Sesiynau Adolygu Astudiaethau Crefyddol yn y Pasg yn denu 180+
Yn ystod mis Ebrill 2023, denodd yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas dros 180 mynychwr i 6 diwrnod o sesiynau adolygu Astudiaethau Crefyddol ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch.
Yn ystod gwyliau鈥檙 Pasg 2023, cynhaliodd yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas chwe diwrnod o sesiynau adolygu wedi鈥檜 hanelu at fyfyrwyr Safon Uwch sy鈥檔 astudio Astudiaethau Crefyddol ar hyn o bryd. Cydlynwyd y sesiynau gan wahanol arbenigwyr Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd o鈥檙 Ysgol, a denwyd dros 180 o ddisgyblion Safon Uwch ac athrawon Addysg Grefyddol ledled y Deyrnas Unedig.
Meddai Dr Gareth Evans-Jones, 鈥楤wriad y sesiynau yma oedd cynorthwyo disgyblion wrth iddyn nhw adolygu ar gyfer eu harholiadau Safon Uwch. Mi wnaeth y pedwar ohonom gynnal sgyrsiau am wahanol agweddau ar Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, gyda鈥檙 gobaith o grynhoi鈥檙 pynciau diddorol mae鈥檙 disgyblion wedi bod yn eu hastudio.鈥�
Bydd criw Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd yn cynnal Ysgol Haf ddiwedd mis Gorffennaf er mwyn rhoi blas i ddarpar fyfyrwyr a鈥檙 cyhoedd o鈥檙 math o bynciau yr addysgir yn y brifysgol.