menywod hefyd yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad ystadau, er enghraifft yn ystod gweddwdod roedd llawer o foneddigesion yn rheoli stadau ac yn ceisio eu gwneud mor broffidiol 芒 phosibl cyn eu trosglwyddo i鈥檙 etifedd gwrywaidd - efallai mai dyma pam nad yw llawer o foneddigion yn cael eu cydnabod am eu cyfraniad. Soniodd Sara am achos Cecil de Cardonnel (1735-1793) a鈥檌 gwr George Rice (1724-1779): ef sy鈥檔 derbyn yr holl glod am wneud gwelliannau amaethyddol sylweddol a chynyddu proffidioldeb y tir Yst芒d Dinefwr yn Sir Gaerfyrddin, ond dengys deunydd archifol fod Cecil wedi rheoli鈥檙 yst芒d yn llwyddiannus ar 么l marwolaeth ei g诺r, ac mae ei thanysgrifiad blynyddol i鈥檙 Gymdeithas Amaethyddol yn dystiolaeth o鈥檌 diddordeb personol hithau mewn gwelliannau amaethyddol. Yn ogystal, tynnodd Sara sylw at y ffaith bod cyfraniadau elusennol boneddigesau yn aml yn mynd yn ddisylw, er gwaethaf y ffaith bod eu cymwynasgarwch wedi chwarae rhan arwyddocaol wrth adeiladu perthynas rhwng y plasty a鈥檙 gymuned leol.
I ddod 芒鈥檙 straeon hyn i鈥檙 amlwg, mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn annog ysgolheictod newydd ar fywydau a phrofiadau menywod yn hanes Cymru. Ym mis Tachwedd 2018 buom mewn partneriaeth ag a Chymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin i gynnal cynhadledd undydd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar y thema 鈥楶aradeimiau Patriarchaidd? Rolau a phrofiadau menywod ar ystadau Cymru鈥�. Roedd y gynhadledd yn cynnwys sesiynau ar y them芒u 鈥楻hywedd, Llenyddiaeth a Hunaniaeth鈥�, 鈥楪erddi, Tirweddau a Chasgliadau鈥�, 鈥楤oneddigesion yng Nghymru Fodern Gynnar鈥�, ac 鈥楢il-ddehongli Plastai a鈥檜 Casgliadau鈥�, ac ysbrydolodd sawl prosiect ymchwil newydd. Un canlyniad oedd Prosiect Llythyrau Augusta Mostyn, sef prosiect i gatalogio ac ymchwilio ddwy gist yn llawn gohebiaeth, cyfrifon a phapurau yn ymwneud ag Augusta Mostyn (1830-1912) a drosglwyddwyd i Archifau Prifysgol 精东传媒 gan yr Arglwydd Mostyn. Roedd Augusta Mostyn yn un o鈥檙 menywod mwyaf dylanwadol yn hanes gogledd Cymru a gwnaeth gyfraniad aruthrol i ddatblygiad Llandudno, serch hynny nid yw cofiant academaidd wedi鈥檌 gyhoeddi eto. Gwirfoddolodd Dr Dinah Evans, cyn Ddarlithydd Hanes ym Mhrifysgol 精东传媒, gyda鈥檙 Archifau a Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru i gatalogio ac ymchwilio i鈥檙 casgliad, gan rannu rhai o鈥檙 mewnwelediadau a ddarparwyd gan y papurau mewn digwyddiad cyhoeddus ym mis Rhagfyr 2023.
Mae hanes menywod hefyd yn thema gyffredin ar draws sawl prosiect ymchwil doethurol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru. Yn ystod ei gradd israddedig mewn Hanes Cymru gydag Archaeoleg a鈥檌 gradd meistr mewn Hanes Cymru ym Mhrifysgol 精东传媒 sylweddolodd Lizzy Walker nad oedd llawer wedi鈥檌 ysgrifennu ar hanes menywod yng Nghymru. Bellach mae鈥檔 cyfrannu i鈥檙 maes gyda鈥檌 phrosiect doethurol o鈥檙 enw 鈥楾he landownering and landholding women of north-east Wales from ca.1600 to 1800鈥�, sy鈥檔 herio鈥檙 safbwynt ystrydebol nad oedd merched yn berchen ar dir nac yn dal tir yng Nghymru yn hanesyddol. Yn 么l Lizzy, mae鈥檙 ffaith roedd menywod yn berchen tir a gwneud gwaith amaethyddol wedi鈥檌 ysgrifennu allan o hanes oherwydd roedd hi mor gyffredin. Ond fel merch i ffermwr a fagwyd mewn cymuned ffermio fechan ger Llangollen, roedd hi鈥檔 cymryd y ffaith bod merched yn gweithio mewn amaethyddiaeth yn ganiataol, a bellach mae wedi synnu nad yw hyn yn wybodaeth gyffredin 鈥� er enghraifft, ychydig iawn o fenywod o Gymru a ymunodd 芒 Byddin Tir y Merched yn ystod yr Ail Ryfel Byd oherwydd eu bod eisoes yn gweithio鈥檙 tir.
