Siwan Iorwerth
Enw llawn:
Siwan Iorwerth
Cwrs:
Gradd Meistr mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Beth wnaeth dy ysbrydoli i astudio Meistr mewn Gwyddor Chwaraeon, a sut wnes di ddechrau yn y maes hwn?
Mae gen i ddiddordeb mawr mewn deall y mecanweithiau ffisiolegol, biomecanyddol a seicolegol sy鈥檔 dylanwadu ar berfformiad athletwyr. Rydw i wastad wedi bod yn frwdfrydig am chwaraeon ac yn ymwybodol o'r r么l bwysig sydd gan gwyddor chwaraeon mewn gwella perfformiad, atal anafiadau, a chefnogi adferiad.
Dechreuais yn y maes trwy fy astudiaethau israddedig mewn Gwyddorau Biofeddygol, lle cefais gyfle i weithio ar brosiectau ymarferol, arsylwi arbenigwyr, a datblygu dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol y maes. Drwy brofiadau gwaith, ges i brofi'r heriau a'r cyfleoedd o fewn gwyddor chwaraeon, a cryfhau鈥檙 sgiliau angenrheidiol i ddatblygu fy ngyrfa ymhellach drwy astudio Meistr.
Alli di ddisgrifio dy cffocws ymchwil neu unrhyw brosiectau ti鈥檔 gweithio arnynt ar hyn o bryd?
Ar hyn o bryd, rwy鈥檔 ymchwilio sut mae cyflyrau meddwl neu deimladau mewnol unigolion yn effeithio ar y ffordd mae nhw鈥檔 barnu ymdrech ymarfer corff eraill. Yn benodol, rwy鈥檔 edrych i weld os ydi blinder corfforol yn creu rhagfarn tuag at y feirniadaeth, gan awgrymu bod cyflwr corfforol yn dylanwadu ar ddehongliad o ymdrech eraill. Rydym hefyd eisiau gweld os yw rhoi gwobr melys yn newid y feirniadaeth, gan dybio bod y berthynas rhwng ymdrech a gwobr yn effeithio arni.
Mae鈥檙 prosiect yma yn ceisio gwella ein dealltwriaeth ar sut mae blinder a chymhelliant yn effeithio ar sut rydym yn gweld ac yn barnu ymdrech eraill, gyda goblygiadau ar gyfer hyfforddiant, adsefydlu ac asesu ymdrech athletwyr.
Sut wyt ti鈥檔 gweld gwyddor chwaraeon yn datblygu yn y dyfodol, a pha effaith wyt ti鈥檔 gobeithio ei chael yn y maes?
Rwy鈥檔 tybio y bydd gwyddorau chwaraeon yn datblygu wrth i dechnolegau ddatblygu, er engraifft ffyrdd gwell o ddadansoddi data a defnydd cynyddol o AI, i wella perfformiad athletwyr a phersonoli hyfforddiant. Hefyd, rwy鈥檔 credu y bydd mwy a mwy o bwyslais ar iechyd meddwl ac adsefydlu i gefnogi athletwyr yn holistig.
Yn fy ngyrfa i, rwy鈥檔 gobeithio hybu鈥檙 defnydd o ymarfer corff fel meddiginiaeth o fewn y boblogaeth glinic a chyffredinol, drwy addysgu a chreu strategaethau adfer ac atal anafiadau fwy effeithiol ac effeithlon, mewn gobaith o wella safonau bywyd a lleihau risg o anafiadau.
Beth fu鈥檙 rhan fwyaf heriol a鈥檙 rhan fwyaf gwerth chweil o dy astudiaethau hyd yn hyn?
Y rhan fwyaf heriol i mi hyd yn hyn yw鈥檙 gwaith ymchwil yn y labordy oherwydd bod hyn yn awyrgylch newydd i mi ac yn fy nhynnu fi allan o fy 鈥榗omfort zone鈥�. Er hynny, dyma hefyd yw鈥檙 cyfle mwya gwerth chweil rydw i wedi gael gan mod i鈥檔 dysgu pethau newydd bob tro, mae鈥檔 wych gweithio mewn criw, ac mae鈥檙 lab yn gyfleuster gwych ac rwy鈥檔 teimlo鈥檔 lwcus cael gweithio yno o ddydd i ddydd.
Beth yw dy ddyheadau gyrfa ar 么l cwblhau dy radd, a sut wyt ti'n bwriadu defnyddio鈥檙 hyn ti wedi鈥檌 ddysgu?
Ar 么l cwblhau fy ngradd, rwy鈥檔 anelu at weithio gyda poblogaethau clinigol, gan ganolbwyntio ar atal ac adsefydlu anafiadau. Hoffwn greu a darparu cynlluniau ymarfer corff i bobl 芒 chyflyrau cronig, gan ddefnyddio fy ngwybodaeth i wella eu safon bywyd a鈥檜 hannibyniaeth. Drwy ddefnyddio鈥檙 hyn rwyf wedi鈥檌 ddysgu, rwy鈥檔 gobeithio gwneud gwahaniaeth ymarferol trwy ddarparu strategaethau sy鈥檔 cefnogi adferiad ac iechyd hirdymor.
Unrhyw gyngor i rhywun sydd yn ystyried dilyn gradd Meistr Gwyddor Chwaraeon?
Fy nghyngor i yw i fanteisio ar bob cyfle ac i ymrwymo鈥檔 llawn i鈥檙 profiad. Cymerwch ran mewn darlithoedd a sesiynau ymarferol oherwydd gewch chi lawer mwy allan o鈥檙 radd drwy fod yn rhan o鈥檙 trafodaethau a鈥檙 ymchwil.
Canolbwyntiwch ar feysydd rydych chi wir yn eu mwynhau oherwydd mae鈥檙 radd yn ddechrau gwych i baratoi gyrfa llwyddianus a datblygu鈥檆h sgiliau yn y maes. Yn olaf, mwynhewch y profiad, mae鈥檔 gyfle gwych i dyfu鈥檔 broffesiynol.