Jessica Hughes
ARWEINYDD T脦M ANTUR - ZIP WORLD
A allwch ddisgrifio eich swydd bresennol a sut y cawsoch y swydd ar 么l graddio?
Ar 么l cwblhau fy ngradd Meistr yn 2021, llwyddais i sicrhau swydd 'Swyddog Hyb Rygbi' gydag Undeb Rygbi Cymru yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Yno, roeddwn yn gyfrifol am hyrwyddo a datblygu rygbi o fewn lleoliad addysgol, gan gyflwyno sesiynau rygbi allgyrsiol sy鈥檔 seiliedig ar y cwricwlwm ar draws pum coleg yng Nghambria. Roedd y swydd yn cynnwys cefnogi clybiau lleol a'r garfan ranbarthol dan 15 oed wrth weithio i uno ysgolion, clybiau a chymunedau. Roedd y prif amcanion yn cynnwys y canlynol: cynyddu cyfranogiad, annog mwynhad, a sicrhau cyfleoedd cynhwysol i bawb, yn unol 芒 gweledigaeth Undeb Rygbi Cymru o gael mwy o bobl i ymwneud 芒 rygbi.
Ar 么l chwe mis, roedd y gofynion o ran teithio dwy awr i fod ar y safle erbyn 8:30am, sesiynau hyfforddi gyda'r nos a oedd yn aml yn golygu dychwelyd adref ar 么l 10pm 5 diwrnod yr wythnos, ac ymrwymiad i gemau rhanbarthol ar benwythnosau yn cael effaith sylweddol ar fy iechyd a'm harian. Gyda chalon drom, gwnes y penderfyniad anodd i adael Undeb Rygbi Cymru er mwyn blaenoriaethu fy lles. Er i mi gamu i ffwrdd o'r swydd, roedd fy angerdd dros ddatblygu talent yn parhau'n ddiwyro. Roeddwn eisiau dod o hyd i swydd ar unwaith ac ar yr un adeg bodloni fy nghariad tuag at weithio gyda phobl yn yr awyr agored, ac o ganlyniad i hynny cefais swydd yn Zip World fel aelod o鈥檙 t卯m antur.
3 mis i mewn i'm swydd newydd yn Zip World daeth cyfle cyffrous i ddatblygu fy r么l o fewn y cwmni 鈥� 3 blynedd yn ddiweddarach rydw i wedi parhau i ddatblygu fel unigolyn yn y r么l arweinydd y t卯m antur. Rwy'n goruchwylio rhedeg y safle o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod popeth yn gweithredu'n effeithlon. Rwy'n rheoli, hyfforddi a datblygu鈥檙 timau. Rwy'n sicrhau bod adnoddau, boed yn staff, offer neu gyflenwadau, yn cael eu defnyddio'n effeithiol. Mae rhan allweddol o鈥檓 swydd yn cynnwys datrys problemau, boed hynny'n datrys heriau gweithredol neu'n dod o hyd i ffyrdd o wella prosesau. Rwyf hefyd yn monitro ac yn dadansoddi metrigau perfformio, ac yn gweithredu strategaethau gyda'r rheolwr safle i hybu cynhyrchiant wrth gadw costau dan reolaeth. Mae cydymffurfiaeth a diogelwch yn flaenoriaeth, gan sicrhau ein bod yn cadw at yr holl reoliadau ac yn cynnal amgylchedd gwaith diogel. Yn y pen draw, fy nod yw symleiddio gweithrediadau, cefnogi'r t卯m, ac ysgogi gwelliant parhaus i gadw Zip World yn perfformio fel y parc antur gorau.
