Tîm ymchwil i fynd i'r afael â’r heriau sy’n ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd sy’n wynebu cymunedau brodorol yr Arctig Â
Bydd menter ymchwil newydd yn mynd i'r afael â'r heriau cynyddol sy’n wynebu cymunedau brodorol yr Arctig oherwydd y newid yn yr hinsawdd.
Mae Dr Iestyn Woolway o Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol yn ymuno â thîm rhyngwladol o dan arweiniad arbenigwyr o Ganada, Norwy, a’r Deyrnas Unedig, yn y project, gyda chefnogaeth Llywodraeth Canada.
Wrth i'r Arctig gynhesu bedair gwaith yn gynt na’r gyfradd fyd-eang, mae'r rhew a’r eira'n crebachu ac yn bygwth trafnidiaeth, diogelwch bwyd, ac iechyd i boblogaethau Inuit a Sámi.
Mae'r project yn blaenoriaethu atebion sy’n cael eu sbarduno gan y gymuned trwy gyfuno gwybodaeth frodorol â gwyddoniaeth flaengar i liniaru risgiau a hyrwyddo gwytnwch.
Mae’r nodau allweddol yn cynnwys darogan peryglon y cryosffer trwy ddatblygu offer amser real, fel dangosfwrdd diogelwch rhew ac eira, i wella diogelwch symudedd a chefnogi penderfyniadau yng nghymunedau'r Arctig.
Bydd yn hybu diogelwch bwyd ac iechyd drwy ymchwilio i effeithiau amgylchiadau cyfnewidiol y rhew a’r eira ar y systemau bwyd traddodiadol a llesiant cymunedol, gan feithrin cyfnewid gwybodaeth ar draws y cenedlaethau.
Caiff y cymunedau Inuit a Sámi brodorol eu grymuso wrth inni gydgynhyrchu gwybodaeth a strategaethau ymaddasu gyda nhw, a sicrhau bod eu lleisiau’n llywio'r ymchwil a'r canlyniadau.
Fel rhan o'r fenter mae Prifysgol ¾«¶«´«Ã½ yn arwain y gwaith o ddatblygu modelau datblygedig o lynnoedd i ragweld llwybrau trafnidiaeth diogel dros y gaeaf dros lynnoedd ac afonydd rhewedig, gan ganolbwyntio ar drwch y rhew o dan y newid yn yr hinsawdd. Bydd y modelau hynny’n cynnig darlun manwl i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau’n lleol sy'n wynebu amgylchiadau sy’n gynyddol anodd i’w darogan o ran rhew.
Caiff data lloeren, arsylwadau maes, ac arbenigedd y Cymunedau Cynhenid eu hintegreiddio er mwyn modelu a darogan amgylchiadau’r rhew a’r eira. Caiff elfennau cyfreithiol, diwylliannol ac ecolegol eu cyfuno i wella llywodraethiant yr Arctig a gwytnwch amgylcheddol.
Er mwyn sicrhau bod y canfyddiadau'n cyrraedd cynulleidfaoedd lleol a byd-eang, bydd y fenter yn creu allbynnau difyr a rhwydd, megis llyfrau plant, murluniau, a gweithdai cymunedol.
Canlyniadau disgwyliedig y fenter yw llwybrau teithio mwy diogel i gymunedau'r Arctig, strategaethau newydd i gynnal arferion traddodiadol a gwella diogelwch bwyd a chydweithio cryfach rhwng gwyddonwyr a grwpiau brodorol i fynd i'r afael â heriau’r hinsawdd.
Dywedodd Dr Iestyn Woolway, sef prif ymchwilydd y Deyrnas Unedig ar gyfer y project, “Mae Prifysgol ¾«¶«´«Ã½ yn ddiolchgar am grant Llywodraeth Canada a hoffai ddiolch iddynt am eu cefnogaeth.
“Mae’r project yn dangos y cyd ymrwymiad sydd gennym i fynd i’r afael â’r bygythiad mwyaf i’r blaned a dyfodol y ddynoliaeth, sef y newid yn yr hinsawdd.
“Rydym yn benderfynol o ganfod atebion arloesol a allai effeithio’n ddirfawr ar rai o boblogaethau mwyaf bregus y byd.
“Mae’n broject uchelgeisiol a’r nod yw diogelu dyfodol cymunedau’r Arctig a datblygu dealltwriaeth fyd-eang o ddeinameg y cryosffer mewn byd sy’n prysur gynhesu.