Prinder gweithlu gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig: pam mae buddsoddi nawr yn hanfodol i feithrin ein llesiant
Kalpa Pisavadia a Rhiannon Tudor Edwards
Gall economegwyr iechyd roi cyngor ar gostau a manteision gwasanaethau iechyd sy'n sicrhau bod llesiant y cyhoedd yn cael ei feithrin. Mae lles ein cymunedau yn dibynnu arnom i ddiogelu鈥檙 gwasanaethau y gall fod eu hangen arnom ar adegau o salwch, anafiadau a henaint. Ni allwn ragweld pryd y bydd angen cefnogaeth ar ein hanwyliaid i fyw鈥檔 annibynnol neu ofal diwedd oes. Mae pandemig COVID-19 wedi ein dysgu bod gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn gofyn am wytnwch ac ymrwymiad anhygoel. Yn y Deyrnas Unedig, mae'n ofynnol i bob aelod o staff iechyd a gofal cymdeithasol feddu ar werthoedd a elwir yn Saesneg yn 6C, gofal, tosturi, cymhwysedd, cyfathrebu, dewrder ac ymrwymiad (NHS England, 2022). Mae'r sgiliau allweddol hyn yn galluogi gofalwyr cymdeithasol i chwarae rhan amhrisiadwy yn ein cymunedau. Fodd bynnag, nid yw cyllid a chyflogau staff gofal cymdeithasol ledled y Deyrnas Unedig yn adlewyrchu gwerth y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu i ni. Mae toriadau hirfaith i gyllidebau awdurdodau lleol rhwng 2008 a 2018 a chynllunio gweithlu annigonol yn golygu bod prinder gweithlu wedi dod yn endemig (Stuckler et al., 2017; The Kings Fund, 2022a). O ganlyniad, mae鈥檙 gweithlu gofal cymdeithasol bellach yn wynebu heriau digynsail o ran recriwtio a dal gafael ar staff.
Ym mis Rhagfyr 2021, adroddodd Care England fod 95% o ddarparwyr gofal yn cael trafferth recriwtio staff, a 75% yn cael trafferth dal gafael ar eu staff presennol (Care England, 2021). Rhwng 2021 a 2022, cynyddodd nifer y swyddi gwag ledled y Deyrnas Unedig mewn gofal cymdeithasol i oedolion 52%. Ers 2015, mae鈥檙 galw am ofalwyr cymdeithasol ar gyfer oedolion o oedran gweithio wedi cynyddu 15% oherwydd bod llawer o bobl ag anableddau difrifol yn goroesi plentyndod (The Kings Fund, 2022b). Mae adroddiadau diweddar yn nodi angen clir heb ei ddiwallu am ofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig. Yn 么l Age UK (2022), nid oedd 1.6 miliwn o bobl h欧n yn cael y gofal a鈥檙 gefnogaeth yr oedd eu hangen arnynt cyn y pandemig, ac ar hyn o bryd, nid yw bron i draean o geisiadau am gyllid llywodraeth leol yn arwain at unrhyw gefnogaeth. Mae adroddiad diweddar Sgiliau Gofal (2022) yn honni bod angen cymryd camau brys i recriwtio a dal gafael ar y gweithlu gofal cymdeithasol. Er mwyn cadw i fyny 芒鈥檙 galw a chyfraddau disgwyliad oes sy鈥檔 cynyddu鈥檔 barhaus, mae angen 480,000 o bobl ychwanegol yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol erbyn 2035. Yn ogystal, gallem golli 430,000 o weithwyr gofal cymdeithasol ychwanegol yn y Deyrnas Unedig os bydd y rhai 55 oed a h欧n yn ymddeol yn y deng mlynedd nesaf. (Fenton et al., 2022).
Mae鈥檙 diffyg mewn gofal cymdeithasol i oedolion yn rhoi pwysau cynyddol ar ofalwyr di-d芒l. Yng Nghymru yn unig, roedd 96% o ofal yn cael ei ddarparu gan ofalwyr di-d芒l (Senedd Cymru, 2022). Mae鈥檔 bosibl bod llawer o鈥檙 gofalwyr di-d芒l hyn o oedran gweithio ac yn methu 芒 gwneud hynny oherwydd yr ymrwymiad hwn, gan arwain at gostau economaidd ehangach (Krol & Brouwer, 2015). Roedd gofal di-d芒l eisoes wedi cael effaith cost uwch ar sectorau cyflogaeth a budd-daliadau lles cyn y pandemig. Er enghraifft, yn 2017, roedd colli refeniw treth a gwariant cynyddol ar fudd-daliadau i gefnogi gofalwyr di-waith yn costio 拢1.7bn y flwyddyn i economi鈥檙 Deyrnas Unedig (Pickard et al., 2018). Yn fwy diweddar, canfu astudiaeth fodelu fod oedolion ifanc sy鈥檔 gofalu am aelod o鈥檙 teulu yn ennill cyflogau sylweddol is na鈥檙 rhai heb unrhyw gyfrifoldebau gofalu. Yn ogystal, oherwydd bod gan ofalwyr sy鈥檔 oedolion ifanc iechyd corfforol a meddyliol gwaeth, mae budd-daliadau lles, costau gwasanaeth iechyd a darparu gofal o refeniw treth is yn dod i 拢1048 miliwn y flwyddyn ar gyfer y gr诺p hwn (Brimblecombe et al., 2020).
Mae colli llafur medrus a mwy o anghenion recriwtio a hyfforddi yn arwain at gostau pellach i gyflogwyr. Mae hon yn broblem arbennig ym maes gofal cymdeithasol lle鈥檙 oedd cyfraddau trosiant staff rhwng 2021 a 2022 yn 29%, sy鈥檔 golygu bod 400,000 o bobl wedi gadael eu swyddi y llynedd, yn ddi-os, oherwydd cyflogau cychwynnol isel a chyfraddau isel o ran symud ymlaen i swydd uwch. (Fenton et al., 2022). Mae cyflog blynyddol cymedrig gweithwyr gofal yn y sector annibynnol mor isel 芒 拢17,900 y flwyddyn (Y Sefydliad Iechyd, 2021). Ar gyfartaledd, mae gweithwyr gofal sydd 芒 phum mlynedd neu fwy o brofiad yn y sector ddim ond yn cael eu talu 7c yr awr yn unig yn fwy na gweithiwr gofal 芒 llai na blwyddyn o brofiad (Fenton et al., 2022). Yn hollbwysig, mae 24% o staff gofal cymdeithasol ar gontractau dim oriau o gymharu 芒 3% yn y boblogaeth ehangach. Profwyd bod contractau dim oriau yn effeithio鈥檔 negyddol ar ysbryd a lles meddwl staff, ac yn cynyddu cyfraddau trosiant (Ndzi & Barlow, 2022). Yn 么l arolwg trawstoriadol yn 2019, roedd 60% o weithwyr gofal cartref ar gontractau dim oriau (Ravalier et al., 2019). Canfu鈥檙 arolwg hwn er bod sawl ffactor yn cyfrannu at straen i weithwyr gofal cartref, mae contractau dim oriau yn gwaethygu鈥檙 mater yn sylweddol. Rhai o鈥檙 cyfranwyr at straen mewn perthynas 芒 chontractau dim oriau oedd yr ansicrwydd o beidio 芒 chael oriau gwaith neu d芒l penodol, ac felly methu 芒 chynllunio eu bywydau personol ac weithiau methu 芒 thalu biliau(Ravalier et al., 2019).
Mae鈥檙 pandemig wedi dangos inni fod amodau鈥檙 farchnad lafur yn dylanwadu ar y sector gofal cymdeithasol. Rhwng 2020 a 2021, gostyngodd swyddi gweigion ym maes gofal cymdeithasol oherwydd diffyg cyfleoedd gwaith yn yr economi ehangach. Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2022, cynyddodd cyfleoedd swyddi yn yr economi ehangach 2.5%, a dychwelodd cyfraddau swyddi gwag gofal cymdeithasol oedolion i鈥檞 lefelau cyn-bandemig o 10.7% (Fenton et al., 2022). Canfu adolygiad cyflym a gynhaliwyd gan Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol 精东传媒 (BIHMR) yn 2021 fod staff cartrefi gofal a gofal cartref, yn ystod y pandemig, yn wynebu pwysau cynyddol a chwythu plwc (burnout) (Spencer et al., 2021). Mae Fforwm Gofal Cymru hefyd yn cydnabod, tua diwedd y pandemig, fod llawer o staff yn gadael eu swyddi yn y sector gofal cymdeithasol i chwilio am gyfleoedd 芒 chyflogau gwell a llai o bwysau mewn mannau eraill (Fforwm Gofal Cymru, 2021). Yn ystod y pandemig, roedd angen gwneud mwy i gefnogi a gwobrwyo staff newydd a phresennol a oedd yn wynebu heriau cynyddol.
Mae manteision economaidd sylweddol i fuddsoddi yn y sector gofal cymdeithasol a thalu cyflog priodol i rai o鈥檔 gweithluoedd mwyaf gwerthfawr. Amlygodd adroddiad diweddar Sgiliau Gofal fod effeithiau anuniongyrchol (cyfarpar a chyflenwadau a brynwyd) ac effeithiau uniongyrchol (cyflogau staff) gofal cymdeithasol wedi cynhyrchu 拢51.5 biliwn y flwyddyn i鈥檙 economi yn Lloegr yn 2022 ac 1.2 biliwn yng Nghymru yn 2016 (Fenton et al., 2022; ICF, 2018; Sgiliau Gofal, 2021). Yn 2021, roedd y sector gofal cymdeithasol yn cyflogi 1.54 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig ac yn creu 600,000 o swyddi ychwanegol yn anuniongyrchol (Y Sefydliad Iechyd et al., 2021). Mae gofal cymdeithasol hefyd yn darparu digon o gefnogaeth i鈥檙 GIG, lle mae mwy o ofal preswyl ar gael yn gysylltiedig 芒 lleihau鈥檙 nifer sy鈥檔 cael eu hanfon yn 么l i鈥檙 ysbyty ac oedi wrth ryddhau (Spiers et al., 2018, 2019).
Mae angen cynllunio gweithlu hirdymor ar frys i gynyddu capasiti a chynnal proffil staffio gyda'r sgiliau a'r wybodaeth gywir i fodloni'r galw cynyddol. Dim ond 50% o'r staff sy'n darparu gofal yn uniongyrchol sydd 芒 chymhwyster gofal cymdeithasol(Y Sefydliad Iechyd et al., 2021). Gan mai ychydig o godiad cyflog yn unig sydd i uwch weithwyr gofal, efallai nad yw symud ymlaen i swydd uwch yn ymddangos yn werth chweil i lawer o aelodau staff. Mae buddsoddi mewn hyfforddiant yn y sector gofal cymdeithasol a gosod graddfeydd datblygiad cyflog digonol yn hollbwysig. Mae gofalwyr cymdeithasol yn cefnogi pobl ag anghenion mwy cymhleth nag yr oeddent ddeng mlynedd yn 么l ac, felly, mae angen sgiliau a hyfforddiant ychwanegol arnynt i ofalu鈥檔 ddigonol am bobl (Fenton et al, 2022). Cyn y pandemig, roedd staff gofal cymdeithasol yn aml yn cymryd cyfrifoldebau y tu hwnt i'w hyfforddiant a'u harbenigedd, fel gosod cathetrau a rhoi inswlin (Hayes et al., 2019). Yn ystod y pandemig, roedd disgwyl i staff ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol fel trin briwiau a chadarnhau marwolaethau (Gr诺p Comisiynu GIG Norfolk a Waverley, 2020; Sgiliau Gofal, 2020). Canfu adroddiad Sgiliau Gofal fod y gyfradd trosiant gyfartalog wedi gostwng i 31.7% ymhlith staff a gafodd rywfaint o hyfforddiant o gymharu 芒 41.2% ymhlith y rhai nad oeddent wedi cael unrhyw hyfforddiant (Fenton et al, 2022). Er mwyn denu staff yn ystod argyfwng costau byw, mae鈥檔 hanfodol bod cyllid yn cael ei fuddsoddi mewn dysgu a datblygu i ddarparu llwybrau gyrfa addawol a datblygiad cyflog digonol ar gyfer staff newydd a phrofiadol.