Sut gwnaeth eich gradd gyfrannu at ddatblygiad eich gyrfa?
y gwersi bach a ddysgir drwy arsylwi a sgwrsio sy'n cael yr effaith fwyaf 鈥� Julian Owen ac Eleri Jones oedd fy nhiwtoriaid ym Mhrifysgol 精东传媒 ac ni fyddai fy mhrofiad yn y brifysgol a'm datblygiad gyrfa wedi bod yr un peth hebddyn nhw. Gwnaethant chwarae rhan allweddol wrth lywio fy natblygiad personol a phroffesiynol. Helpodd eu harweiniad a'u mentora amhrisiadwy i bontio'r bwlch rhwng damcaniaeth academaidd a鈥檌 defnydd yn y byd go iawn. Cael tiwtoriaid sy'n eich cynnwys mewn cydweithrediadau rhyngddisgyblaethol, sy'n eich arwain trwy鈥檙 broses o ddadansoddi data, ac yn eich annog i feddwl yn feirniadol; meithrin sgiliau datrys problemau hanfodol. O鈥檜 herwydd nhw, cefais brofiad ymarferol iawn wrth astudio, gan gymryd rhan mewn gwaith labordai a phrojectau ymchwil ac arwain y gwaith hwnnw, bod yn rhan o hyfforddi cymunedol, cymryd rhan weithredol yn yr Academi Rygbi Ranbarthol, bod yn llysgennad i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn Brif Arweinydd Cyfoed i鈥檙 Ysgol Gwyddorau Chwaraeon. Er bod darlithoedd a gwerslyfrau yn darparu'r sylfaen, mae profiad ymarferol go iawn wrth astudio yn datblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi fwyaf, sef datrys problemau, gweithio mewn t卯m, arweinyddiaeth a鈥檙 gallu i addasu. Rwyf nawr yn datblygu fy nh卯m fy hun gan ddefnyddio鈥檙 un egwyddorion.
Beth oedd yr her fwyaf y gwnaethoch ei hwynebu wrth ddechrau eich gyrfa, a sut wnaethoch ei goresgyn?
Yr her fwyaf a wynebais wrth ddechrau fy ngyrfa oedd dod o hyd i fy nhroedle a sicrhau cyfle. Bu imi gwblhau fy ngradd meistr yn ystod cyfnod clo COVID-19, ar adeg pan roedd yr ansicrwydd o ymuno 芒'r farchnad swyddi, ynghyd 芒 chystadleuaeth gynyddol rhwng graddedigion newydd a gweithwyr proffesiynol profiadol a oedd wedi colli swyddi, yn llethol. Roedd y pandemig wedi cyflymu arferion gweithio o bell a thrawsnewid digidol, ond roeddwn i'n gwybod fy mod yn ffynnu mewn amgylcheddau ymarferol sy'n canolbwyntio ar dimau.
Ar adegau roeddwn yn petruso cyn mentro, fodd bynnag, chwaraeodd sgyrsiau dros Zoom gyda fy nhiwtor, Julian, ran hanfodol wrth adfer fy hunan-gred. Helpodd ei arweiniad i fireinio fy nodau o ran gyrfa a llywio'r broses o chwilio am swydd yn fwy strategol. O ganlyniad i鈥檞 gyngor, dysgais fod rhwydweithio ac adeiladu perthnasoedd yr un mor bwysig 芒 sgiliau a chymwysterau. Y peth pwysicaf i mi ei ddysgu, a鈥檙 cyngor y byddwn yn ei roi i fyfyrwyr nawr, yw mynd ati i rwydweithio. Cysylltwch 芒 gweithwyr proffesiynol, meithrin cysylltiadau ystyrlon, a chwilio am gyfleoedd mentora. Weithiau, mae'r cyfle cywir yn dod nid yn unig o wneud cais am swyddi ond o'r perthnasoedd yr ydych yn eu datblygu ar hyd y ffordd.
A oes unrhyw sgiliau penodol o'ch cwrs yr ydych yn eu defnyddio'n rheolaidd yn eich swydd?
Mae鈥檙 agweddau gweithredol a鈥檙 agweddau arweinyddiaeth ar fy r么l yn gofyn am y gallu i ddadansoddi data a'i droi鈥檔 fewnwelediadau ymarferol. Boed yn asesu metrigau perfformio, ystadegau diogelwch neu adborth gan gwsmeriaid, mae fy mhrofiad o ddadansoddi data yn fy ngalluogi i ddehongli adroddiadau data yn effeithiol. Gallaf esbonio'r canfyddiadau mewn termau clir a syml i'm t卯m, gan ganiat谩u iddynt wneud penderfyniadau gwybodus sy'n gwella ein gweithrediadau. Sgil hanfodol arall yw'r gallu i siarad a chyflwyno gyda hyder a phwrpas. Mae'r cyfuniad o ddadansoddi data a chyfathrebu yn fy ngalluogi i arwain yn effeithiol, gan sicrhau bod y t卯m yn wybodus, yn frwdfrydig, ac yn ymdrechu'n barhaus i wella ein gweithrediadau antur.
Pa mor bwysig fu rhwydweithio yn nilyniant eich gyrfa?
Yn aml, mae'r cyfleoedd cywir yn codi nid yn unig o wneud cais am swyddi, ond o'r perthnasoedd a'r cysylltiadau yr ydych yn eu meithrin dros amser. Yn ogystal 芒 chwblhau fy ngradd a fy ngradd meistr, cefais y fraint o weithio gydag Undeb Rygbi Cymru, lle b没m yn gwasanaethu fel hyfforddwr cymunedol a chynorthwyydd cryfder a chyflyru i鈥檙 academi rygbi ranbarthol. Fe wnaeth y profiadau hynny ganiat谩u i mi gwrdd 芒 rhai unigolion gwirioneddol dalentog ac angerddol sydd wedi bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth wych drwy gydol fy ngyrfa. Mae'r perthnasoedd yr wyf wedi'u meithrin dros y 5 mlynedd wedi bod yn amhrisiadwy. Rwyf wedi cael nifer o fentoriaid a chydweithwyr a oedd yno bob amser i gynnig cefnogaeth ac arweiniad, yn enwedig pan wnes i ddechrau yn fy swydd fel Swyddog Hyb Rygbi. Rwy鈥檔 parhau i fod yn agos gyda llawer o'r cysylltiadau hyn, ac yn parhau i elwa o'u dealltwriaeth a'u hanogaeth.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i raddedigion diweddar sy'n ymuno 芒'r farchnad swyddi?
Fy mhrif ddarn o gyngor i raddedigion diweddar sy'n ymuno 芒'r farchnad swyddi yw cofio bod yr hyn yr ydych yn ei wneud ochr yn ochr 芒'ch gradd yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach. Er bod gallu ysgrifennu papurau ymchwil cryf yn hanfodol, gall datblygu sgiliau megis cydweithio, rhwydweithio ac ymgysylltu'n weithredol 芒 chymuned eich prifysgol ddarparu gwerth llawer mwy. Mae'n hanfodol cymryd rhan, cyfrannu at brojectau, a gwneud i chi'ch hun sefyll allan o'r dorf. Os ydych chi eisiau rhywbeth, mae angen i chi fod yn ddi-baid wrth fynd ar ei drywydd. Manteisiwch ar bob cyfle a ddaw i鈥檆h rhan. Gall y farchnad swyddi fod yn gystadleuol, ond bydd y rhai sy'n rhagweithiol, yn dyfalbarhau, ac yn barod i ddysgu bob amser yn dod o hyd i ffordd i lwyddo.
A oes unrhyw gymwysterau proffesiynol neu dystysgrifau y byddech yn argymell i rywun eu cael?
Ar 么l bod i ffwrdd o鈥檙 byd ymchwil a gwyddorau chwaraeon proffesiynol am ychydig flynyddoedd, fy argymhelliad mwyaf fyddai mynychu cwrs Microsoft Excel a dod yn hyfedr mewn rheoli data. Mewn astudiaethau ymchwil a'ch gyrfa broffesiynol, bydd meistroli Excel yn arbed oriau di-rif i chi. Mae'r gallu i drefnu, dadansoddi a chyflwyno data yn effeithlon yn amhrisiadwy, gan ei fod nid yn unig yn symleiddio llif gwaith ond hefyd yn gwella eich cynhyrchiant a'ch prosesau gwneud penderfyniadau cyffredinol.