Wrth enwebu Megan, dywed Kate Waddington:
"Mae Megan yn ymchwilydd a llysgennad rhagorol i Brifysgol 精东传媒. Mae ei hymchwil yn hynod arloesol ei hagwedd, ac mae ei harchwiliad damcaniaethol sy鈥檔 cael ei yrru gan ddata ar fin gwneud cyfraniad sylweddol at ddealltwriaeth o gymdeithas yr Oes Haearn. Mae ei phenodiad mawreddog fel Ymchwilydd Anrhydeddus yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd, yn ddigynsail ar lefel doethuriaeth. Mae Megan wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i weithgareddau allgymorth ac effaith prosiect Ecoamgueddfa Ll欧n yr Ysgol, gan helpu i gyd-lunio a chyd-arwain gweithdai ysgolion a digwyddiadau cyhoeddus, rhai wedi鈥檜 hysgogi gan ei hymchwil ei hun. Fe wnaeth ei gwaith gyda Chymdeithas Archaeoleg y Myfyrwyr greu cysylltiadau newydd 芒 safleoedd treftadaeth lleol a gwella profiad myfyrwyr yn fawr. Mae ei hymrwymiad i ymgysylltu mewn ffyrdd mwy ystyrlon 芒 grwpiau cymunedol ar Ynys M么n wedi meithrin prosiect allgymorth newydd yn yr Ysgol yn y flwyddyn ddiwethaf 鈥� gan arwain at 诺yl archaeoleg newydd a ymgysylltodd dros 400 o aelodau鈥檙 cyhoedd ym mis Medi 2024."
Ac wrth enwebu Claire, dywed Martina Feilzer a Bethan Loftus:
"Mae Claire yn gwneud ymchwil ar r么l misogyny fel ffactor risg mewn lladdiad domestig a thrais difrifol, ac mae'n gwneud cyfraniad sylweddol at faes ymchwil pwysig mewn perthynas 芒 mater cymdeithasol o bwysigrwydd mawr. Tra bod Trais yn erbyn Menywod a Merched yn flaenoriaeth genedlaethol, mae gwasanaethau heddlu鈥檔 ei chael hi鈥檔 anodd nodi achosion o gam-drin domestig sy鈥檔 cynnwys risg o drais difrifol a marwol. Mae Claire yn profi ei sgiliau fel academydd yn ei harchwiliad manwl o ddata sensitif a ffeiliau achos yn ymwneud 芒 thrais domestig o fewn perthnasoedd agos. Mae ei gwaith maes yn ymgysylltu 芒 goroeswyr trais o鈥檙 fath ac mae ei chanfyddiadau eisoes yn cyfrannu at hyfforddi swyddogion heddlu a鈥檙 rhai sy鈥檔 cefnogi menywod yn y sector gwirfoddol. Mae鈥檔 cyflwyno ei gwaith i weithwyr proffesiynol ac academyddion gyda hyder ac eglurder Mae gan ei gwaith y potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fenywod a merched, a鈥檙 rhai sydd ar waith i鈥檞 cefnogi. Mae Claire yn fam i dair o ferched ac mae ei hymrwymiad i'w hymchwil academaidd yn rhagorol."