Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn 'gyfle euraidd' i weld casgliadau sbesimenau prin Prifysgol ¾«¶«´«Ã½
Caiff aelodau’r cyhoedd “gyfle euraiddâ€� i weld casgliadau Prifysgol ¾«¶«´«Ã½ o sbesimenau prin fel rhan o Å´yl Amgueddfeydd Cymru.
Mae'r sbesimenau, sydd yn rhan o gasgliadau amgueddfa achrededig Y Brifysgol, yn cynnwys oen gyda dau ben, cyrn elc Gwyddelig 7,500 mlwydd oed a chrwban Galapagos – y rhywogaeth a ysbrydolodd Charles Darwin i ddatblygu ei ddamcaniaeth am esblygiad.
Fel rhan o’r ŵyl eleni, bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell Prifysgol ¾«¶«´«Ã½ ar agor ddydd Sadwrn, 25 Hydref, o 11am i 3pm, fel bod aelodau'r cyhoedd yn gallu dysgu mwy am y sbesimenau sydd i’w gweld yno.
Nid yw'r casgliadau fel arfer ar agor i'r cyhoedd, cânt eu defnyddio i ddysgu myfyrwyr y brifysgol yn unig.
Bydd cyfle i ymwelwyr ofyn cwestiynau i'r myfyrwyr fydd yno, a bydd cornel weithgareddau hefyd i blant o bob oed.
Mae'r Ŵyl Amgueddfeydd yn dathlu hanes a thraddodiadau cyfoethog Cymru, yn ogystal â chynnig digwyddiadau rhad ac am ddim sy'n addas i deuluoedd ar hyd a lled y wlad yn ystod hanner tymor mis Hydref.
Cafodd y casgliadau a gedwir yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell Prifysgol ¾«¶«´«Ã½
eu rhoi gan aelodau'r cyhoedd a chan amrywiol academyddion dros y blynyddoedd.
Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys:
- Cath wyllt a roddwyd i'r amgueddfa ym 1926 gan David Davies, ŵyr David Davies Llandinam.
- Cyrn elc Gwyddelig, tua 7,500 mlwydd oed, a ddarganfuwyd mewn cors yn Iwerddon ac a roddwyd gan Goleg y Drindod, Dulyn.
- Ysgithr morfil uncorn
- Oen gyda dau ben a anwyd yn farw ym 1955 ar fferm Tyddyn Du yn Gerlan, Bethesda.
- Crwban Galapagos. Crwbanod Galapagos a ysbrydolodd Charles Darwin i ddatblygu ei theori am esblygiad.
- Cas gydag adar o Seland Newydd a roddwyd ym 1922 gan H.R. Davies a ddaeth â'r casgliad i Gymru ym 1885. Tynnwyd y llun cefndir o ffotograff o'r Teras Pinc yn Seland Newydd a ddinistriwyd yn llwyr gan losgfynydd yn ffrwydro ym 1886.
Meddai Gwenan Hine, Ysgrifennydd y Brifysgol yn Mrhifysgol ¾«¶«´«Ã½, “Rydym yn falch bod Amgueddfa Hanes Natur Brambell yn cymryd rhan yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru eleni, yn enwedig gan fod y Brifysgol bellach yn amgueddfa achrededig. Mae hwn yn gyfle euraidd i’r cyhoedd weld ein casgliadau hanesyddol o sbesimenau prin.â€�
Meddai Rachael Rogers o Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru, sy'n trefnu'r ŵyl, ‘mae'r wythnos hon yn gyfle i ddangos y gwaith anhygoel mae amgueddfeydd ledled Cymru yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn. Mae'n gyfle i ddysgu mwy am hanes Cymru a chymryd rhan mewn digwyddiadau difyr dros hanner tymor. Rydym yn falch iawn o weld cymaint o amgueddfeydd yn cymryd rhan eto yn 2025 ac rydym yn edrych ymlaen at weld beth mae pawb yn ei wneud dros hanner tymor.’
Yn ddiweddar, mae casgliadau amgueddfa Prifysgol ¾«¶«´«Ã½, gan gynnwys Amgueddfa Brambell, wedi derbyn achrediad am y tro cyntaf. Achredu yw'r safon genedlaethol ar gyfer amgueddfeydd a mae’r Brifysgol yn gweithio tuag at wella mynediad at gasgliadau amgueddfa’r Brifysgol mewn partneriaeth ag oriel gelf ac amgueddfa Storiel.
Ariennir Gŵyl Amgueddfeydd Cymru gan Lywodraeth Cymru a threfnir yr ŵyl gan Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru.
Mae adeilad Brambell gyferbyn ag ASDA ac mae cyfarwyddiadau ar gael ar y wefan:
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau a gweld rhestr lawn o weithgareddau'r ŵyl, ewch i wefan yr ŵyl: