Sgwrs ysbrydoledig gyda鈥檙 Parch. Sarah Jones
Er mwyn dathlus Mis Hanes LHDTC+, cynhaliodd Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, mewn perthynas 芒 Chanolfan Addysg Grefyddol Cymru sgwrs gyda鈥檙 Parch. Sarah Jones, y person cyntaf i gael eu hordeinio yn Eglwys Loegr.
Cynhaliwyd y drafodaeth hon ar-lein nos Lun, 26ain o Chwefror, gyda nifer dda wedi mynychu wrth i Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd Athroniaeth a Chrefydd a chyd-gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, gyfweld 芒鈥檙 Parch. Sarah Jones.
Trafododd y Parch. Jones wi gwaith a鈥檌 hamryw brosiectau, cyn ystyried y berthynas rhwng bod yn draws ac yn aelod a ordeiniwyd yn yr Eglwys. Roedd y Parch. Jones yn agored iawn gyda鈥檌 stori a鈥檌 safbwyntiau am gynwysoldeb ac amrywiaeth yn ein cymdeithas Heddiw. Derbyniwyd y sgwrs yn gynnes a gofynnodd amryw o鈥檙 mynychwyr sawl cwestiwn hynod ddiddorol. Yn wir, gallai鈥檙 digwyddiad fod wedi parhau am awr arall o leiaf.
Wrth fwrw golwg ar y digwyddiad, dywedodd Dr Evans-Jones, 鈥楻oedd hwn yn gyfle arwyddocaol i glywed y Parchedig Sarah Jones yn rhannu ei stori ei hun ynghyd 芒鈥檌 safbwyntiau ar amrediad o agweddau sy鈥檔 amlwg yn ein cymdeithas Heddiw. Rydym ni, yn adran Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, ac yng Nghanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru yn hynod ddiolchgar i Sarah am roi o鈥檌 hamser i sgwrsio; felly hefyd i bawb a fynychodd.鈥�
Rev. Sarah Jones