Mae ei phrosiect defnyddio deunyddiau archifol megis papurau yst芒d, dogfennau profiant, a chofnodion y Sesiwn Fawr a鈥檙 Sesiwn Chwarter i bwysleisio faint o fenywod oedd yn berchen tir, rheoli tir, a gweithio鈥檙 tir ar draws gogledd-ddwyrain Cymru yn y cyfnod dan sylw, sef 1600-1800. 鈥楻oedd menywod yn bresennol o hyd鈥� meddai, gan drafod un o鈥檌 hastudiaethau achos lle鈥檙 oedd tair cenhedlaeth olynol o fenywod yn berchen ar dyddyn ac yn gweithio ynddo. Yn ddiddorol, mae hyn yn awgrymu bod merched wedi etifeddu tir ac wedi cael eu hyfforddi i'w reoli hyd yn oed pan oedd etifeddion gwrywaidd, sy'n gwneud cyferbyniad diddorol 芒'r dosbarth bonedd a oedd yn meddwl am eu meibion yn unig; trafodwn sut yr ymddengys mai dyma effaith barhaol Cyfraith Cymru ac etifeddiaeth ranadwy (cyfran). Trafodwn hefyd realiti a llafur beunyddiol y merched hyn, a sonia Lizzy am un o鈥檌 menywod a oedd yn rheoli deuddeg erw yn wyth deg chwech oed ar ddechrau鈥檙 ail ganrif ar bymtheg. Yn ddiweddar cyflwynodd Lizzy bapur ar fenywod yst芒d Croes Howell yn Sir Ddinbych yn y ddeunawfed ganrif yng Nghynhadledd 脭l-raddedigion Hanes Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
Prosiect doethuriaeth Sara Fox, 鈥橝loof Among its Beeches鈥�: Welsh Writing in English - representations of the Gentry House from the Late Eighteenth century onwards', yw鈥檙 astudiaeth gyntaf o gynrychioliadau ffuglennol o blastai yng Nghymru. Disgrifia Sara sut mae ei phrosiect wedi esblygu i edrych ar awduron benywaidd yn unig, ac mae鈥檔 canmol y gwaith y mae鈥檙 wasg gydweithredol annibynnol Honno wedi鈥檌 wneud i gyhoeddi llyfrau gan awduron benywaidd Cymreig sydd wedi鈥檜 anghofio. Yn ogystal 芒鈥檜 darluniau llenyddol o blasdai, mae Sara yn edrych ar fywydau鈥檙 awduron, a oedd yn aml yn fwy dramatig na bywydau eu cymeriadau! Yn ddiweddar mae hi wedi bod yn ymchwilio i鈥檙 Saesnes Ann Hatton (1764-1838), a gafodd ei diarddel gan ei theulu a鈥檌 thalu i gadw draw o Lundain. Ymgartrefodd hi a鈥檌 hail 诺r yn Abertawe gan agor ty ymdrochi, ond wedi i鈥檙 busnes hwnnw fethu a鈥檌 g诺r farw, dechreuodd Ann ysgrifennu nofelau. Cyhoeddodd ddwy ar bymtheg o nofelau i gyd, oll o dan y鈥檙 enw 鈥楢nn of Swansea鈥�; Mae gan Sara ddiddordeb mawr ym mherthynas Ann gydag Abertawe, ac yn awgrymu ei bod wedi鈥檌 denu at 鈥榬adicalrwydd yr awyr鈥�. Mae ei nofelau鈥檔 llawn gwrthdroadau, lle mae menywod yn herwgipio dynion yn hytrach na鈥檙 ffordd arall rownd, a menywod yn gwisgo fel dynion ac yn ymladd gornestau gyda鈥檙 dynion y maent yn cael eu gorfodi i briodi.