Yng Nghymru, cafodd y Cyflog Byw Gwirioneddol o 拢9.90 ei roi i鈥檙 holl staff gofal cymdeithasol ym mis Ebrill 2022, ac yn hydref 2022, cyhoeddodd llywodraeth y Deyrnas Unedig gynnydd pellach i 拢10.42 i鈥檞 gyflwyno ym mis Ebrill 2023. Fodd bynnag, er gwaethaf y gwerth economaidd a gynhyrchir gan ofal cymdeithasol, dim ond 2.5% y mae cyflog y sector cyhoeddus wedi鈥檌 gynyddu hyd yma. Mae hyn ymhell islaw鈥檙 gyfradd chwyddiant gyfredol, a gododd i 10.1% ym mis Medi 2022 (Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2022a, 2022b). Gyda'r argyfwng costau byw presennol, mae pobl yn cael eu gorfodi i wario mwy ar hanfodion fel bwyd ac ynni. Mae hyn yn golygu bod gan y cyhoedd lai o arian i'w wario. Gall cynyddu cyflogau鈥檙 sector cyhoeddus leihau cyfraddau trosiant yn ogystal 芒 rhoi mwy o allu i bobl wario. Mae potensial i hyn gryfhau鈥檙 sector gofal yn ogystal 芒 chefnogi gweddill yr economi (Murphy, 2022).
Yn 2021, cyflwynodd y llywodraeth y papur gwyn, Pobl Wrth Galon Gofal: Diwygio Gofal Cymdeithasol i Oedolion (Llywodraeth y Deyrnas Unedig 芒'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 2021). Dywedodd y papur gwyn y byddai 拢500m yn cael ei fuddsoddi mewn datblygiad proffesiynol, ariannu adnoddau llesiant iechyd meddwl, cefnogi staff i wella o effeithiau鈥檙 pandemig a chyflwyno diwygiadau pellach i wella recriwtio a chefnogaeth i鈥檙 gweithlu gofal cymdeithasol (Trysorlys EM, 2021). Fodd bynnag, ni ddarparodd y papur gwyn unrhyw symiau penodol o ran sut y bydd y 拢500m yn cael ei ddosbarthu. Yn ogystal, nid yw'r llywodraeth eto wedi cyflawni'r addewid hwn bron i flwyddyn ar 么l cyhoeddi'r papur gwyn (NHS Support Federation, 2022). Ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi addo buddsoddi 拢10m ychwanegol ar gyfer gofal cartref (Llywodraeth Cymru, 2022a). Fodd bynnag, cydnabuwyd y byddai hyn yn cymryd amser i'w gyflawni ac efallai na fyddai'n ddigon i fodloni cyfanswm y galw (Llywodraeth Cymru, 2022b)
Mae'r gofal a'r gwasanaethau a ddarperir gan weithwyr gofal cymdeithasol yn amhrisiadwy i'n cymunedau. Dangosodd staff iechyd a gofal cymdeithasol wytnwch ac ymrwymiad rhyfeddol yn ystod y pandemig. Mae cefnogi staff gyda hyfforddiant a gwobrwyo staff profiadol gyda datblygiad cyflog digonol yn hanfodol. Mae meithrin llesiant i bawb yn dibynnu ar ddiogelu鈥檙 gwasanaethau y gall fod eu hangen arnom ar adegau o salwch, anafiadau neu henaint. Rhaid i鈥檙 llywodraeth gyflawni鈥檙 addewidion a nodir ym mhapur gwyn Rhagfyr 2021 ac ariannu鈥檙 gwasanaethau hyn yn briodol er mwyn dal gafael ar y staff yn ein sector gofal cymdeithasol, a鈥檜 cefnogi (Llywodraeth y Deyrnas Unedig 芒'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 2021). Y tu 么l i ystadegau prinder gweithlu gofal cymdeithasol mae bywydau pobl nad ydynt efallai鈥檔 cael y gefnogaeth y mae dirfawr ei hangen arnynt.
Cyfeiriadau
Age UK. (2022). New analysis finds the pandemic has significantly increased older people鈥檚 need for social care. https://www.ageuk.org.uk/latest-press/articles/2021/new-analysis-finds-the-pandemic-has-significantly-increased-older-peoples-need-for-social-care/#:~:text=Before%20the%20pandemic%20struck%20Age%20UK%20estimated%20that,could%20grow%20to%202.1%20million%20people%20by%202030.
Brimblecombe, N., Knapp, M., King, D., Stevens, M., & Cartagena Farias, J. (2020). The high cost of unpaid care by young people:health and economic impacts of providing unpaid care. BMC Public Health, 20(1). https://doi.org/10.1186/s12889-020-09166-7
Care England. (2021). Written evidence Health and Social Care Committee. https://committees.parliament.uk/committee/81/health-and-social-care-committee/publications/written-evidence/?SearchTerm=RTR0069&DateFrom=&DateTo=&SessionId=
Care Forum Wales. (2021). RESPONSE TO THE SENEDD HEALTH & SOCIAL CARE COMMITTEE CONSULTATION ON THE HEALTH & SOCIAL CARE WORKFORCE. https://business.senedd.wales/documents/s119130/HSC43%20-%20Care%20Forum%20Wales.pdf
Fenton, W., Davidson, S., Fleming, N., Holloway, M., Polzin, G., Price, R., & Fozzard, T. (2022). The-state-of-the-adult-social-care-sector-and-workforce-2022. https://www.skillsforcare.org.uk/Home.aspx
Hayes, L., Johnson, E., & Tarrant, A. (2019). Kent Academic Repository Professionalisation at work in adult social care. https://kar.kent.ac.uk/77269/
HM Treasury. (2021). Build Back Better: our plan for growth. https://www.gov.uk/government/publications/build-back-better-our-plan-for-health-and-social-care/build-back-better-our-plan-for-health-and-social-care
ICF. (2018). The Economic Value of the Adult Social Care sector-Wales Final report. https://socialcare.wales/cms-assets/documents/The-Economic-Value-of-the-Adult-Social-Care-Sector_Wales.pdf
Krol, M., & Brouwer, W. (2015). Unpaid work in health economic evaluations. Social Science & Medicine, 144, 127鈥�137. https://doi.org/10.1016/J.SOCSCIMED.2015.09.008
Murphy, R. (2022). Here鈥檚 How Rishi Sunak Could Crash Our Economy (Again) Austerity would send us spiralling into a deep recession. https://novaramedia.com/2022/10/25/heres-how-rishi-sunak-could-crash-our-economy-again/
Ndzi, E. G., & Barlow, J. (2022). Zero-hour contracts take a huge mental and physical toll 鈥� poor eating habits, lack of sleep and relationship problems. https://theconversation.com/zero-hour-contracts-take-a-huge-mental-and-physical-toll-poor-eating-habits-lack-of-sleep-and-relationship-problems-119703
NHS England. (2022). The 6Cs of Care. https://www.nhsprofessionals.nhs.uk/nhs-staffing-pool-hub/working-in-healthcare/the-6-cs-of-care
NHS Norfolk and Waverley Commissioning Group. (2020). Guidance for delegation of tasks N&W CCG v1 Guidance for Delegated Tasks during Covid 19-Wound Care and Skin Tear Management Rationale. https://www.ahsnnetwork.com/wp-content/uploads/2020/04/
NHS Support Federation. (2022). Fund Our NHS. https://nhsfunding.info/symptoms/10-effects-of-underfunding/staff-shortages-2/
Office for National Statistics. (2022a). Average weekly earnings in Great Britain: October 2022.
