Sgowtiaid Llangefni鈥檔 Archwilio Traddodiadau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd gyda Gweithdai Hwyliog!
Cafodd Sgowtiaid Beavers a Cubs Llangefni amser gwych yn dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd gyda gweithgareddau creadigol wedi鈥檜 cynnal gan Sefydliad Confucius Prifysgol 精东传媒.
Aeth y Sgowtiaid ati i wneud llusernau a thorri papur, gan ddylunio eu haddurniadau lliwgar eu hunain wrth ddysgu am y traddodiadau y tu 么l iddynt. Cawsant hefyd fwynhau cyflwyniad diddorol ar arferion Blwyddyn Newydd Tsieineaidd, a dysgu am straeon anifeiliaid y Sidydd, ystyr amlenni coch, a phwysigrwydd dathliadau teuluol.
Dywedodd Katie Coburn o Sgowtiaid 1af Llangefni am y sesiwn:
"Roedd y plant wrth eu bodd 芒鈥檙 sesiwn 鈥� ni allai fod wedi bod yn well. Roedd yn gyfle gwych iddynt ddysgu rhai ymadroddion Tsiein毛eg sylfaenol a darganfod diwylliant Tsieina drwy weithgareddau ymarferol. Roeddent yn llwyr ymroddedig drwyddi draw ac yn mwynhau鈥檙 profiad yn fawr."
Roedd y digwyddiad yn ffordd hwyliog ac addysgol i鈥檙 Sgowtiaid archwilio diwylliant Tsieina, gan danio creadigrwydd ac ysbrydoli chwilfrydedd am draddodiadau byd-eang.