Lansio ap realiti estynedig newydd M[AR]gam
Mae Castell Margam gyda鈥檌 dwr wythonglog yn dirnod cyfarwydd yn nhirwedd Port Talbot, ond erbyn hyn mae ap realiti estynedig arloesol o鈥檙 enw 鈥楳[AR]gam鈥� yn galluogi ymwelwyr i archwilio ei du mewn coll am y tro cyntaf. Lansiwyd yr ap yn y Castell ar y 23ain o Ionawr 2025, ac aeth ein Cydymaith Ymchwil ac Ymgysylltu Bethan Scorey draw i ddarganfod mwy.
Plasdy trawiadol yn y steil Diwygiad Tuduraidd yw Castell Margam, a adeiladwyd ym 1830-35 i gymryd lle plasty Tuduraidd go iawn ar yr un safle. Yr adeiladwr oedd Christopher Rice Mansel Talbot (1803-1890), a oedd wedi datblygu yst芒d Margam yn waith haearn a wasanaethid gan borthladd yn ddiweddar, a鈥檌 bensaer oedd Thomas Hopper (1776-1856), oedd hefyd yn gyfrifol am Gastell Penrhyn ger 精东传媒.
Parhaodd Castell Margam ym mherchnogaeth y teulu Talbot tan 1941, pan werthwyd y t欧 i dirfeddiannwr lleol a gwerthwyd ei gynnwys mewn arwerthiant. Fodd bynnag, mae'r cyfnod o esgeulustod a ddilynodd a th芒n trychinebus 1977 wedi gadael y tu mewn yn wag. Mae鈥檙 t欧 a鈥檌 dir bellach yng ngofal Cyngor Castell-nedd Port Talbot, sydd wedi agor y parc i鈥檙 cyhoedd ac wedi cychwyn ar raglen adfer uchelgeisiol.
Nid yn unig roedd gan Gastell Margam du mewn Fictoraidd eclectig, ond roedd hefyd yn gartref i gasgliad celf anhygoel y teulu Talbot, a ehangwyd dros sawl cenedlaeth. Prynwyd llawer o鈥檙 darnau Clasurol yn y casgliad gan Thomas Mansel Talbot (1747-1830) yn ystod ei Daith Fawr o amgylch Ewrop yn y 1770au, gan gynnwys y casgliad mwyaf o gerfluniau marmor hynafol yng Nghymru. Prynwyd nifer o'r paentiadau, gan gynnwys gweithiau gan feistri Iseldireg a Ffleminaidd, gan Christopher Rice Mansel Talbot yn benodol ar gyfer y t欧 newydd. Gwerthwyd mwy na thri chant o ddarnau o鈥檙 casgliad hwn yn ystod yr arwerthiant pedwar diwrnod ym 1941, a hwyluswyd gan Christies, ac o ganlyniad mae鈥檙 casgliad wedi鈥檌 wasgaru dros y lle i gyd, gyda darnau yn Amgueddfa Gelf Chrysler yn Virginia, Sefydliad Celf Detroit, a Sefydliad Georigio Cini yn Fenis.
Yn 2022, comisiynodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot , ymgynghoriaeth arbenigol ar dirwedd a threftadaeth, y mae ei Chyfarwyddwr Ian Baggott yn Gydymaith Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, i ddatblygu cais am gyllid i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer gwerthusiad opsiynau i archwilio posibiliadau ar gyfer dyfodol Castell Margam. Ar 么l llwyddiant y cais hwn, penodwyd CFP i reoli datblygiad parhaus prosiect Castell Margam, ac yn 2023 fe wnaethant datblygu鈥檙 prosiect '' er mwyn archwilio sut y gellid ail-greu鈥檙 tu mewn a gollwyd yn ddigidol.
Yn gynnar yn 2024, datblygodd CFP gais i Gronfa Ffyniant a Rennir y DU: cronfa Treftadaeth, Diwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau, ar ran t卯m cleientiaid Castell Margam, ar gyfer prosiect blwyddyn o hyd i ddatblygu profiad digidol i ymwelwyr 芒'r castell.
Fel rhan o brosiect 'Margam Interiors', sefydlodd CFP bartneriaeth newydd gyda ym Mhrifysgol Abertawe a dyfeisiwyd y syniad o greu ap realiti estynedig. Y canlyniad oedd app 鈥楳[AR]gam鈥�, sy'n caniat谩u i ddefnyddwyr archwilio modelau digidol dwy ystafell ar lawr gwaelod y t欧, yr Ystafell Fwyta a'r Llyfrgell, ar eu ffonau smart, naill ai yn y fan a'r lle fel profiad realiti estynedig neu o bell. Mae'r ap yn ryngweithiol a gall defnyddwyr glicio ar wahanol ddarnau o ddodrefn neu gelf er mwyn darganfod mwy amdanynt, ac am hanes y t欧 a鈥檙 teulu Talbot yn fwy cyffredinol.
Yn y lansiad ar 23 Ionawr 2025, roedd cyfle i drio'r ap ein hunain a chlywed am yr ymdrech gydweithredol i鈥檞 greu.
Rheolwyd y prosiect gan d卯m o CFP, gan gynnwys Ian Baggott a Jessica Arthur. Arweiniodd CFP, sy'n arbenigo mewn mabwysiadu dull cydweithredol o gysylltu pobl, mannau a lleoedd, hefyd ar ymgysylltu cymunedol, gan weithio'n agos gydag arbenigwyr lleol a grwpiau buddiant cymunedol megis a i gasglu cymaint o wybodaeth 芒 phosibl am y tu mewn hanesyddol. Fe wnaethant hefyd ddatblygu cyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau gwaith newydd i archwilio'r casgliad celf coll, gan ennyn diddordeb haneswyr ac arbenigwyr casgliadau celf o fri.
Nesaf, ategwyd yr ymchwil hwn gan astudiaeth systematig o gofnodion hanesyddol ac archifau, dan arweiniad Dr Hilary Orange, Dr Leighton Evans a Beau Jones o CHART. Gan ddefnyddio dadansoddiad sylfaenol o ffabrig yr adeilad sydd wedi goroesi, ffynonellau archifol megis hen ffotograffau a chatalogau gwerthu, a gwybodaeth gan aelodau o'r teulu Talbot, llwyddodd y t卯m i ailgreu鈥檙 Ystafell Fwyta a鈥檙 Llyfrgell, gan gynnwys y papur wal broc锚d sydd wedi鈥檌 ail-greu yn seiliedig ar ddarnau gwreiddiol a ddarganfuwyd ar y waliau. Yr her nesaf oedd ymchwilio i darddiad y gweithiau celf yn y casgliad a chysylltu ag orielau a chasglwyr ledled y byd i gael caniat芒d i鈥檞 hatgynhyrchu鈥檔 ddigidol.
Ar yr ochr ddigidol, comisiynwyd i greu model digidol o鈥檙 t欧, a oedd yn cynnwys tynnu miloedd o luniau gyda dr么n, tra gafodd yr ap ei hun ei ddatblygu gan y stiwdio realiti estynedig o Fryste .
Mae鈥檙 ap arloesol hwn yn cynnig ffordd newydd o ddehongli plastai lle mae鈥檙 tu mewn wreiddiol wedi鈥檌 golli a lle mae鈥檙 gost o鈥檌 adfer yn afresymol. Mae鈥檔 rhoi cyfle unigryw i fwynhau casgliad celf Talbot sydd bellach yn wasgaredig yn union fel y cafodd ei guradu, gyda thua wyth deg y cant o鈥檙 paentiadau wedi'u dangos yn eu hunion leoliad gwreiddiol.
Mae manteision dehongli digidol yn niferus. Mae ganddo鈥檙 potensial i ddatgloi gwahanol gyfnodau o hanes ar un safle heb fawr o ymyrraeth, sy鈥檔 arbennig o berthnasol i Gastell Margam sydd 芒 bryngaer o鈥檙 Oes Haearn, mynachlog Sistersaidd Eingl-Normanaidd, t欧 gwledda Jacobeaidd, ac Orendy Neo-Glasurol o鈥檙 ddeunawfed ganrif yn ei pharc. Mae hefyd yn bosib defnyddio鈥檙 ap o bell, gan wneud Castell Margam yn hygyrch i鈥檙 rhai nad ydynt yn gallu ymweld yn bersonol ac i ddefnyddwyr ledled y byd. O safbwynt curadurol, mae gan y dull hwn y potensial i gynhyrchu dehongliad o ansawdd uchel yn gynt o lawer 鈥� yn rhyfeddol, cymerodd yr ap M[AR]gam ychydig dros flwyddyn i鈥檞 greu o鈥檙 cysyniad i鈥檙 cyflwyno.
Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru'n anfon ein llongyfarchiadau i bartneriaid y prosiect ar lwyddiant yr ap. Mae modd lawrlwytho ap o'r neu'r