https://www.ons.gov.uk/employmentandlabourmarket/peopleinwork/employmentandemployeetypes/bulletins/averageweeklyearningsingreatbritain/october2022
Office for National Statistics. (2022b). Inflation and Price Indices. https://www.ons.gov.uk/economy/inflationandpriceindices
Pickard, L., King, D., Brimblecombe, N., & Knapp, M. (2018). Public expenditure costs of carers leaving employment in England, 2015/2016. Health and Social Care in the Community, 26(1), e132鈥揺142. https://doi.org/10.1111/hsc.12486
Ravalier, J., Morton, R., Russell, L., & Rei Fidalgo, A. (2019). Zero-hour contracts and stress in UK domiciliary care workers. Health and Social Care in the Community, 27(2), 348鈥�355. https://doi.org/10.1111/hsc.12652
Skills for Care. (2020). Verification of Expected Death (VOED) with clinical remote support Guidance for Adult Social Care Workers. https://www.skillsforcare.org.uk/Documents/Learning-and-development/Ongoing-learning-and-development/End-of-life-care/VOED-supporting-guidance2.pdf
Skills for Care. (2021). The value of adult social care in England: Why it has never been more important to understand the economic benefits of adult social care to individuals and society. www.skillsforcare.org.uk
Spencer, L. H., Hartfiel, N., Hendry, A., Anthony, B., Makanjuola, A., Bray, N., Hughes, D., Wilkinson, C., Fitzsimmons, D., Edwards, R. T., Edwards, A., Gal, M., Cooper, A., & Lewis, R. (2021). Wales COVID-19 Evidence Centre (WCEC) Rapid Review Have infection control and prevention measures resulted in any adverse outcomes for care home and domiciliary care residents and staff? www.primecentre.wales/resources/RR/Clean/RR00018_Wales_COVID-
Spiers, G., Matthews, F. E., Moffatt, S., Barker, R., Jarvis, H., Stow, D., Kingston, A., & Hanratty, B. (2019). Does older adults鈥� use of social care influence their healthcare utilisation? A systematic review of international evidence. In Health and Social Care in the Community (Vol. 27, Issue 5, pp. e651鈥揺662). Blackwell Publishing Ltd. https://doi.org/10.1111/hsc.12798
Spiers, G., Matthews, F. E., Moffatt, S., Barker, R. O., Jarvis, H., Stow, D., Kingston, A., & Hanratty, B. (2018). Impact of social care supply on healthcare utilisation by older adults: A systematic review and meta-analysis. Age and Ageing, 48(1), 57鈥�66. https://doi.org/10.1093/ageing/afy147
Stuckler, D., Reeves, A., Loopstra, R., Karanikolos, M., & McKee, M. (2017). Austerity and health: The impact in the UK and Europe. European Journal of Public Health, 27, 18鈥�21. https://doi.org/10.1093/eurpub/ckx167
The Health Foundation, The Kings Fund, & Nuffield Trust. (2021). The value of investing in social care. What are the benefits of further funding for reform to adult social care in England? http://editorial.health.org.uk/publications/reports/the-value-of-investing-in-social-care
The Kings Fund. (2022a). NHS Workforce: our position. https://www.kingsfund.org.uk/projects/positions/nhs-workforce
The Kings Fund. (2022b). Social Care in a Nutshell. https://www.kingsfund.org.uk/projects/nhs-in-a-nutshell/social-care-nutshell
UK Gov, & Department of Health and Social Care. (2021). People at the Heart of Care 鈥� Adult Social Care Reform White Paper. www.gov.uk/official-documents
Welsh Government. (2022a). Social Care staff to earn the Real Living Wage. https://gov.wales/social-care-staff-earn-real-living-wage
Welsh Government. (2022b). Written Statement: 拢10 million funding boost for domiciliary care in Wales. https://gov.wales/written-statement-10-million-funding-boost-domiciliary-care-wales
Welsh Parliament. (2022). No respite for unpaid carers as pressures continue to increase. No respite for unpaid carers as pressures continue to increase