Mae project Dod â Chymunedau Ynghyd wedi trawsnewid bywyd myfyrwyr yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau yn ystod blwyddyn academaidd 2024–25. Gyda chefnogaeth Cronfa ¾«¶«´«Ã½, mae myfyrwyr wedi mwynhau cyfleoedd sy'n cyfoethogi eu hastudiaethau, yn cryfhau cyflogadwyedd, ac yn creu atgofion parhaol. Mae Cronfa ¾«¶«´«Ã½ yn cael ei hariannu gan gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr ac yn cael ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni.
Yr hyn sydd wrth wraidd y fenter yw dosbarthiadau meistr proffesiynol mewn sawl maes creadigol megis gwneud ffilmiau, cyfansoddi cerddoriaeth a chyfarwyddo ar gyfer y teledu. Rhoddodd y sesiynau hyn fynediad uniongyrchol i fyfyrwyr at arbenigwyr yn y diwydiant, gan gynnig mewnwelediadau ymhell y tu hwnt i'r hyn a geir yn yr ystafell ddosbarth. Un uchafbwynt oedd gweithdy gyda'r cyfansoddwr John Metcalf, lle bu’r myfyrwyr yn trafod ei waith a chael mewnwelediad amhrisiadwy i dechnegau cyfansoddi. Sesiwn gofiadwy arall oedd sesiwn yng nghwmni’r addysgwr cerddoriaeth Berwyn Jones, a fu’n ysbrydoli’r myfyrwyr gyda dulliau ymarferol o wneud addysg gerddoriaeth yn hygyrch. Fel y dywedodd Ava, sy’n fyfyrwraig yn y drydedd flwyddyn, “Roedd cael clywed be mae o wedi ei wneud yn ystod ei yrfa yn ysbrydoli rhywun."
Aeth y rhaglen ati hefyd i feithrin ymdeimlad o gymuned wrth i fyfyrwyr a staff rannu profiadau. Daeth myfyrwyr a staff ynghyd mewn gweithdy Llythrennedd Bwyd dan arweiniad Cegin y Bobl er mwyn dysgu sut i wneud bara a dysgu am arferion bwyd cynaliadwy, gan ennyn brwdfrydedd a galwadau ar i hyn gael ei wneud yn rhan o'r cwricwlwm. Yn y cyfamser, aeth myfyrwyr llenyddiaeth Saesneg ar ymweliad â Llyfrgell John Rylands ym Manceinion, a chael ymgolli yng nghanol llawysgrifau prin a thestunau hynafol. Yn achos Hadeel, sy’n fyfyrwraig MA, roedd y profiad yn teimlo “fel teithio trwy amser,� gan greu cysylltiad pwerus â hanes.
Y tu hwnt i'r digwyddiadau hyn, bu ymchwilwyr ôl-radd ar eu hennill o gael cyfleoedd i rwydweithio sy’n hanfodol wrth sicrhau llwyddiant academaidd a phroffesiynol yn y dyfodol. Gyda'i gilydd, mae'r profiadau hyn wedi meithrin hyder, sgiliau, ac ymdeimlad o berthyn a fydd yn para ymhell wedi i’r myfyrwyr hyn raddio. Mae'r project yn dangos sut mae haelioni cyn-fyfyrwyr drwy gyfrwng Cronfa ¾«¶«´«Ã½ yn creu ecosystem fywiog o ddysgu ac wir yn creu cymuned. Bydd y myfyrwyr yn gadael ¾«¶«´«Ã½ nid yn unig gyda gradd, ond gyda rhwydweithiau proffesiynol, sgiliau ymarferol, ac atgofion annwyl — a bydd y pethau hyn yn sylfaen y gallant fanteisio arnynt yn eu gyrfaoedd ac, ymhen amser, eu trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.
Dywedodd Dr Elena Hristova, arweinydd y project a darlithydd ym maes Ffilm a'r Cyfryngau:
Fel yr un a roddodd fod i’r project Dod â Chymunedau Ynghyd, hoffwn ddiolch i Gronfa ¾«¶«´«Ã½ am eu harweiniad ac am wneud y project hwn yn bosibl. Mae staff yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau wedi cynllunio profiadau gwerth chweil iawn a chyfoethogol i'n myfyrwyr, ac mae wedi bod yn fraint dod â'r profiadau hynny ynghyd o fewn un cynnig ysgol gyfan. Profiad gwerthfawr ac ysbrydoledig iawn oedd gweld y cyffro a deimlai ein myfyrwyr wrth ddod i gyswllt â’r naill a’r llall yn ogystal â dod i gyswllt â gweithwyr proffesiynol ac arbenigwyr o wahanol ddiwydiannau. Maen nhw wir wedi manteisio ar y cyfle i adeiladu cymuned oddi fewn ac oddi allan i'r Brifysgol a rhannu'r profiadau a'r cyfleoedd hynny gyda’r gymuned ehangach o gyn-fyfyrwyr.
Ymchwilwyr ôl-raddedig yn cyflwyno eu hymchwil mewn cynadleddau academaidd ac yn datblygu eu rhwydweithiau proffesiynol
Myfyrwyr israddedig yn mynychu dosbarthiadau meistr proffesiynol ac uwch a gweithdai ymarferol gydag arbenigwyr ac ymarferwyr ym meysydd ffilmio ffeithiol a ffuglen, drama, ysgrifennu cerddoriaeth, arwain cerddorfa a recordio sain
Myfyrwyr yn cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu cymhwysol mewn archifau, gŵyliau ffilm, stiwdios cynhyrchu, amgueddfeydd a gweithdai
Diwylliant ymchwil israddedig yn cael ei ddathlu gyda’r Antholeg Israddedig a Chylch Trafod Ymchwil yn Sioe Diwedd Blwyddyn