Mae yna debygrwydd diddorol hefyd rhwng prosiectau Sara a Lizzy, sef menywod mewn rolau rheoli. Mae Sara鈥檔 adrodd hanes Amy Dillwyn (1845-1935), a fu鈥檔 rheoli fferm ei thad yn Hendrefoelan o鈥檌 gwely am ddegawd. Ar farwolaeth ei thad etifeddodd ei waith sbleter yn Llansamlet a oedd mewn dyled ddifrifol, ond llwyddodd i鈥檞 hachub gan arbed tri chant o swyddi yn y broses. Disgrifia Sara sut y cymerodd Amy 鈥榶 syniad gwrywaidd hwn o anrhydedd y teulu鈥� ymlaen, gan fabwysiadu persona gwrywaidd, gwisgo mewn dillad gwrywaidd, ac ysmygu sigarau. Mae ei chwe nofel yn archwilio鈥檙 thema o ba mor gaeth a rheoledig oedd merched mewn cymdeithas batriarchaidd.
Gwnaeth traethawd hir Dr Sadie Jarrett, , gyfraniad sylweddol i鈥檙 astudiaeth o fenywod yng Nghymru fodern gynnar. Mae ei phennod 鈥樷�樷�楤y reason of her sex and widowhood鈥欌��: An early modern Welsh gentlewoman in the Court of Star Chamber鈥� yn archwilio achos y Fonesig Margaret Lloyd (1565-1650) o deulu Salesbury. Cyhuddodd brawd iau Margaret, pennaeth teulu Salesbury, hi o gipio ei mab oddi wrth ei warcheidwad a chydlynodd ymosodiad ar ei chartref. Mewn ymateb, siwiodd Margaret ei brawd yn Siambr Llys y Seren. Mae pennod Sadie yn ystyried y berthynas rhwng merched a鈥檜 perthnasau gwrywaidd ar ddiwedd y cyfnod canoloesol, cyfnod pan oedd Cymru鈥檔 addasu i gyfreithiau newydd a oedd weithiau鈥檔 gwrthdaro 芒 safbwyntiau sefydledig cymdeithas fonedd Cymru ar fenywod. Un o鈥檌 chasgliadau yw bod Margaret wedi gweithredu fel 鈥榓siant hyderus o fewn cyfyngiadau cymdeithas batriarchaidd鈥�.
Mae Dr Mary Oldham, a gwblhaodd ei PhD ar Gregynog yn ddiweddar, hefyd wedi cyhoeddi erthygl mewn cyfnodolyn yn y Montgomeryshire Collections sy鈥檔 olrhain pa mor ganolog yw menywod i olyniaeth 鈥� a hanes 鈥� yst芒d Gregynog.
Gan fod hanes menywod yn thema mor ganolog yn ymchwil Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, yn naturiol rydym wedi datblygu partneriaeth gref a ffrwythlon gydag Archif Menywod Cymru. Mae eu cynhadledd flynyddol yn rhoi llwyfan ardderchog i鈥檔 cydweithwyr rannu eu hymchwil, a chefais gyfle i gyflwyno papur y llynedd. Fy mhrif ddiddordeb ymchwil yw hanes pensaern茂ol a gardd y plasty Cymreig, ac astudiaeth o Gastell Sain Ffagan yng Nghaerdydd yw fy mhrosiect doethuriaeth. Un agwedd o fy ymchwil yn dangos sut y dylanwadodd perchnogion Castell Sain Ffagan ar ddyluniad y t欧 a鈥檙 gerddi, a dwi wedi dylwi ar batrwm o dair cenhedlaeth olynol o fenywod Windsor-Clive yn gwneud cyfraniadau sylweddol i鈥檙 gerddi yn y cyfnod tua 1850-1920.
Etifeddodd Harriet Windsor-Clive (1797-1869) yr yst芒d ar farwolaeth ei brawd h欧n, 6ed Iarll Plymouth, yn ddi-blant. Er iddi briodi i mewn i鈥檙 teulu Clive, hi oedd yn gyfrifol am gario llinell Windsor, ei henwau a鈥檌 theitlau ymlaen, drwy cael trwydded frenhinol i ddefnyddio鈥檙 cyfenw 鈥榃indsor-Clive鈥� a chael Barwniaeth Windsor wedi ei hadfywio yn 1855, tra cafodd yr Iarllaeth ei hadfywio am ei h诺yr. Wedi marwolaeth annisgwyl ei mab, rheolodd yr yst芒d ar ran ei h诺yr ifanc. Harriet oedd yn gyfrifol am gychwyn dau brosiect adeiladu fawr yng Nghastell Sain Ffagan, sef ychwanegu bloc gweision newydd i gefn y t欧 a chreu terasau ffurfiol yn y gerddi. Soniodd fy mhapur am sut y gwnaed yr ychwanegiadau hyn yn yr arddull Gothig, gan gynnwys t诺r a chreneliadau, gan archwilio鈥檙 posibilrwydd taw bwriad Harriet oedd i ddangos ei hawdurdod dros ei thenantiaid. Daeth merch yng nghyfraith Harriet, Mary Windsor Clive (1829-1889), i reoli鈥檙 yst芒d ym 1869, ac mae ei hychwanegiadau at gerddi Sain Ffagan yn adlewyrchu ei diddordeb personol mewn archaeoleg, er enghraifft cylch cerrig a ffurfiwyd o ddarnau o goed wedi鈥檜 ffosileiddio. Roedd merch-yng-nghyfraith Mary, Alberta 鈥楪ay鈥� Windsor-Clive (1863-1944), yn rhan o set gymdeithasol ffasiynol o鈥檙 enw 鈥榯he Souls鈥� ac roedd yn westeiwraig poblogaidd. Datblygodd berthynas arbennig gyda Chastell Sain Ffagan, wrth iddi hi a鈥檌 theulu ifanc ymweld bob haf i ymlacio wedi Tymor Cymdeithaisol Llundain a threulio amser prin gyda鈥檌 gilydd. Roedd Gay yn ferch i Lysgennad Prydeinig, ac adlewyrchwyd ei magwraeth yn Rhufain a Fflorens yn ei hychwanegiadau i ardd Sain Ffagan, gan gynnwys yr 鈥楢rdd Eidalaidd鈥� awthentig iawn. Mae deunydd archifol yn datgelu ei bod wedi gweithio'n agos gyda'r Prif Arddwr a'i bod yn rhan o'r penderfyniadau ymarferol yn y gerddi, gan ofyn am planhigion penodol a chynghori ar led y llwybrau.
Roedd fy mhapur yn herio鈥檙 ddealltwriaeth bresennol mai aelodau gwrywaidd y teulu Windsor-Clive oedd yn gyfrifol am greu鈥檙 gerddi, er enghraifft un o鈥檙 unig weithiau yn y llenyddiaeth gyfredol ar y gerddi yw erthygl gyda鈥檙 teitl 鈥楪erddi Ieirll Plymouth yng Nghastell Sain Ffagan'. Yn benodol, heriodd y disgrifiad annheg o Gay Windsor-Clive fel 鈥榓ddurn gardd鈥� a grwydrodd o gwmpas 鈥榶n harddu鈥檙 lleoliad sydd eisoes yn brydferth鈥� mewn cyhoeddiad 2002 am adfer y Gerddi Eidalaidd. Wrth i鈥檙 gynhadledd gael ei chynnal yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, roedd yna gyfle i gyfuno fy mhapur gyda thaith tywys o amgylch y gerddi.
Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn falch iawn bod Cynhadledd Flynyddol Archif Menywod Cymru yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol 精东传媒 eleni. Bydd tri o鈥檔 cydweithwyr yn cyflwyno papurau, gan gynnwys ein Cyfarwyddwr Dr Shaun Evans, y bydd ei bapur yn gymwys 鈥楤oniddigesau, Gweithgaredd Hynafiaethol ac Ymwybyddiaeth Hanesyddol Gymreig yn y 19eg Ganrif鈥�. Bydd Lizzy yn cyflwyno papur ar 鈥楳enywod yn berchen ac yn ddeilliaid tir yn ngogledd-ddwyrain Cymru: Tystiolaeth o blydlesoedd yr 17eg a鈥檙 18fed ganrif鈥�, a bydd Dr Meinir Moncrieffe, a gwblhaodd ei phrosiect doethuriaeth ar Syr John Wynn o Wydir yn ddiweddar, yn rhoi papur yn dwyn y teitl 鈥樷�橰hodd duw yw dynes radlon a gonest a does drysor cyffelyb iddi鈥�: Camdriniaeth mud Gwragedd y Bonedd Cymreig鈥�. Edrychwn ymlaen at y gynhadledd ac at barhau 芒鈥檔 perthynas ag Archif Menywod Cymru.
(Gan Bethan Scorey)